Etholiad 2024: Sut mae'r BBC yn gohebu ar yr etholiad
- Cyhoeddwyd
Mae’r etholiad cyffredinol yn cael ei gynnal ar 4 Gorffennaf 2024. Dyma’r tro cyntaf ers Rhagfyr 2019 i’r Deyrnas Unedig gyfan gael dweud eu dweud am bwy fydd yn Aelodau Seneddol yn Nhŷ’r Cyffredin a pha blaid fydd yn ffurfio’r llywodraeth nesaf.
Dyma sut mae’r BBC yn ymdrin ag etholiadau ac eglurhad o rai o’r termau sy’n cael eu defnyddio.
Pryd allwn ni ddisgwyl y canlyniadau?
Daw'r pleidleisio yn yr etholiad hwn i ben am 22:00 BST ddydd Iau, 4 Gorffennaf. Mae’r blychau pleidleisio ar gyfer 650 o etholaethau yn cael eu cludo o orsafoedd pleidleisio i ganolfannau cyfrif, ac mae'r cyfri’n dechrau ar unwaith. Mae'r seddi cyntaf yn cael eu datgan tua 23:00 BST, ac mae’r mwyafrif llethol yn cael eu cyhoeddi cyn 09:00 fore Gwener.
Rydyn ni’n amcangyfrif y bydd 20 canlyniad yn cyrraedd cyn 02:00 BST a bydd pethau’n dechrau cyflymu ar ôl hynny. Rhwng 02:00 a 04:00 bydd 325 o seddi'n cael eu datgan a rhwng 04:00 a 06:00 275 arall. Daw'r ychydig ganlyniadau olaf yn hwyrach fore Gwener.
Mae’n anodd dweud pryd y byddwn yn gwybod a oes unrhyw blaid wedi ennill yr etholiad, gyda digon o Aelodau Seneddol wedi’u hethol i ffurfio mwyafrif yn Nhŷ’r Cyffredin. Mae'n dibynnu pa mor agos yw'r ornest, ond mae'n debygol o fod rywbryd ar ôl 03:00 BST.
Beth yw’r arolwg barn wrth i bobl adael y gorsafoedd pleidleisio neu’r exit poll? Beth yw darogan seddi?
Mae’r arolwg barn wrth i bobl adael y gorsafoedd pleidleisio (exit poll) yn amcangyfrif canlyniad yr etholiad cyn i'r holl bleidleisiau gael eu cyfrif. Mae’n cael ei ryddhau toc ar ôl i'r gorsafoedd gau a’r pleidleisio ddod i ben.
Cynhelir yr arolwg barn gan y cwmni pleidleisio Ipsos, ar gyfer BBC News, ITV News a Sky News ar y cyd.
Gofynnir i bleidleiswyr mewn rhai gorsafoedd pleidleisio wrth iddyn nhw adael i lenwi papur pleidleisio ffug i nodi sut gwnaethant bleidleisio.
Mae’r canlyniadau’n caniatáu i ddadansoddwyr y BBC ddarogan tua faint o seddi y mae pob plaid wedi’u hennill ledled Prydain. Does dim rhagolygon seddi ar gyfer pleidiau Gogledd Iwerddon.
A yw’r etholaethau wedi newid ers yr etholiad cyffredinol diwethaf yn 2019?
Ydyn. Mae dal 650 o Aelodau Seneddol yn cael eu hethol i San Steffan, ond mae newidiadau i ffiniau etholaethau yn golygu eu bod yn etholaethau newydd neu’n wahanol i’r etholiad cyffredinol diwethaf i filiynau o bobl.
Er mwyn cyfrifo a yw sedd unigol wedi newid dwylo neu faint o seddi y mae plaid wedi'u hennill neu eu colli yn yr etholiad, mae'n bwysig cael syniad o sut byddai pobl wedi pleidleisio pe bai'r ffiniau newydd yn eu lle yn 2019. Mae’r rhain yn cael eu galw’n ganlyniadau tybiannol.
Mae’r BBC a sefydliadau eraill o fewn y cyfryngau yn defnyddio’r canlyniadau tybiannol hyn i gyfrifo’r newid.
Sut mae’r canlyniadau tybiannol yn cael eu cyfrifo?
Mae dadansoddiad o'r newidiadau i ffiniau wedi'i gynnal ar gyfer BBC News, ITV News, Sky News a’r Press Association. Cafodd ei wneud gan yr arbenigwyr etholiadol Colin Rallings a Michael Thrasher ynghyd â David Denver yn yr Alban a Nicholas Whyte yng Ngogledd Iwerddon.
Maen nhw wedi cyfrifo pwy fyddai wedi ennill ym mhob un o’r etholaethau newydd pe bai’r ffiniau wedi bod yn eu lle yn 2019.
Nid yw’n wyddoniaeth fanwl gywir. Pan fydd ffiniau'n cael eu hail-lunio ac ardal yn cael ei symud o un etholaeth i'r llall, nid oes cofnod swyddogol o sut pleidleisiodd yr ardal honno.
Dyma lle mae profiad ac arbenigedd dadansoddwyr yn bwysig. I gyfrifo'r canlyniadau tybiannol, mae dadansoddwyr yn defnyddio mapiau o'r hen ffiniau a’r ffiniau newydd. Maen nhw’n edrych ar yr ardal, ac yn defnyddio gwybodaeth leol a barn broffesiynol i'w helpu i ystyried sut mae pobl yn debygol o fod wedi pleidleisio.
Beth am is-etholiadau?
Cafwyd 23 o is-etholiadau ers 2019 ond nid yw’r BBC yn cynnwys y rhain yn y cyfrifiadau newid.
Er enghraifft, yng Ngogledd Sir Amwythig, enillodd y Democrat Rhyddfrydol Helen Morgan y sedd oddi wrth y Ceidwadwyr. Os yw’r Ceidwadwyr yn ennill sedd Gogledd Sir Amwythig ar ei newydd wedd ar 4 Gorffennaf, bydd y canlyniad yn cael ei ddisgrifio fel "Ceidwadwyr yn cadw".
Yn yr un modd, os yw Ms Morgan yn ennill unwaith eto, bydd yn cael ei nodi fel "Democratiaid Rhyddfrydol yn ennill".
Mae cymharu newidiadau i seddi o etholiad cyffredinol i etholiad cyffredinol yn ffordd decach o gynrychioli newid gwleidyddol na chymharu canlyniadau etholiad cyffredinol i is-etholiadau.
Mae’r nifer sy’n pleidleisio yn aml yn llawer is mewn is-etholiad nag etholiad cyffredinol ac mae is-etholiadau weithiau’n gweld pobl yn pleidleisio dros bleidiau heblaw’r un y bydden nhw’n ei dewis i ffurfio llywodraeth.
Beth mae'n ei olygu pan fydd plaid yn cadw neu'n ennill sedd?
Yr hyn sydd bwysicaf yw faint o "seddi" - etholaethau – y mae pob plaid yn eu hennill. Er mwyn i bethau newid yn y Senedd, mae angen i bleidiau gwleidyddol ennill seddi oddi wrth ei gilydd.
Gan fod ennill seddi oddi wrth ei gilydd mor bwysig, mae iaith arbennig yn cael ei defnyddio i ddangos hyn.
Mae seddi sy’n cael eu hennill mewn dau gategori: cadw neu ennill.
Cadw: Os bydd plaid yn ennill sedd y mae'r canlyniadau tybiannol yn dangos y byddent wedi'i hennill yn 2019, mae’n cael ei ddisgrifio fel "cadw"
Ennill: Os bydd plaid yn ennill sedd y mae'r canlyniadau tybiannol yn dangos na fyddent wedi'i hennill yn 2019, mae’n cael ei alw’n "ennill".
Beth sy'n digwydd pan fydd ymgeisydd yn cael ei wahardd?
Mae rhai ymgeiswyr wedi’u gwahardd gan eu pleidiau yn ystod ymgyrch yr etholiad.
Os digwyddodd hynny ar ôl i’r broses enwebiadau a thynnu'n ôl ddod i ben ar 7 Mehefin, mae'r ymgeiswyr hyn yn dal i ymddangos ar y papur pleidleisio fel rhai sy'n cynrychioli’r blaid honno.
Yn unol â hynny, bydd tudalen ganlyniadau’r BBC yn dangos yr ymgeiswyr hyn fel rhai sy'n cynrychioli’r blaid honno.
Os bydd un o’r ymgeiswyr hyn yn ennill, bydd y BBC yn dal i’w cynnwys yn nifer y seddi a enillwyd gan eu plaid.
Digwyddodd hynny yn etholiad cyffredinol 2019 yn sedd Kirkcaldy a Cowdenbeath. Yno, cafodd ymgeisydd y SNP ei wahardd yn ystod yr ymgyrch, ond eto, fe enillodd. Cafodd ei fuddugoliaeth ei gyfrif fel buddugoliaeth i’r SNP, er iddo fod yn Aelod Seneddol annibynnol nes i ymchwiliad gael ei gynnal.
