Dyn o Fôn â'i fryd ar fod yn chwaraewr rygbi rhyngwladol... i Gibraltar

Mae Sean Magee eisoes wedi chwarae i dîm rygbi Gibraltar mewn gemau cyfeillgar
- Cyhoeddwyd
Mae chwaraewr rygbi ifanc o Ynys Môn yn gobeithio camu i'r llwyfan rhyngwladol yn y dyfodol agos - ond dim fel rhan o dîm Cymru.
Mae'r freuddwyd honno gam yn nes erbyn hyn ar ôl i Undeb Rygbi Gibraltar gael eu derbyn fel aelod swyddogol o Rygbi Ewrop.
Wedi blynyddoedd o ymgyrchu cafodd Gibraltar ei chadarnhau fel aelod rhif 49 - sy'n golygu mod modd iddynt bellach chwarae mewn gemau prawf swyddogol.
Mae Sean Magee o Fae Trearddur ger Caergybi eisoes wedi chwarae mewn gemau cyfeillgar - ond gyda'r statws newydd wedi ei gadarnhau, y gobaith nawr yw cynrychioli'r tîm mewn gemau prawf.

Yn ôl Sean, mae'n amser cyffrous iawn i rygbi yn Gibraltar
Mae Sean Magee yn gymwys i chwarae dros Gibraltar gan fod ei fam wedi ei geni yno tra bod ei thad yn gweithio gyda'r Awyrlu.
Fe gysylltodd gyda'r undeb ar ôl gweld eu bod wedi chwarae yn erbyn tîm byddar Cymru gan anfon fideos ohono yn chwarae i Rygbi Gogledd Cymru (RGC).
Cafodd wahoddiad i fynd i hyfforddi gyda Gibraltar cyn chwarae yn ei gêm gyntaf i'r tîm dan-20 yn erbyn Jamaica.
Ydy gêm yn erbyn Cymru yn bosib?
Mewn cyfweliad ar raglen Dros Frecwast ddydd Gwener, dywedodd Sean ei fod yn edrych ymlaen at weld sut y gallai rygbi ddatblygu yn Gibraltar o ganlyniad i'r statws newydd.
"Dwi ddim yn arbenigwr ar y logistics, ond gan bo' ni'n rhan o Rugby Europe rŵan fydd 'na lot mwy o bres yn dod mewn, fydd 'na lot mwy o rygbi mewn ysgolion a mwy o blant yn chwarae," meddai.
"Gobeithio bydd o'n adeiladu o fan'na, a bydd 'na fwy o reach i gael pobl fel fi - y bois sy'n eligible i ddod allan a chwarae iddyn nhw."
Dywedodd ei fod eisoes wedi chwarae yn erbyn Y Ffindir a Jamaica ond eu bod mewn sefyllfa nawr i chwarae yn erbyn mwy o wledydd gwahanol.
A beth am y posibilrwydd o wynebu Cymru?
"Mae'n bosib, ond gawn ni weld sut mae o gyd yn chwarae allan!"

Sean Magee (ail o'r chwith, rhes gefn) gyda'r tîm ar ôl gêm gyfeillgar yn erbyn Jamaica
Ers 15 mlynedd mae Undeb Rygbi Gibraltar wedi bod yn ymgyrchu i gael statws swyddogol gan mai dim ond gemau cyfeillgar maen nhw wedi eu chwarae ers 2011.
Gyda chefnogaeth chwaraewyr enwog fel Sergio Parisse o'r Eidal llwyddon nhw i sicrhau mwyafrif o ddwy ran o dair o bleidleisiau'r aelodau yng nghyfarfod Rygbi Ewrop.
O ganlyniad, byddan nhw'n derbyn cyllid, cymorth hyfforddi ac yn gallu cymryd rhan mewn cystadlaethau swyddogol.
Mae'r undeb yn dweud bod y penderfyniad yn gyfle trawsnewidiol ac "yn garreg filltir enfawr i'r gamp yn Gibraltar, gan greu llwybr clir i chwaraewyr ifanc ac adeiladu ar gymuned rygbi sy'n tyfu'n gyflym".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2025

- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2025

- Cyhoeddwyd3 Rhagfyr 2025
