Clwb Rygbi Ystradgynlais ar gau ddydd Gŵyl San Steffan wedi lladrad

Fel arfer mae'r clwb yn brysur iawn ar ddydd Gŵyl San Steffan
- Cyhoeddwyd
Bu'n rhaid i Glwb Rygbi Ystradgynlais aros ar gau ddydd Gwener wedi lladrad yn ystod oriau mân y bore.
Mae'r clwb yn chwarae yn Adran Un ac roedd y swyddogion wedi trefnu nifer o ddigwyddiadau i gyd-fynd â dangosiad o gemau'r Dreigiau yn erbyn Caerdydd a'r Scarlets yn erbyn y Gweilch.
Yn draddodiadol mae dydd Gŵyl San Steffan yn un o ddiwrnodau pwysicaf y flwyddyn i'r clwb ac yn denu pobl o'r gymuned gyfan ac ymwelwyr.
Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd y clwb eu bod yn hynod o siomedig i beidio cynnal y digwyddiad.

Wrth ymateb dywedodd llefarydd ar ran y clwb: "Cafodd y diwrnod ei ddwyn oddi wrthym yn llythrennol. Ochr yn ochr â'r effaith ariannol amlwg - yn draddodiadol mae'n un o'n diwrnodau prysuraf ac mae yna ymdeimlad dyfnach o golled.
"Mae Gŵyl San Steffan bob amser wedi bod yn achlysur arbennig ar gyfer cymdeithasu - yn enwedig â'r rhai sydd gartref dros gyfnod y Nadolig.
"Mae'n ddiwrnod y mae'r gymuned yn edrych ymlaen ato drwy gydol y flwyddyn, yn llawn rygbi gwych a cherddoriaeth o safon.
"Fel sefydliad sy'n cael ei redeg gan wirfoddolwyr, rydym yn hynod siomedig ein bod wedi cael ein targedu, yn enwedig ar yr adeg hon o'r flwyddyn."
Mae yna amheuon bod y lladrad wedi digwydd rhwng tua 04:00 a 06:30 ar 26 Rhagfyr.
Mae'r heddlu'n ymchwilio i'r digwyddiad, a dywedodd llefarydd ar ran y clwb eu bod wedi cael cyngor i beidio ag agor tra bod yr ymholiadau'n parhau.
Er gwaethaf yr hyn sydd wedi digwydd dywed y clwb eu bod yn ddiolchgar am y gefnogaeth y maen nhw wedi ei derbyn gan y gymuned a chlybiau chwaraeon eraill.
Mae nhw'n hynod o ddiolchgar i'r tri a ddaeth i atgyweirio'r to a gafodd ei ddifrodi yn ystod y digwyddiad.