Beth yw mwyafrif?
Er mwyn ennill etholiad, rhaid i blaid ennill digon o seddi yn Nhŷ’r Cyffredin i ffurfio llywodraeth. I wneud hynny, yn syml iawn, mae angen i un blaid gael un sedd yn fwy na'r gweddill i gyd gyda'i gilydd.
Mae hyn yn cael ei alw’n fwyafrif cyffredinol, ond yn iaith llaw-fer etholiadau, mae’n cael ei alw’n fwyafrif.
Mae 650 o seddi yn y Senedd, felly i gael un yn fwy na phawb arall gyda’i gilydd, rhaid i blaid gael 326 neu fwy i gael "mwyafrif".
Wrth gwrs, mae'n gwneud pethau'n llawer haws i lywodraeth os oes ganddyn nhw lawer mwy o Aelodau Seneddol na'r lleill i gyd gyda'i gilydd.
Mae’r rhif hwnnw yn cael ei alw’n faint y mwyafrif. Felly, pe bai un blaid yn ennill 326 o seddi, yna byddai'r holl bleidiau eraill gyda’i gilydd yn 324.
Y mwyafrif felly yw 326 - 324 = 2. Felly, dwy sedd ac nid un yw'r mwyafrif lleiaf posib.
Beth yw Senedd grog?
Mae Senedd grog yn digwydd pan na fydd yr un blaid yn ennill mwyafrif. Gall plaid aros mewn grym heb fwyafrif cyffredinol drwy geisio ffurfio cynghrair gyda phlaid lai i greu llywodraeth glymblaid.
Gwnaeth Ceidwadwyr David Cameron hynnny gyda Nick Clegg o’r Democratiaid Rhyddfrydol yn 2010.
Fel arall, gall anelu at ddod i gytundebau gyda phleidiau llai i'w gefnogi yn y Senedd pe bai cynnig o ddiffyg hyder wedi'i anelu at ddymchwel y llywodraeth.
Gall hyn fod ar ffurf cytundeb hyder-a-chyflenwi- fel gyda Cheidwadwyr Theresa May a’r DUP yn 2017. Ni chymerodd y DUP swyddi gweinidogol ond cytunodd i gefnogi'r blaid mewn pleidleisiau o hyder a chyllidebau.
Posibilrwydd arall yw i’r blaid fwyaf ffurfio llywodraeth leiafrifol heb unrhyw gytundebau gyda phleidiau eraill, ac i geisio cael cefnogaeth ar bob bil unigol yn ad hoc. Os nad oes unrhyw blaid yn barod i ddilyn un o'r llwybrau hyn, fe allai arwain at etholiadau newydd yn y pen draw.
Beth sy'n cael ei ddangos ar y faner canlyniadau?
Y faner yw’r graffeg cryno ar frig tudalennau etholiad cyffredinol 2024.
Pan fydd y pleidleisiau'n cau am 22:00 BST, bydd y graffeg yn dangos dwy res o rifau. Y rhes uchaf yw'r arolwg barn wrth i bobl adael y gorsafoedd pleidleisio (exit poll); amcangyfrif o’r seddi ar gyfer y pum prif blaid. Gweler beth yw arolwg barn wrth i bobl adael y gorsafoedd pleidleisio (exit poll) am fwy o wybodaeth.
Yr ail res fydd y canlyniadau go iawn, a fydd yn cael eu diweddaru wrth i etholaethau ddatgan.
Pan fydd y canlyniadau cyntaf yn cael eu cyhoeddi, bydd y pleidiau'n dechrau cael eu rhestru o'r chwith i'r dde yn ôl nifer y seddi a enillwyd bryd hynny, gyda nifer y pleidleisiau a dderbyniwyd yn gweithio fel ‘tie-breaker’.
Wrth i'r noson fynd yn ei blaen, bydd y graffeg canlyniadau cryno wastad yn dangos y pum prif blaid yn ôl y seddi a enillwyd. Bydd seddi'r holl bleidiau eraill yn cael eu cyfuno yn "Eraill".
Unwaith y bydd nifer o seddi wedi’u datgan, bydd y rhesi'n newid gyda'r canlyniadau'n cael blaenoriaeth ar frig y graffig cryno.
Pan fyddwn yn agosáu at ddiwedd y noson, bydd yr amcangyfrif yn cael ei ddiffodd a bydd siart bar yn weddill i grynhoi'r canlyniadau.
