Pam fod ChatGPT yn ymateb i gwestiynau Saesneg yn y Gymraeg?

ChatGPTFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae defnyddwyr ar draws y byd wedi nodi fod ChatGPT yn ymateb yn Gymraeg i ymholiadau Saesneg

  • Cyhoeddwyd

Mae ap deallusrwydd artiffisial ChatGPT wedi creu dryswch yr wythnos hon, ar ôl iddi ddod i'r amlwg ei fod yn ymateb i ymholiadau Saesneg yn y Gymraeg.

Yn ôl erthygl yn y Financial Times mae'r ap wedi bod yn rhoi ymatebion Cymraeg i gwestiynau heb unrhyw gyfarwyddyd i wneud hynny.

Mae nifer o ddarllenwyr wedi ymateb gan ddweud bod yr un peth wedi digwydd iddyn nhw hefyd.

Nid dyma'r tro cyntaf i ieithoedd gael eu cymysgu chwaith - felly beth sydd yn mynd ymlaen?

OpenAIFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Yn gyntaf mae system yn gwrando ac yn troi y sain 'na, dy lais di, yn destun," meddai Owen Williams

Mae Owen Wiliams, sy'n arbenigwr ar y cyfryngau cymdeithasol, yn dweud bod systemau deallusrwydd artiffisial, fel ChatGPT, yn gallu camddehongli ieithoedd wrth i bobl eu defnyddio nhw ar lafar.

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd: "Pan ni'n siarad â ChatGPT trwy lais - voice translation - mae 'na ddau beth yn digwydd.

"Yn gyntaf mae system yn gwrando ac yn troi y sain 'na, dy lais di, yn destun. Ac wedyn mae'r model iaith 'ma - y large language model - yn ymateb i'r testun sydd wedi cael ei drawsgrifio o dy lais di."

A dyna ble mae'r dryswch yn digwydd, meddai.

Ychwanegodd: "Os yw'r cam cyntaf yna yn mynd o'i le, os yw'r system yn camglywed neu camddehongli'r iaith yn y lle cyntaf, mae'r ateb yn mynd yn rwtsh llwyr."

Mae OpenAI, y cwmni deallusrwydd artiffisial sy'n rhedeg ChatGPT, yn dweud mai problem yn ymwneud â chamlabelu data yw'r achos, a bod y dechnoleg sy'n troi sain llais yn destun wedi gwneud y camgymeriad.

Dywedodd y cwmni wrth y Financial Times y dylai'r broblem fod wedi cael ei thrwsio gan y diweddariad diwethaf i'r feddalwedd.

'Offeryn yw AI yn y pen draw'

Ychwanegodd Owen Williams bod AI yn aml yn ceisio "llenwi'r bylchau ei hun" gyda geiriau na chafodd eu defnyddio - ond bod hynny'n gallu arwain at broblemau pellach.

"Mae ymchwilwyr yn y maes yn galw hyn yn hallucination - mewn geiriau eraill, mae'r system yn dyfalu'r hyn yr wyt ti'n ei ddweud.

"A dyna'r broblem, mae'r systemau 'ma yn hyderus tu hwnt yn dy ateb di'n gwbl wrong."

Ychwanegodd ei fod yn bwysig cofio mai "offeryn yw AI yn y pen draw" a dylai pobl gymryd pwyll wrth ei ddefnyddio yn enwedig gyda materion mwy difrifol.

Beth yw ChatGPT?

ChatGPTFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd OpenAI wrth y Financial Times y dylai'r broblem fod wedi ei thrwsio gan ddiweddariad meddalwedd

Mae ChatGPT, a sefydlwyd gan y cwmni OpenAI, yn ap AI sy'n gallu ysgrifennu traethodau, sgriptiau, cerddi, a datrys codio cyfrifiadurol mewn ffordd debyg i berson. Gall hyd yn oed gael sgyrsiau a chyfaddef camgymeriadau.

Mae'r GPT yn sefyll am 'Generative Pre-Trained Transformer'. Mae hyn yn golygu ei fod yn dysgu beth i'w ddweud trwy gipio gwybodaeth o'r rhyngrwyd.

Yna mae'n defnyddio'r holl destun hwn i "gynhyrchu" ymatebion i gwestiynau neu orchmynion y gallai rhywun eu gofyn.

Ei brif bwrpas yw creu brawddegau a allai fod wedi cael eu hysgrifennu gan berson - yn hytrach na chwilio'r rhyngrwyd am ffeithiau. Mae hyn yn golygu y gall weithiau gael pethau'n anghywir.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol