Jess Fishlock yw rhedwr cudd Ras Nos Galan 2025

Jess Fishlock ger man cychwyn rasus Nos Galan Aberpennar
Disgrifiad o’r llun,

Jess Fishlock ger man cychwyn rasus Nos Galan Aberpennar

  • Cyhoeddwyd

Un o bêl-droedwyr mwyaf llwyddiannus Cymru, Jess Fishlock, yw rhedwr dirgel ras enwog nos Galan eleni yn Aberpennar.

Fe gafodd y ras ei sefydlu yn 1958 i goffáu'r athletwr chwedlonol lleol Guto Nyth Brân, ac erbyn hyn mae'n denu dros 1,700 o gystadleuwyr a hyd at 10,000 o wylwyr.

Bob blwyddyn mae gwesteion arbennig o'r byd chwaraeon yn cael gwahoddiad i gymryd rhan, ond mae eu henwau'n aros yn gyfrinach tan y noson ei hun.

Yn draddodiadol maen nhw'n gosod torch hefyd ger bedd Guto Nyth Brân ym mynwent Llanwynno.

Mae rhedwyr cudd y gorffennol yn cynnwys y bocsiwr Lauren Price, y chwaraewyr rygbi rhyngwladol George North a Gareth Thomas a'r dyfarnwr rygbi Nigel Owens.

Fishlock yn erbyn Lloegr yn Euro 2025Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daw ymddangosiad Jess Fishlock yn Aberpennar nos Fercher wythnosau'n unig ar ôl chwarae ei gêm olaf i Gymru

Dywedodd trefnwyr ei bod "yn fraint" cael cyhoeddi mai Fishlock yw'r gwestai arbennig eleni, a'u bod "yn falch iawn o'i chroesawu "i'n tref hanesyddol ar gyfer achlysur gwych Nos Galan 2025".

Mae'r chwaraewr canol cae, 38 oed, o Gaerdydd wedi ennill y nifer fwyaf o gapiau dros Gymru - 166 - a sgorio'r nifer fwyaf o goliau dros ei gwlad, sef 48.

Fe chwaraeodd ei gêm olaf i Gymru cyn ymddeol o bêl-droed rhyngwladol ym mis Hydref - gêm gyfeillgar yn erbyn Awstralia yn Stadiwm Dinas Caerdydd a welodd yr ymwelwyr yn ennill o ddwy gôl i un.

Yn gynharach eleni fe greuodd hanes trwy sgorio gôl gyntaf merched Cymru erioed yn un o'r prif bencampwriaethau rhyngwladol, yn ystod y golled o 4-1 yn erbyn Ffrainc yn Euro 2025.

Jess Fishlock yn cludo'r ffagl ar gyfer dechrau rasys Guto Nyth Brân - mae hi yng nghanol Aberpennar ac mae aelodau'r cyhoedd i'w gweld y tu ôl iddi
Disgrifiad o’r llun,

Jess Fishlock gyda'r ffagl sy'n nodi dechrau'r rasys blynyddol, sydd wedi eu cynnal ar nos Galan yn Aberpennar ers 1958

Gan ddisgrifio'r rasys Nos Galan fel "achlusur i'r teulu" a "noson llawn traddodiad, chwedl a sêr y byd chwaraeon", dywedodd aelod o'r pwyllgor, y Cynghorydd Ann Crimmings y "bydd hi'n wych gweld Jess Fishlock MBE yn rhedeg i ganol y dref yn cario ffagl Nos Galan".

"Mae hi'n ysbrydoliaeth i lawer iawn o bobl ac rwy'n siŵr y bydd llawer o ferched – a bechgyn – ifanc yn y dorf sydd yr un mor uchelgeisiol â Jess. Mae hi'n fodel rôl gwych i bob un ohonyn nhw.

"Fe ddechreuon ni'r rasys 67 o flynyddoedd yn ôl, ac rydyn ni wedi ymrwymo i barhau â'r traddodiad yma am flynyddoedd i ddod!

"Wrth gwrs, rydyn ni'n gweithio'n galed i gadw chwedl Guto Nyth Bran yn fyw ac i anrhydeddu ymrwymiad a gweledigaeth sylfaenydd y rasys, y diweddar Bernard Baldwin MBE."

Straeon perthnasol