Mae canlyniadau llawn y DU wastad ar gael drwy'r ddolen i hafan y canlyniadau, sy'n cynnwys rhestrau’r pleidiau a dadansoddiad o’r seddi, y pleidleisiau a chyfran y pleidleisiau fesul plaid.
Mae yna hefyd dudalennau canlyniadau ar wahân ar gyfer pob un o bedair gwlad y DU, ac un ar gyfer pob etholaeth.
Rydyn ni hefyd yn cyhoeddi canlyniadau ar gyfer Cymru a 32 o etholaethau Cymru yn Gymraeg.
Beth sy’n digwydd yn sedd y Llefarydd?
Y Llefarydd yw’r person niwtral yn Nhŷ’r Cyffredin, bron iawn fel dyfarnwr.
Ar hyn o bryd, Syr Lindsay Hoyle yw’r Llefarydd. Bu’n Aelod Seneddol Llafur a bydd yn gorfod sefyll i gael ei ail-ethol fel unrhyw Aelod Seneddol arall. Yn draddodiadol, nid yw’r pleidiau mwyaf yn Nhŷ’r Cyffredin yn sefyll yn erbyn y Llefarydd.
Mae Syr Lindsay yn sefyll yn etholaeth Chorley, Sir Gaerhirfryn. At ddibenion cyfrifo nifer y seddi sy'n perthyn i bob plaid - a chyfrifo'r rhai sy’n cael eu cadw, eu hennill neu eu colli gan bob plaid - mae sedd Syr Lindsay yn cael ei hystyried fel etholaeth Llafur, oherwydd iddo ennill y sedd i'r blaid yn 2017 cyn cael ei ethol yn Llefarydd.
Os bydd Syr Lindsay yn ennill unwaith eto, bydd y canlyniad yn 2024 yn cael ei ddisgrifio fel "Llefarydd yn ennill" - a bydd ei sedd yn cael ei hychwanegu at gyfanswm Llafur a heb ei chynnwys wrth gyfrifo’r newid yn y seddi.
Mae hyn yn golygu bod y targed mwyafrif o 326 yn dal i weithio, oherwydd yn draddodiadol, daw un dirprwy Lefarydd o’r un ochr i’r Tŷ â’r Llefarydd, a dau ddirprwy o’r fainc gyferbyn.
Bydd y pleidleisiau unigol i Syr Lindsay yn cael eu hychwanegu at ein cyfrif "Eraill", serch hynny, ac nid yn cael eu cynnwys ar gyfer Llafur.
Beth am Aelodau Seneddol sydd wedi newid pleidiau?
Mae llond llaw o ymgeiswyr yn yr etholiad hwn a safodd dros blaid wahanol pan gawsant eu hethol yn 2019. Yn amlwg, mae cyn-arweinydd y Blaid Lafur Jeremy Corbyn yn sefyll fel ymgeisydd annibynnol yn Islington North a chyn ddirprwy Gadeirydd y Ceidwadwyr, Lee Anderson, yn sefyll dros Reform UK.
At ddibenion cyfrifo’r newid yn y seddi, byddwn yn cymharu’r ardaloedd hyn â sut roedden nhw yn union ar ôl etholiad 2019.
Gadewch i ni ddefnyddio achos Lee Anderson fel enghraifft. Enillodd sedd Ashfield yn Nwyrain Canolbarth Lloegr, i’r Ceidwadwyr yn 2019, ond mae wedi bod yn Aelod Seneddol Reform UK ers mis Chwefror 2024.
Yn 2024 mae'n sefyll eto yn Ashfield.
Os bydd Mr Anderson yn ennill yno y tro hwn, bydd hynny'n cyfrif fel Reform UK yn ennill a’r Ceidwadwyr yn colli, er y byddai wedi bod yn Aelod Seneddol cyn ac ar ôl yr etholiad.
Os bydd ymgeisydd newydd y Ceidwadwyr ar gyfer Ashfield yn ennill, bydd y Ceidwadwyr yn cadw’r sedd yn hytrach na Reform UK yn colli.
Beth yw cartogram?
Mae gan etholaethau yn y DU niferoedd tebyg o bobl yn byw ynddyn nhw. Yn gyffredinol, mae tua 70,000 o bleidleiswyr cymwys ym mhob etholaeth yn y DU. Ond mae eithriadau i etholaethau ynys, fel Na h-Eileanan an Iar yn yr Alban, sydd â phoblogaeth o ychydig dros 20,000 sy’n gallu pleidleisio.
