Disgwyl i Wylfa fod yn safle ar gyfer gorsaf ynni niwclear newydd

WylfaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daeth y gwaith o gynhyrchu ynni i ben yn Wylfa nôl yn 2015

  • Cyhoeddwyd

Mae disgwyl i Wylfa ar Ynys Môn gael ei enwi yn safle ar gyfer gorsaf ynni niwclear newydd, gyda chadarnhad swyddogol i ddod ddydd Iau.

Mae BBC Cymru yn deall y bydd Llywodraeth y DU yn rhoi eu sêl bendith i adweithydd modiwlar bach ar y safle.

Mae gweinidogion wedi bod yn ystyried a ddylid dewis Ynys Môn neu Oldbury yn Sir Gaerloyw ar ôl dod i gytundeb gwerth £2.5bn gyda Rolls Royce i'w hadeiladu yn gynharach eleni.

Y gobaith yw y bydd yr orsaf yn darparu hyd at 900 o swyddi llawn amser, a miloedd yn ychwanegol yn ystod y gwaith adeiladu.

'Oes aur niwclear'

Dyw hi ddim yn glir faint o adweithyddion fydd yn cael eu hadeiladu, ond mae yna le ar y safle ar gyfer mwy nag un.

Mae adran ynni, diogelwch a sero net y DU wedi derbyn cais am sylw.

Mae'r adran yn flaenorol wedi addo "oes aur niwclear" a allai "warchod cyllid teuluoedd, hybu diogelwch a chreu miloedd o swyddi".

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud na fyddan nhw'n gwneud sylw ond maen nhw wedi dweud yn y gorffennol bod "ynni niwclear yn rhan o'n cynllun i symud i ffwrdd o danwydd ffosil, gan ddefnyddio adweithyddion modiwlar mawr a bach".

"Mae Wylfa mewn sefyllfa arbennig o dda i ddenu buddsoddiad mewn gorsafoedd niwclear newydd oherwydd ei gwaddol niwclear a'i gweithlu lleol medrus iawn.

"Rydym yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod potensial Cymru yn y sector hwn yn cael ei wireddu'n llawn."

Mae adweithyddion modiwlar bach yn cael eu cynhyrchu mewn ffatri cyn cael eu gosod ar y safle ac maen nhw'n gallu cynhyrchu digon o ynni i bweru tua miliwn o gartrefi.

Atomfa Niwclear WylfaFfynhonnell y llun, Getty Images

Ym mis Mehefin fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU fuddsoddiad o £2.5bn mewn adweithyddion niwclear bach mewn partneriaeth gyda Rolls Royce.

Yn 2024 fe ddywedodd llywodraeth Geidwadol Rishi Sunak mai safle Wylfa oedd y dewis cyntaf a gorau fel lleoliad i godi adweithydd niwclear mawr, ar ôl prynu'r safle gan y datblygwyr blaenorol.

Fe gyhoeddodd Llafur adolygiad o gynlluniau niwclear y DU o fewn wythnosau i ennill yr etholiad cyffredinol ym mis Gorffennaf yr un flwyddyn, ond yna ym mis Mehefin 2025 fe gyhoeddodd fuddsoddiad o £14.2bn mewn gorsaf newydd fawr yn Sizewell yn Suffolk.

Graffeg adweithyddion niwclar

Mae Wylfa hefyd wedi bod yn y ras am adweithyddion llai, sy'n rhatach ac sydd â'r potensial i fod yn weithredol yn llawer cyflymach.

Fe gafodd ynni niwclear ei gynhyrchu am y tro diwethaf ar safle Wylfa yn 2015.

Cafodd cynlluniau blaenorol gwerth £20bn ar gyfer gorsaf bŵer niwclear newydd eu gollwng yn swyddogol yn 2021 ar ôl i ddatblygwyr fethu â chyrraedd cytundeb ariannol gyda Llywodraeth y DU.

Mae ynni niwclear yn bwnc dadleuol, ac mae mudiad PAWB (Pobl Atal Wylfa-B) yn dweud na ddylai cynhyrchu niwclear newydd fod yn opsiwn.

Wrth ymateb i'r newyddion brynhawn Mawrth dywedodd Dylan Morgan o fudiad PAWB: "Dydi adweithydd modiwlar Rolls Royce ddim yn fach o gwbl - mae'n 470 MegaWat - yr un maint ag un o adweithyddion Magnox Wylfa ac yn fwy na dau adweithydd Magnox Trawsfynydd.

