Caniatáu canolfan sgïo dan do 'chwyldroadol' ym Merthyr Tudful

Nifer o adeiladau mawr wedi'u gosod yn ochr bryn gyda choed. Mae un o'r adeiladau'n hir ac yn gul iawn ac yn mynd lawr ochr y bryn.Ffynhonnell y llun, Rhydycar West
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Marvel Limited, y datblygwr, y byddai'r ganolfan yn un o'r rhai mwyaf yn y byd gyda llethr dan do tua 400 metr o hyd

  • Cyhoeddwyd

Mae cynghorwyr ym Merthyr Tudful wedi rhoi caniatâd i ganolfan sgïo dan do fawr gael ei hadeiladu yn y dref ar ôl pleidlais unfrydol mewn cyfarfod cynllunio.

Cafodd y cais ei gymeradwyo gan bwyllgor cynllunio'r cyngor, gyda'r amod bod y datblygwyr dod i gytundeb gyda'r cyngor a bodloni cyfres o amodau.

Dywedodd arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Brent Carter, fod y prosiect yn "chwyldroadol" ac yn "newid y gêm yn llwyr" i Ferthyr Tudful.

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Barry fod y cynllun yn "gyfle yr oedd yr ardal wedi bod yn aros amdano" ar ôl degawdau o bolisïau a "fethodd".

Llethr 400m o hyd

Dywedodd Marvel Limited, y datblygwr, y byddai'r ganolfan yn un o'r rhai mwyaf yn y byd gyda llethr dan do tua 400 metr o hyd.

Byddai'r safle hefyd yn gartref i dimau sgïo Olympaidd a Pharalympaidd Prydain a Chymru, ynghyd â pharc dŵr trofannol, gwesty a llety.

Gallai'r prosiect greu tua 1,500 o swyddi adeiladu a thua 800 o swyddi parhaol, meddai'r datblygwyr.

Er bod llawer wedi croesawu'r datblygiad, mae rhai yn pryderu y gallai effaith y prosiect ar gynaliadwyedd, golygfeydd ac ecoleg ar yr ardal leol fod yn fater i'w ystyried.

Clywodd y cyfarfod fod cytundeb adran 106 - cytundeb cyfreithiol rhwng y cyngor a'r datblygwr - bellach yn cael ei baratoi, gyda'r bwriad o'i gwblhau cyn gynted â phosibl.

Mae cytundebau o'r fath yn sicrhau bod datblygwyr yn cyfrannu'n ariannol at liniaru effeithiau negyddol eu cynlluniau ar gymunedau lleol.

Mae'r 53 o amodau sy'n gysylltiedig â'r cais yn cynnwys sut i reoli traffig, ecoleg a dyluniad, ac mae'r datblygwyr yn gobeithio cwblhau'r gwaith o fewn "misoedd yn hytrach na blynyddoedd".

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol