Carcharu dau ar ôl i fachgen, 15, gael ei saethu drwy flwch post

Ashley Fernando Corbin ac Efekhan KarahanFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Karahan (dde) ei garcharu am wyth mlynedd a phedwar mis tra bod Ashley Fernando Corbin (chwith) yn wynebu chwe blynedd dan glo

  • Cyhoeddwyd

Mae dau ddyn wedi cael eu dedfrydu i dros 14 mlynedd o garchar ar ôl i fachgen yn ei arddegau gael ei saethu drwy flwch post ei gartref.

Roedd Efekhan Karahan, 18, ac Ashley Fernando Corbin, 21, y ddau o Fryste, eisoes wedi pledio'n euog i fynd at ddrws tŷ yn ardal Pontprennau, Caerdydd ar 7 Mehefin gyda gwn - ble wnaeth Karahan saethu ddwywaith drwy'r blwch.

Cafodd bachgen 15 oed ei gludo i'r ysbyty a'i drin am anafiadau i'w goesau. Nid oedd yr anafiadau hynny yn peryglu ei fywyd.

Mae Karahan wedi ei ddedfrydu i wyth mlynedd a phedwar mis dan glo, tra bod Corbin wedi cael ei ddedfrydu i chwe blynedd o garchar.

Dywedodd yr erlyniad fod y bachgen 15 oed adref yn edrych ar ôl ei frawd ar y pryd, a'i fod wedi mynd i wneud paned o de pan glywodd sŵn mawr.

"Fe aeth i'r cyntedd a gweld person drwy wydr y drws, yna fe glywodd sŵn gwn yn tanio," esboniodd Clare Wilkins.

"Dywedodd fod y blwch post wedi dod o'r drws cyn i'r gwn saethu eto - a'r ail saethiad oedd yr un wnaeth ei anafu. Fe symudodd rownd y gornel wedyn fel ei fod allan o'r golwg."

Ychwanegodd Ms Wilkins fod y bachgen wedi mynd i weld os oedd ei frawd yn iawn a'i fod wedi sylweddoli ei fod yn gwaedu.

Fe edrychodd allan o'r ffenest a gwelodd Corbin yn recordio Karahan ar ei ffôn. Roedd y ddau yn gwisgo mygydau dros eu hwynebau.

Efekhan KarahanFfynhonnell y llun, CPS
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Efekhan Karahan saethu ddwywaith drwy flwch post cartref y bachgen

Clywodd y llys fod Karahan wedi disgyn wrth redeg i ffwrdd o'r tŷ ac wedi gollwng y gwn ar lawr cyn dianc mewn car oedd wedi ei ddwyn.

Dywedodd yr erlyniad fod y ddau ddiffynnydd wedi teithio o Fryste i Gaerdydd yn y car er mwyn cynnal ymosodiad oedd yn rhan o ffrae gydag aelod o deulu'r bachgen oedd yn ymwneud â chyffuriau.

Yn ôl yr amddiffyniad, roedd Karahan "wedi cael ei ecsbloetio gan gangiau troseddol ym Mryste" a nodwyd nad oedd yn "droseddwr peryglus na soffistigedig".

Cafodd Corbin ei ddisgrifio hefyd fel rhywun "oedd wedi cael ei ecsbloetio gan gangiau cyffuriau ers iddo gael ei ddiarddel o'r ysgol yn 13 oed".

Wrth gyflwyno'r ddedfryd i Karahan, dywedodd y barnwr Tracey Lloyd-Clarke: "Fe wnes di saethu'r gwn, nid unwaith, ond ddwywaith, dyw hynny ddim yn rôl ymylol."

Ychwanegodd fod Corbin yn berson "peryglus" sydd ag "agwedd sy'n annog troseddu".

Dywedodd Leighton Mawer o Wasanaeth Erlyn y Goron fod "y ddau ddiffynnydd wedi cynllunio eu troseddau ymlaen llawn, gan gynnwys defnyddio arf tanio, a arweiniodd at anafu person yn ddifrifol".

"Pan fo arfau tanio'n cael eu rhyddhau, mae'r canlyniadau yn aml yn angheuol, ond yn ffodus iawn, nid dyna oedd y canlyniad yn yr achos hwn," meddai.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.