Y Cymry ifanc a'u cŵn sy'n anelu at gystadlu gyda goreuon Ewrop

Mae rhai o aelodau Academi Cŵn Sled Cymru yn gobeithio cystadlu ym mhencampwriaeth Ewrop y flwyddyn nesaf
- Cyhoeddwyd
Mae grŵp o bobl ifanc yng ngogledd Cymru'n gobeithio cystadlu ar lefel rhyngwladol mewn camp anarferol... rasio cŵn gyda sled.
Mae pencampwriaeth Ewropeaidd rasio cŵn gyda sled fel arfer yn denu cystadleuwyr o wledydd sy'n oerach, ac sy'n cael mwy o eira na Chymru.
Ond mae Academi Cŵn Sled Cymru nawr yn gobeithio newid hynny wrth iddyn nhw hyfforddi pobl ifanc o bob rhan o'r gogledd yng Nghoedwig yr Alwen ger Cerrigydrudion.
Mae'r sesiynau ar hyd llwybrau'r goedwig yn cynnwys rheoli'r cŵn wrth iddyn nhw dynnu sled ar olwynion, tynnu unigolion ar feics a phobl yn rhedeg hefyd.

Mae'r academi yn dysgu aelodau i rasio ar feiciau, sled gydag olwynion ac i redeg tu ôl i'r cŵn
Mae'r academi, sydd wedi bodoli ers rhai blynyddoedd erbyn hyn, yn cynnal sesiynau bob pythefnos.
Maen nhw'n boblogaidd, gyda phobl yn dod o ar draws gogledd Cymru a thu hwnt i gymryd rhan.
Mae Llinos Davies yn un o'r rheiny sydd yna'n gyson fel gwirfoddolwr.
"Mae'r rhan fwyaf o'r huskies fel arfer efo'i gilydd, felly mae 'na griw ohonyn nhw a dyna sut maen nhw'n hoffi bod… ma' nhw'n hoffi tynnu," meddai.
"Mae'n lot o hwyl gan ddod ag adrenalin rush da.
"Mae just yn hwyl cal bod efo'r cŵn... maen nhw mor gariadus."

Mae Llinos yn un o wirfoddolwyr yr academi ac mae'n mwynhau edrych ar ôl y cŵn
Nid rasio'r cŵn yw unig ffocws yr academi.
Mae'r rhai sydd yn dod i ymarfer yn dysgu sut i drin ac edrych ar ôl y cŵn hefyd, gan gynnwys cyn ac ar ôl bod allan gyda nhw.
Yn ôl Tilly, sy'n un o aelodau'r academi, mae wedi ei galluogi hi i fagu perthynas da gyda'r cŵn.
"Dwi'n rhedeg efo'r cŵn efo strap rownd fy nghanol a dwi'n rhedeg rownd y trac efo nhw," meddai.
"Mae'n lot o hwyl achos mae'n really dda i'ch corff chi ac i'r cŵn.
"Rwyt ti hefyd yn gwneud connection da efo nhw a ti'n cael siarad efo nhw sy'n bwysig iawn mewn ras."
'Mynd yn sydyn iawn yw'r gorau'
Mae John yn un sy'n gobeithio cyrraedd y bencampwriaeth Ewropeaidd yn Sweden ym mis Hydref 2026.
"Dwi'n rhedeg efo nhw a dwi'n mynd ar rig efo nhw ac ar sled gydag olwynion," meddai John.
"Mae cael y cyfle i edrych ar ôl cŵn yn hwyl, ond mynd yn sydyn iawn yw'r gorau.
"Dyna sydd mwyaf hwyl.
"Dwi'n gobeithio gwella a mynd yn fwy cyflym eto."

Mae John (ar y chwith) yn mwynhau mynd yn gyflym wrth rasio
Fel Tilly, mae Madog yn mwynhau fod allan gyda'r cŵn, ond mae'n dweud bod y gamp yn "anoddach na 'da chi'n disgwyl".
"Mae'n dibynnu lle ydych chi'n mynd a ble 'da chi ar y cwrs.
"Os ydych chi'n mynd fyny rhiw mae o'n iawn, ond os chi'n mynd lawr rhiw mae o'n fwy anodd achos maen nhw'n trio rhedeg mor gyflym â maen nhw'n gallu.
"Mae'n gallu bod yn anodd cadw rheolaeth a gwneud y sicr chi'n mynd i'r cyfeiriad cywir wedyn."
Nod cyntaf y tîm yw llwyddo i ennill lle ym mhencampwriaeth Ewrop yn Sweden y flwyddyn nesaf.
Ond maen nhw hefyd yn gobeithio y bydd unrhyw lwyddiant yn ysbrydoli mwy o bobl ifanc i ymddiddori yn y gamp yn y dyfodol.