"Cynlluniau ar bapur ydyn nhw o hyd," ychwanegodd gan ddweud ei fod hefyd yn amau faint o swyddi a fydd yn cael eu creu gan y bydd y "darnau yn cael eu creu ymhell o Ynys Môn".

"Mwy priodol fyddai buddsoddi mewn ffynonellau ynni adnewyddadwy llawer rhatach a llawer cyflymach i'w gwireddu."

Huw Jones [Dyn tacsi yn Amlwch] a Rhian Sinnott
Disgrifiad o’r llun,

Mae Huw Jones a Rhian Sinnott yn croesawu'r newyddion

Ond beth oedd barn pobl yr ynys wedi'r newyddion?

Roedd Huw Jones, sy'n rhedeg cwmni tacsis yn Amlwch, o'r farn ei fod yn "beth da i Wylfa i ddod o ran gwaith i'r hogia lleol, i gadw'r hogia yma yn lle bo' nhw'n galifantio i ffwrdd".

Ychwanegodd bod "angen o, mae pob peth, pob man 'di cau.

"Toes na'm byd yma, rhaid iddo ddŵad, bydd o'n cadw'r hogia i gyd yn lleol," meddai.

Roedd Rhian, sy'n cadw siop anrhegion Cain yn Llangefni hefyd o'r farn ei fod yn "beth da".

"Mae'n mynd i helpu'r ynys i gyd os oes 'na fwy o waith 'ma, mwy o bobl, gwario mwy yn y siop fel y siop anrhegion sydd efo ni."

'Wedi bod yma o'r blaen'

Dywed Gary Pritchard, Arweinydd Cyngor Ynys Môn fod penderfyniad ar sefyllfa Wylfa yn rhywbeth "'da ni wedi bod yn galw am ers rhai blynyddoedd".

"Os mae 'na gyhoeddiad yn dod, bydd yn drawsnewidiol i ni, 'da ni'n croesawu'r swyddi sy'n dod ynghlwm â datblygiad yn yr Wylfa.

"Mae'n hollbwysig i'n strategaeth ni fel cyngor, yn enwedig y strategaeth ar gyfer gogledd Ynys Môn, sydd wedi gweld dirywiad yn yr economi."

Ond fe ychwanegodd fod "pobl Ynys Môn wedi bod yma o'r blaen, be 'da ni isio ei weld ydi cyhoeddiad pendant a rhaw yn y ddaear".

Wrth ymateb, dywedodd Plaid Cymru eu bod yn croesawu'r cyhoeddiad gan ddweud ei fod yn "gyfle gwirioneddol i gyflawni prosiect trawsnewidiol sy'n cryfhau diogelwch ynni ac yn fuddiol i gymunedau lleol, gan barchu amgylchedd, diwylliant a'r iaith Gymraeg yr Ynys yn llawn".

Ychwanegodd y Ceidwadwyr Cymreig eu bod hwythau'n croesawu'r cyhoeddiad a'i fod yn "gam enfawr ymlaen i ynni niwclear ar Ynys Môn".

Dywed llefarydd ar ran Reform UK bod y cyhoeddiad yn un "hir ddisgwyliedig, ac os byddai'r ewyllys gwleidyddol wedi bod yna, y byddem eisoes wedi bod ar ein ffordd i gynhyrchu pŵer niwclear o Wylfa."

'Ynni niwclear yn dychwelyd i'r ynys'

Mae gwleidyddion wedi bod yn trafod dyfodol Wylfa fel safle niwclear ers blynyddoedd, ond hyd yn hyn dyw'r addewidion heb arwain at ddatblygiadau cadarn.

Dan bwysau gwleidyddol mi fydd y ddwy lywodraeth Lafur yng Nghaerdydd a San Steffan yn gobeithio yn ddirfawr mai dyma'r cyhoeddiad fydd yn golygu bod ynni niwclear yn dychwelyd i'r ynys.

Ar ôl colli isetholiad Caerffili, a gydag etholiad ymhen chwe mis, mi fydd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan, yn sicr o ddatgan bod y cyhoeddiad yma fel arwydd o'r hyn y gall y ddwy lywodraeth ei gyflawni dros Gymru.

Bydd rhai yn siomedig na fydd yna atomfa fawr ar yr ynys, eraill yn ei gwrthwynebu yn llwyr, ond i lawer ar yr ynys mi fydd y swyddi ddaw a gydag unrhyw atomfa yn rhywbeth i'w groesawu.

Pynciau cysylltiedig