Mae gan bob sedd werth cyfartal yn Nhŷ’r Cyffredin, ond gall y ffordd rydych chi’n eu gweld ar fap fod yn eithaf camarweiniol – mae ardaloedd gwledig lle mae poblogaethau’n fwy gwasgaredig yn cymryd mwy o le na chanol dinasoedd, er enghraifft.
Mae'r cartogram yn ffordd o weld pob sedd fel maint cyfartal, tra'n ceisio dangos yn fras ble maen nhw yn y DU.
Mae’r holl seddi yn gywir o fewn y genedl gywir a'r rhanbarth yn Lloegr, ond yn achlysurol maen nhw’n cael eu trefnu’n rhyfedd o fewn hynny.
Mae yna rai, yn bennaf o amgylch Llundain - y mae eu dwysedd poblogaeth uchel yn ystumio'r map fwyaf sylweddol - sydd mewn mannau gwahanol i'r hyn y byddech chi'n ei ddisgwyl, nad ydyn nhw bellach yn agos i'r seddi sydd wrth eu hymyl yn ddaearyddol.
Pam nad yw newidiadau cyfran pleidleisiau yn adio i fyny?
Ar fyrddau sgorio cenedlaethol ac etholaethol efallai y gwelwch chi, os ydych yn cynnwys holl enillion a cholledion cyfran y pleidleisiau at ei gilydd, nid ydynt yn hafal i sero, ac nid yw'n glir o ble y daeth pleidleisiau ychwanegol.
Mae hynny oherwydd ein bod ond yn cynnwys newidiadau i'r gyfran o bleidleisiau ar gyfer pleidiau neu gwmnïau annibynnol sy'n sefyll yn yr etholiad hwn.
Felly mewn etholaeth lle nad yw plaid benodol yn sefyll eleni ond eu bod wedi sefyll yn 2019, fel y Ceidwadwyr yn Rotherham, ni fydd y 33% a enillwyd ganddyn nhw yn dybiannol yn 2019 yn cael ei gyfrif yn y ffigurau newid.
Serch hynny, bydd y ffigyrau ar gyfer y pleidiau sy'n sefyll eleni i gyd yn gywir yn unigol.
Os yw plaid neu blaid annibynnol yn sefyll eleni ond heb wneud hynny yn 2019, bydd ffigwr newid cyfran y bleidlais yr un fath â’u cyfran o’r bleidlais oherwydd ei fod mewn gwirionedd yn gynnydd o sero.
Sut mae’r BBC yn cyfrifo canran y bobl a bleidleisiodd?
Ar noson yr etholiad, mae’r BBC yn cyfrifo canran y nifer a bleidleisiodd drwy rannu nifer y pleidleisiau dilys a fwriwyd ar gyfer pob ymgeisydd â nifer y bobl sy'n gymwys i bleidleisio (sef etholwyr). Nid yw pleidleisiau sydd wedi’u difetha neu eu gwrthod yn cael eu cynnwys.
Mae ffigurau pleidleisio’r DU a’r cenhedloedd yn cael eu diweddaru drwy’r nos, yn seiliedig ar etholwyr wedi’u rhannu â phleidleisiau dilys yr holl etholaethau sydd wedi’u datgan hyd yma.
Pa bleidiau sy’n cael eu rhestru yn y tabl canlyniadau?
I ymddangos fel plaid sy’n cael ei henwi ar naill ai bwrdd sgorio cyffredinol y DU neu ar fwrdd sgorio’r cenhedloedd, rhaid i blaid fodloni un o’r meini prawf canlynol:
Yn sefyll mewn un rhan o chwech o seddi yn unrhyw un o genhedloedd y DU
Mae'n cynnig dros 10 ymgeisydd naill ai ar draws y DU neu yn un o’r cenhedloedd
Wedi cyflawni dros 0.1% o'r bleidlais ar lefel y DU neu ar lefel cenedl
Roedd gan y blaid Aelod Seneddol yn y Senedd ddiwethaf
Mae'r holl bleidiau nad ydynt yn bodloni'r meini prawf hyn yn cael eu cyfuno i grŵp o'r enw Eraill, gan gynnwys y 459 o ymgeiswyr annibynnol sy'n sefyll eleni.
Bydd tudalen pob etholaeth wastad yn enwi pob plaid ac ymgeisydd annibynnol sy’n sefyll yn yr etholaeth honno.
Dim ond pleidiau sydd wedi’u cofrestru fel pleidiau gwleidyddol gan y Comisiwn Etholiadol y bydd y BBC yn eu cydnabod.