Gwahardd cynghorydd rhag gyrru am 18 mis ar ôl yfed a gyrru

Roedd y cynghorydd John Pughe bron ddwywaith dros y cyfyngiad alcohol wrth yrru
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorydd o Wynedd, oedd yn arfer gweithio fel gyrrwr ambiwlans, wedi ei wahardd rhag gyrru am 18 mis ac wedi cael gorchymyn i dalu dirwyon a chostau o fwy na £1,200 ar ôl pledio'n euog i gyhuddiad o yfed a gyrru.
Roedd John Pughe o Dywyn, Gwynedd, bron ddwywaith dros y cyfyngiad alcohol wrth yrru pan gafodd ei stopio gan yr heddlu ddydd Mawrth 19 Awst y llynedd.
Cafodd Mr Pughe, 66, ei weld yn cael trafferth wrth facio ei gar Mercedes du wrth adael maes Sioe Meirionnydd y diwrnod hwnnw.
Dywedodd yr erlynydd, Rebecca Kuipers, fod aelod o'r cyhoedd wedi cysylltu â'r heddlu ac mi wnaeth swyddogion yr heddlu stopio car Mr Pughe ar Ffordd y Pier yn Nhywyn yn ddiweddarach.
Dangosodd prawf anadl fod ganddo 66 microgram o alcohol yn ei gorff - y terfyn cyfreithiol yw 35.

John Pughe yn gadael Llys Ynadon Llandudno ddydd Gwener
Mewn dau wrandawiad cynharach, roedd Mr Pughe wedi dweud y byddai'n pledio'n ddieuog i'r cyhuddiad.
Ddydd Gwener yn Llys Ynadon Llandudno roedd dau swyddog o'r heddlu wedi cyrraedd yn barod i roi tystiolaeth yn ei erbyn.
Ond fe blediodd Mr Pughe, oedd yn cynrychioli ei hun, yn euog.
Dywedodd wrth yr ynadon ei fod wedi cael trafferth bacio y diwrnod hwnnw oherwydd poen yn ei gefn a'r tir anwastad ar faes y sioe.
"Roedd fy nghefn yn fy lladd," meddai Mr Pughe, wnaeth gerdded i'r llys ddydd Gwener gyda chymorth ffon.
"Roedd gen i botel fach o jin yn y car," meddai, gan ychwanegu "roeddwn i wedi cymryd fy nhabledi" gan gyfeirio at ei feddyginiaeth ar y pryd.
"Mi ges i ambell sip o'r diod ond dyna'r cyfan oeddwn i'n meddwl oedd o. Doeddwn i ddim wedi bwyta drwy'r dydd."
Dywedodd hefyd wrth yr ynadon: "Fel gyrrwr ambiwlans (wedi ymddeol), dwi wedi gweld y goblygiadau (o yfed a gyrru) ac ni fyddwn yn gwneud hynny'n fwriadol."
Aeth ymlaen i ddweud ei fod, ers ei arestio, yn teimlo ei fod wedi cael ei dargedu gan yr heddlu a'i gam-drin am ei fod yn un o gynghorwyr Gwynedd.
Cafodd ei wahardd rhag gyrru am 18 mis ond dywedwyd wrtho y gallai gael ei drwydded yn ôl erbyn 1 Ebrill y flwyddyn nesaf os bydd yn talu ac yn cwblhau cwrs am yfed a gyrru.
Cafodd ddirwy o £596, a gorchymyn i dalu gordal dioddefwr o £238 yn ogystal â chostau o £400.
Gwrthododd wneud sylw wrth adael y llys.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.