Arestio dau wedi lladrad yng Nghlwb Rygbi Ystradgynlais

Clwb Rygbi Ystradgynlais
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i Glwb Rygbi Ystradgynlais aros ar gau ddydd Gwener 26 Rhagfyr wedi lladrad yn ystod oriau mân y bore

  • Cyhoeddwyd

Mae dau berson wedi cael eu harestio wedi lladrad yng Nghlwb Rygbi Ystradgynlais yn ystod oriau mân bore dydd Gŵyl San Steffan.

Mae dyn 54 oed wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth ac mae menyw 33 oed yn cael ei chadw yn y ddalfa.

Bu rhaid i'r clwb gau ar 26 Rhagfyr - diwrnod sy'n draddodiadol yn ddiwrnod prysur iddynt gyda nifer o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal yno.

Mewn datganaid dywedodd yr heddlu eu bod yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad a bod ymholiadau'n parhau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig