Rhybudd i beidio â dibynnu ar AI am gyngor ar lanw'r môr

Tyrfa o bobl yn y mor ac ar draeth Dinbych-y-pysgod. Rhai nofwyr yn rhedeg i'r mor yn eu gwisg ffansi nadoligaidd. Ffynhonnell y llun, Sam Skyrme-Blackhall
Disgrifiad o’r llun,

Mae cannoedd yn mynd i nofio yn y môr ar Wyl San Steffan yn Ninbych-y-pysgod.

  • Cyhoeddwyd

Wrth i bobl gynllunio gweithgareddau awyr agored dros y gwyliau mae'r Asiantaeth Forwrol a Gwylwyr y Glannau yn cynghori pobl i beidio â dibynnu ar offer deallusrwydd artiffisial (AI).

Daw'r cyngor ar ôl i ddau berson fynd i drafferthion ar Ynys Sili, ger Y Barri, ar ôl i ChatGPT roi amseroedd llanw anghywir iddyn nhw ac roedd angen i wylwyr y glannau eu hachub.

Dywedodd Prif Weithredwr Alphabet, rhiant-gwmni Google, Sundar Pichai, fod modelau AI yn dueddol o wneud camgymeriadau ac mae'n annog pobl i'w defnyddio ochr yn ochr ag adnoddau eraill.

'Byddwch yn ofalus wrth ddefnyddio AI'

Dywedodd un o'r dynion gafodd eu hachub ar draeth Ynys Sili wrth Penarth SMTV, sianel newyddion ar y cyfryngau cymdeithasol eu bod wedi gwneud camgymeriad defnyddio ChatGPT er mwyn cacnfod pryd oedd y llanw isel.

Yn ôl y rhaglen AI, mi fyddai'r llanw isel am 09:30, gan olygu y dylai codi'n gynnar yn y bore fod wedi rhoi digon o amser i gerdded draw i'r ynys ac yn ôl.

Ond roedd yr wybodaeth yn anghywir o ddwy awr ac roedd y ffordd sych dan ddŵr pan wnaethon nhw geisio dychwelyd.

Dywedodd Gwylwyr y Glannau: "Er y gall offer AI fod yn ddefnyddiol iawn, mae'r wybodaeth yn cael ei dynnu o ystod eang o ffynonellau i gasglu gwybodaeth sydd ddim bob amser yn gywir ar gyfer lleoliad neu ardal benodol."

Maen nhw'n awgrymu defnyddio adnoddau fel Easy Tide gan Swyddfa Hydrograffeeg y DU neu wasanaeth y Swyddfa Dywydd.

Llun o lwybr cul gyda gwair sydd wedi ei gysyllltu a'r tir mawr. Mae dwr y mor bob ochr i'r llwybr
Ffynhonnell y llun, Alan Hughes/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n bosib cerdded ar hyd y llwybr pan fo'r llanw yn isel ar Ynys Sili

Mae gwybodaeth am amseroedd llanw ar gael yn rhwydd ar-lein – gyda sawl gwefan yn rhoi'r un wybodaeth gywir.

Fodd bynnag, pan ofynnodd y BBC yr un cwestiwn i ChatGPT am amser y llanw, mi gafwyd yr un ateb anghywir a gafodd yr ymwelwyr â thraeth Ynys Sili.

Ar ymgais arall, roedd yr ateb bum awr allan ohoni.

Llun agos o wyneb Steven Schockaert yn edrych ar y camera.Ffynhonnell y llun, Steven Schockaert
Disgrifiad o’r llun,

Mae Steven Schockaert yn awgrymu peidio â dibynnu ar wybodaeth AI wrth gynllunio gan ddefnyddio gwybodaeth o dablau

Dywedodd yr Athro Steven Schockaert, pennaeth adran ymchwil AI a dadansoddi data yn Adran Cyfrifiadureg Prifysgol Caerdydd, mai'r ffordd y caiff yr wybodaeth ei chyflwyno ar-lein allai fod wrth wraidd y broblem yn yr achos hwn.

"Rwy'n credu mai'r broblem yma yw bod y tablau llanw yn cael eu dangos ar ffurf tabl, ac mae'r model yn cael trafferth dadansoddi'r wybodaeth gywir o'r tabl," meddai.

