Dominyddes yn defnyddio technoleg i daclo camddefnyddio lluniau ar-lein

Dywedodd Madelaine Thomas ei bod yn teimlo'n ddig ar ôl i gleientiaid rannu lluniau preifat ohoni ar-lein heb ganiatâd
- Cyhoeddwyd
Mae dynes o Sir Fynwy wedi lansio cwmni sy'n defnyddio technoleg i fynd i'r afael ag achosion o gamddefnyddio lluniau ar-lein.
Mae Madelaine Thomas yn ddominyddes (dominatrix) broffesiynol, ac roedd hi'n teimlo bod rhaid iddi weithredu ar ôl i luniau preifat ohoni gael eu rhannu ar y we.
"Roedd y rhain yn lluniau hyfryd, dydw i ddim â chywilydd ohonyn nhw mewn unrhyw ffordd, ond dwi'n ddig am y ffordd y cawsant eu defnyddio yn fy erbyn i gan bobl dwi ddim yn eu 'nabod," meddai.
Ychydig dros flwyddyn ers iddi ddechrau cwmni Image Angel - sy'n defnyddio dyfrnodau (watermark) anweledig i olrhain camddefnyddwyr - mae hi wedi ennill nifer o wobrau ac wedi denu clod a chydnabyddiaeth gan nifer.
Jess Davies: 'Camddefnyddio lluniau wedi newid fy mywyd'
- Cyhoeddwyd14 Mai 2025
Jess Davies yn sôn am y camddefnydd o'i lluniau ar-lein
- Cyhoeddwyd7 Mai 2025
Mae camddefnyddio lluniau, sy'n cael ei gyfeirio ato yn aml fel revenge porn, yn drosedd all arwain at ddedfryd o hyd at ddwy flynedd o garchar.
Mae adroddiad diweddar gan y Revenge Porn Helpline yn awgrymu bod 1.42% o ferched y DU yn cael eu heffeithio gan y broblem bob blwyddyn.
Dywedodd Madelaine, 37, fod dioddefwyr yn gorfod ymdopi â'r stigma a chywilydd.
"Dwi'n credu y byddai nifer o bobl yn dweud 'wel ti roddodd y llun ar y we, be ti'n ddisgwyl?', wel yr hyn dwi'n ei ddisgwyl yw parch ac ymddiriedaeth," meddai.
"Mae'r ffaith y gallai'r lluniau hynny gael eu rhannu yn yr ardal ble rwy'n byw, neu gyda phobl rwy'n eu caru just er mwyn eu brifo, mae hynny'n ofnadwy.
"Dim fy newid i yw hynny, dim fy nghamgymeriad i yw hynny - mae rhywun yn dewis camddefnyddio'r lluniau hynny."

Mae profiad Madelaine o weithio fel dominyddes wedi bod yn hollbwysig wrth ddechrau'r cwmni, meddai
Mae Madelaine wedi bod yn gweithio fel dominyddes, ar-lein yn bennaf, ers 10 mlynedd ac mae hi'n gweld y gwaith fel rhywbeth sy'n ei grymuso.
"Mae'n gyfle i mi fod yn ddynes sy'n dominyddu, yn ddynes gryf sy'n defnyddio ei chorff i roi pleser i rywun arall gan bo' fi'n dewis gwneud hynny, gan mai fy nghorff i yw e a galla i wneud yr hyn dwi eisiau gyda fe," meddai.
Mae'r profiad hwnnw wedi bod yn amhrisiadwy wrth lansio ei chwmni, meddai.
"Dwi'n deall ei fod ychydig yn od fod rhywun oedd yn ddominyddes nawr yn arwain cwmni technoleg, ond roedd angen rhywun oedd wedi bod drwy hynny i ddeall y loopholes a'r newidiadau sydd eu hangen.
"Dydw i ddim yn teimlo fel bod pobl yn fy marnu am fy hanes i, dwi'n teimlo fel bod hynny yn fy ngrymuso gan fod gen i gymaint o brofiad a gwybodaeth am fyd nad yw pobl eraill o reidrwydd yn ei ddeall."
Beth yw'r dechnoleg a sut mae'n gweithio?
Mae Image Angel yn gallu cael ei ddefnyddio gan unrhyw wefan ble mae modd i bobl rannu lluniau, fel cyfryngau cymdeithasol neu apiau canfod cymar.
Pan mae defnyddiwr yn cael gafael ar lun mae dyfrnod anweledig fforensig yn cael ei osod ar y llun.
Yna, os yw'r llun yn cael ei rannu heb ganiatâd, mae arbenigwyr yn gallu darganfod pwy yn union wnaeth hynny a gweithredu maes o law.
Hyd yn hyn mae un platfform wedi cyflwyno'r dechnoleg, ac mae'r cwmni mewn trafodaethau gyda sawl un arall.
"Mae'r dechnoleg eisoes yn bodoli yn Hollywood, mae'n cael ei ddefnyddio mewn darlledu chwaraeon - felly dyw'r dechnoleg ddim yn newydd, ond mae'r system a'r ffordd rydyn ni'n ei ddefnyddio yn newydd," ychwanegodd Madelaine.

Mae Jess Davies (dde) hefyd wedi dioddef achosion o gamddefnyddio lluniau ar-lein
Roedd y cyflwynydd teledu, Jess Davies yn 15 oed pan gafodd lluniau ohoni hi yn ei dillad isaf eu rhannu.
Dyma oedd y cyntaf o nifer o ddigwyddiadau tebyg i Jess eu profi yn ei harddegau a'i hugeiniau, a fyddai'n sbarduno ei hymgyrchu dros hawliau menywod.
"Fe gymerodd hi mor hir i rywun ddweud wrtha' i mai nid fy mai i oedd e ac na ddylai hynny fod wedi digwydd," meddai Jess, 32, sydd bellach yn byw ym Mhenarth.
Mae hi hefyd yn benderfynol o gael gwared â'r stigma y mae dioddefwyr yn gorfod delio ag ef yn sgil achosion o gamddefnyddio lluniau.
"Dyw rhannu lluniau i rywun gyda chaniatâd ddim yn drosedd," meddai.
"Ond mae'n drosedd i rannu'r llun hwnnw heb ganiatâd, ac ar y person yna y mae'r bai bob tro."
Os ydy cynnwys yr erthygl wedi effeithio arnoch chi mae cymorth ar gael ar wefan BBC Action Line.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.