Cyhuddo bachgen o achosi niwed corfforol difrifol wedi i athro gael ei anafu

Cafodd yr heddlu eu galw i Ysgol Gyfun Aberdaugleddau tua 15:20 brynhawn Iau
- Cyhoeddwyd
Mae bachgen 15 oed wedi cael ei gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol a bod â chyllell yn ei feddiant yn dilyn ymosodiad honedig ar athro mewn ysgol uwchradd yn Sir Benfro.
Cafodd yr heddlu eu galw i Ysgol Gyfun Aberdaugleddau tua 15:20 brynhawn Iau yn dilyn adroddiadau bod "disgybl oedd ag arf yn ei feddiant wedi ymosod ar athro".
Mae'r athro dan sylw wedi cael ei ryddhau o'r ysbyty ac yn cael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol ar ôl derbyn triniaeth feddygol.
Mae'r bachgen yn parhau yn y ddalfa ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys Ynadon Abertawe ddydd Sadwrn.
Mae'r heddlu hefyd wedi cadarnhau fod yr athro wedi dioddef anafiadau trywanu, ar ôl i asesiad cychwynnol ddweud nad oedd yr unigolyn wedi cael ei drywanu.
Fe gafodd mesurau "lockdown" eu cyflwyno gan yr ysgol am gyfnod, ond mae'r prosesau hynny bellach ar ben ac mi fydd yr ysgol yn ailagor ddydd Llun.
Ychwanegodd yr heddlu y bydd presenoldeb uwch nag arfer yn yr ardal dros y dyddiau nesaf, gyda phatrolau pwrpasol i roi tawelwch meddwl i'r gymuned.

Mae dirprwy bennaeth yr ysgol, Daryl John, wedi dweud yr hoffai ddiolch i staff yr ysgol, y llywodraethwyr a'r nifer fach o ddisgyblion oedd dal ar y safle.
"Fe wnaethon nhw i gyd ymddwyn yn broffesiynol drwy gydol y digwyddiad gan beidio â chynhyrfu," meddai.
Ychwanegodd bod yr ysgol "yn hynod ddiolchgar i'r gwasanaethau brys am eu hymateb cyflym ac effeithiol".
Mewn datganiad fe ddywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys ddydd Iau: "Mae pob disgybl ar y safle yn ddiogel, ac mae'r mwyafrif wedi mynd adref.
"Mae bachgen 15 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio ac mae'n parhau yn y ddalfa."
Yn ôl llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, fe wnaethon nhw ymateb i "argyfwng meddygol" yn Ysgol Gyfun Aberdaugleddau am tua 15:20.
"Cafodd Uwch Ymarferwr Parafeddygol ei anfon i'r digwyddiad a chafodd un person ei gludo i'r ysbyty."
Fe gadarnhaodd Cyngor Sir Benfro fod pob gweithgaredd y tu hwnt i oriau'r ysgol wedi eu canslo nos Iau.
Dywedodd Henry Tufnell, yr Aelod Seneddol lleol, ei fod yn "bryderus iawn" ar ôl clywed am yr hyn a ddigwyddodd.
Ychwanegodd ei fod yn "ddiolchgar iawn i staff yr ysgol a'r gwasanaethau brys am eu hymateb cyflym wrth sicrhau diogelwch disgyblion a chydweithwyr".
'Dim lle i drais yn ein hysgolion'
Wrth ymateb i'r digwyddiad, dywedodd Prif Weinidog Cymru Eluned Morgan, a oedd wedi ymweld â'r ysgol yr wythnos diwethaf, fod y newyddion yn "frawychus iawn".
"Rwy'n bryderus iawn ynghylch y digwyddiad yn yr ysgol yn Aberdaugleddau. Mae fy meddyliau gyda'r athro sydd wedi'i anafu, ei deulu a chymuned yr ysgol yn ystod yr amser anodd hwn," meddai.
Diolchodd y prif weinidog i'r gwasanaethau brys a staff yr ysgol am eu hymateb "cyflym a phroffesiynol" i'r ymosodiad.
"Er bod hwn yn parhau i fod yn ymchwiliad heddlu gweithredol y mae'n rhaid caniatáu iddo fynd rhagddo heb ymyrraeth, hoffwn fod yn glir... nid oes lle i drais o unrhyw fath yn ein hysgolion.
"Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol, ysgolion a phartneriaid i gefnogi pawb sydd wedi'u heffeithio ac i sicrhau bod ein hysgolion yn parhau i fod yn llefydd diogel ar gyfer dysgu a gofal."

Mewn datganiad nos Iau, dywedodd Heddlu Dyfed-Powys nad oedd swyddogion bellach yn bresennol yn Ysgol Gyfun Aberdaugleddau.
Dywedodd yr Uwcharolygydd Chris Neve ei fod am adael i rieni, a'r gymuned ehangach wybod, y cymerwyd "camau cyflym i ddiogelu disgyblion ac athrawon, ac i olrhain y person dan amheuaeth cyn gynted ag y derbyniwyd yr adroddiad".
Ychwanegodd y bydd rhieni yn "parhau i dderbyn unrhyw ddiweddariadau yn uniongyrchol drwy ap yr ysgol".
Yr ysgol ar gau ddydd Gwener
Dywedodd arweinydd Cyngor Sir Benfro, y Cynghorydd Jon Harvey, ei fod am ddiolch i staff a disgyblion Ysgol Gyfun Aberdaugleddau am weithredu mesurau "lockdown" yn gyflym ac yn effeithiol yn dilyn y digwyddiad.
Mi fydd yr ysgol ar agor eto i ddisgyblion ddydd Llun, ond esboniodd Mr Harvey y bydd cymorth ychwanegol ar gael ar y safle i unrhyw ddisgyblion neu aelodau o staff sydd ei angen.
Dywedodd y Cynghorydd Harvey ar Radio Wales fore Gwener fod mesurau "lockdown" yn bodoli i ddiogelu disgyblion ac athrawon, a bod pob ysgol yn cael hyfforddiant ar gyfer sefyllfaoedd o'r fath.
"Yn yr achos hwn, fe weithiodd popeth fel y dylai. Yn bwysicaf oll, roedd yr holl ddisgyblion yn ddiogel ac wedi gallu mynd adref heb anaf," meddai.
Dywedodd hefyd y bydd diogelwch yn parhau i fod yn "hollbwysig", a bod y cyngor yn edrych ar fesurau diogelwch ar draws ysgolion y sir er mwyn sicrhau eu bod mor barod â phosibl.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.