"Yn draddodiadol, mae tablau wedi bod yn eithaf heriol i fodelau iaith."

Mae'n cynghori pobl i barhau i ofyn i AI am wybodaeth y gallwch ei wirio eich hun, fel llunio e-byst.

"Ond os byddwch yn gofyn iddo am wybodaeth ffeithiol, does na ddim sicrwydd y bydd yn gywir neu ddim.

"Dydy hi ddim yn syniad da dibynnu arnyn nhw am wybodaeth na allwch ei gwirio ac sy'n bwysig, fel yn yr achos hwn," mae'n ychwanegu.

Weithiau gall AI helpu ar y mynyddoedd

Yn ddiweddar cafodd dau gerddwr eu hachub gan dîm chwilio ac achub Aberdyfi ar ôl defnyddio AI i gynllunio eu taith i fyny mynydd Cader Idris.

Doedd y ddau ddim wedi cerdded llawer o fynyddoedd o'r blaen ac fe wnaethon nhw ddibynnu ar AI i wirio'r tywydd a chael awgrym o ba offer i'w ddefnyddio - ond fe ddigwyddodd hyn ar ddiwrnod Storm Amy.

Dywedodd arweinwyr y tîm, Phil Britton a Gareth Davies, sydd â dros 50 mlynedd o brofiad rhyngddynt, fod y ddau gerddwr wedi "paratoi yn weddol dda" o ran offer, ond nad oedd ganddyn nhw'r profiad i ddehongli gwybodaeth fel rhagolygon o wyntoedd cryf o 60mya.

Esboniodd Phil Britton fod llawer o wybodaeth ar gael i gerddwyr, ond mai'r her yw deall a dadansoddi'r wybodaeth honno mewn sefyllfaoedd go iawn pan nad oes gennych brofiad mynydda.

Llun o Gareth Davies yn gwisgo helmed a gwisg y tim achub mynydd yn yr awyr agored. Mae o tu allan ac yn edrych i ffwrdd o'r camera.Ffynhonnell y llun, Gareth Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Davies wedi bod yn aelod o dîm achub mynydd Aberdyfi ers degawd

"Roedd y ddau wedi cyrraedd y copa ac wedi cael lloches mewn bwthyn, gan sylweddoli fod y sefyllfa bellach y tu hwnt i'w rheolaeth."

"Y tro hwn, daeth AI i'w hachub."

Dywedodd Gareth, wnaeth gyfarfod y ddau ar ôl i gydweithwyr eu harwain hanner ffordd i lawr y mynydd: "Roedden nhw wedi siarad ag un o ddarparwyr AI gan ddweud 'rydym wedi'n hanafu ar fynydd yn y DU, beth wnawn ni?"'

Mae Gareth yn credu nad oedd y dynion yn 'ffyliaid', ac "roedd ganddyn nhw yr offer a'r ffitrwydd ar gyfer y daith, ond roedden nhw wedi camddehongli'r sefyllfa".

"Wrth achub pobl ar y mynyddoedd, yr hyn rydyn ni'n ei ganfod yw bod yr holl wybodaeth ar gael, ond mae bob amser yn fater o'i ddehongli'n gywir os nad oes gennych y profiad," meddai.

Llun o gopa mynydd Cader Idris. Mae'r ongl yn edrych i lawr ar y cwm gyda'r llyn yng nghanol y llun.
Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cader Idris yn boblogaidd gyda cherddwyr

Mae'n argymell chwilio am wybodaeth leol, naill ai drwy holi pobl neu drwy fforymau ar-lein.

"'Rwy'n gerddwr hamddenol. Dwi wedi gwneud rhai o'r teithiau cerdded mwy heriol, ond pe bai cerddwr profiadol yn dweud wrthai 'roedd yn anodd i mi', byddwn i'n debygol o fod eisiau mynd gyda ffrind neu rywun oedd yn adnabod y mynydd ychydig yn well," meddai.

Yn ôl Phil Britton, boed yn AI, apiau neu fatris ffôn, un thema sy'n gyffredin: "Mae technoleg yn wych, ond mae'n rhaid i chi wybod y cyfyngiadau."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig