Lauren Price a'i thaith i frig y byd bocsio

Lauren Price a Kath Morgan
- Cyhoeddwyd
Jimmy Wilde, Howard Winstone, Joe Calzaghe a Lee Selby â enwau sydd ymysg yr 13 pencampwr bocsioâr byd o Gymru.
Dydd Sadwrn, 11 Mai, maeân bosib y bydd Cymruân dathlu pencampwr byd rhif 14 wrth i Lauren Price o Ystrad Mynach wynebu Jessica McCaskill yng Nghaerdydd.
McCaskill o Chicago yw pencampwr pwysau welter y byd, ac maeâr beltiau WBA, WBC ac IBO yn ei meddiant.
Os fydd Lauren Price yn fuddugol, hi fydd y ferch gyntaf o Gymru i ennill pencampwriaeth byd.

Lauren Price yn ei gornest ddiweddaraf; buddugoliaeth yn erbyn Silvia Bortot ym mis Rhagfyr 2023
Ond cyn iddi ddechrau ar ei siwrne focsio roedd Lauren yn rhagori mewn pĂȘl-droed, gan chwarae dros Gaerdydd ac ennill capiau rhyngwladol i Gymru.
Rhywun sydd yn ei ânabod yn dda yw Kath Morgan, cyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru a'r ferch gyntaf o Gymru i ennill bathodynnau hyfforddi trwydded 'A' gan UEFA, yn 2008.
âPan ddaeth Jarmo Matikainen yn rheolwr ar dĂźm menywod Cymru yn 2010 oân iân rheolwr cynorthwyol iddo," meddai. "Yn fy rĂŽl oân iân gyfrifol am y timau iau; dan-17, dan-18 a dan-19. Daeth Lauren fewn iâr system cenedlaethol yn 2011.â

Lauren yn cynrychioli Cymru dan-19 yn erbyn Lloegr - 2 Ebrill, 2012
Fe wnaeth Lauren argraff fawr ar Kath yn syth.
âPan ddaeth hi fewn ges i fy nharo gan pa mor broffesiynol oedd hi ac hefyd pa mor aeddfed oedd hi. Roedd gen hiâr focus âma oân i erioed wedi gweld o'r blaen.
âOdd hi oâr Cymoedd fel fi, a niân hoffi edrych ar ĂŽl ein gilydd yno felly ânes i gadw llygad arni.
âBe' dwiân gofio yw o'dd hi mor ddiolchgar am unrhyw tips ac adborth, ac o'dd hiân amsugno fe i gyd lan.â
Roedd Lauren yn chwarae i dĂźm dan-19 Cymru gyda Nia Jones, a aeth ymlaen i chwarae pĂȘl-rwyd dros Gymru.
âOdd hi (Lauren) yn flaenllaw iawn yn ngharfan dan-19, ac fe roedd hi a Nia Jones yn rhannuâr gapteiniaeth.â

Lauren yn cynrychioli tĂźm Cymru, yn gwisgo'r crys rhif pump. Hefyd yn y llun mae ambell i wyneb cyfarwydd arall fel Nia Jones (rhif pedwar), Jess Fishlock (rhif chwech) a Sophie Ingle (rhif tri)
Mae Lauren Price wedi sĂŽn yn y gorffennol ei bod wedi cael plentyndod anodd, gyda'i ddau riant yn byw gydag alcoholiaeth, ac o ganlyniad cafodd hi ei magu gan ei nain a'i thaid.
Ond er yr heriau hyn fe ragorodd Lauren gyda'r timau iau ac fe aeth 'mlaen i chwarae dros y tĂźm hĆ·n.
Chwaraeodd Lauren ddwywaith dros brif dĂźm rhyngwladol Cymru yn 2012-13, tra roedd hiân chwarae dros Glwb Dinas Gaerdydd.
âRoedd hiân esiampl, o ran hyfforddi, ffitrwydd a disgyblaethâ, meddai Kath.
âFalle roedd âna chwaraewyr yn well na hi yn dechnegol, ond doedd âna neb yn well o ran ymroddiad â hyfforddiân galed, bwytaân iawn a cymryd ice-baths ac ati.â
Roedd Lauren yn paffio yr un pryd Ăąâi gyrfa pĂȘl-droed.
âDydy bywyd fel bocsiwr ddim yn hudolus fel mae pobl yn ei feddwl. Ma' feân fywyd ynysig - ry' chiân hyfforddi ben eich hun, mynd drwyâr un rwtĂźn dro ar ĂŽl tro, ac mae hynnyân cymryd disgyblaeth arbennig.â

Enillodd Lauren fedal aur yng Ngemau Olympaidd Tokyo 2020. Mae hi hefyd wedi ennill y fedal aur yn y Gemau Ewropeaidd, Gemau'r Gymanwlad ac ym Mhencampwriaethau'r Byd
Mae Kath yn cofio un digwyddiad yn gymharol ddiweddar syân dangos cymeriad Lauren.
âDwiân cofio cymryd sesiwn hyfforddi pĂȘl-droed Nghaerffili ar y caeau 4G ble mae tĂźm rygbiâr Dreigiau yn hyfforddi, ac roedd Lauren digwydd bod yno," meddai.
âRoedd hi newydd ddod nĂŽl o Tokyo ble enillodd hi fedal aur, ac roedd hiân rhoi cyfweliadau iâr wasg.
âRhwng y cyfweliadau ânes i chwibanu ar y merched ar y cae i ddod fewn yn agosach â dwiân eitha' adnabyddus am allu chwibanu yn uchel iawn gyda fy mysedd.
âFe glywodd Lauren fiân chwibanu a throi rownd a dweud âI thought I recognised that whistle!â, a ddaeth hi lawr i siarad gyda fi.
"âNath hi dynnu lluniau gydaâr merched, ac yna ânath hi ddiolch i fi am ei helpu hi gydaâi gyrfa pan oedd hiân iau. âNath hi hyd yn oed ymddiheuro am ddewis bocsio dros bĂȘl-droed, ond ânes i ddweud bod fi ddim yn gweld bai arni o gwbl - dwi'n meddwl 'nath hi' r penderfyniad iawn!
âDyna sut fath o ferch yw Lauren; hoffus iawn a diymhongar. Dwiân teimloân freintiedig iawn i fod wedi gallu cyfrannu rhywfaint iâw gyrfa chwaraeon hi.â

Lauren gyda'i gwrthwynebydd, Jessica McCaskill
Gornest gyfartal cafodd Jessica McCaskill yn ei hymddangosiad diwethaf yn y sgwĂąr bocsio, ac yn 39 oed mae hi 10 mlynedd yn hyn na'r Gymraes.
Er mai Lauren Price yw'r ffefryn gyda'r bwcis mi fydd hi'n ymwybodol iawn o brofiad a gallu'r Americanes.
Bydd Cymru gyfan yn gobeithio y bydd Lauren yn gallu ymuno Ăą Calzaghe, Wilde a Winstone ar restr anfarwolion bocsio'r genedl.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2023

- Cyhoeddwyd10 Awst 2021

- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2022
