Nodi 10 mlynedd ers i gynhyrchu trydan yn safle Wylfa ddod i ben

Mae atomfa Wylfa yn cael ei digomisiynu ar ôl stopio cynhyrchu ynni yn 2015
- Cyhoeddwyd
I ardaloedd Cymraeg eu hiaith oedd yn bennaf ddibynnol ar amaeth, roedd dyfodiad gorsafoedd niwclear y Wylfa a Thrawsfynydd yn ddipyn o newid byd.
Fe agorodd gorsaf niwclear Y Wylfa - yr ail yng Nghymru - yn 1971, gyda dŵr y môr yn oerydd delfrydol oherwydd ei leoliad ar arfordir gogleddol Ynys Môn.
Gydag Alwminiwm Môn hefyd wedi agor tua'r un cyfnod, roedd yn adeg o gynnwrf diwydiannol gan ddarparu cyflogaeth hirdymor a sefydlog.
Roedd Y Wylfa yn weithredol am 44 mlynedd, cyfnod y tu hwnt i'r disgwyl gwreiddiol.
Ond erbyn dechrau'r 2010au roedd ymhlith yr adweithyddion gweithredol hynaf yn y byd ac fe wnaed y penderfyniad i gau'r olaf o'r ddau adweithydd ar 30 Rhagfyr, 2015.
Ond gyda chynlluniau ar gyfer pwerdy niwclear o fath newydd bellach ar y gorwel, mae galw erbyn hyn am fwy o fanylion ac amserlen bendant ar gyfer datblygiad a all greu tua 1,000 o swyddi parhaol.
Cyfnod 'cyffrous aruthrol'
Fe wnaeth Gron Williams o Gaergybi a Gwilym Jones o Lanfair yn Neubwll dreulio eu gyrfaoedd cyfan yn gweithio'n Y Wylfa.
Roedden nhw ymhlith y prentisiaid cyntaf yno yn 1965 - tua chwe blynedd cyn i'r orsaf ddod yn weithredol.

Roedd Gwilym Jones (chwith) a Gron Williams (dde) ymhlith prentisiaid cyntaf safle'r Wylfa yn 1965
"Mae'n siŵr gen i mai'r diwydiant pwysicaf ar yr ynys yr adeg hynny oedd amaethyddiaeth," meddai Gwilym, sydd hefyd yn gynghorydd sir ar yr ynys ers blynyddoedd.
"Wedyn oedd cael diwydiant fel Y Wylfa yn dod i'r ynys yn gyffrous aruthrol.
"Doedd y sgiliau angenrheidiol ddim ar yr ynys ond roedden nhw yn awyddus iawn i hyfforddi pobl ifanc lleol i ymgymryd â'r gwaith."
Aeth Gron ymlaen i fod yn un o'r prif beirianwyr, ac roedd dal yno pan gafodd yr orsaf ei diffodd union 10 mlynedd yn ôl.
"Yn y dechrau, ia, oedd y Saeson yn dod i mewn... oedd rhaid i ni eu cael nhw gan mai nhw oedd yn gwybod sut i wneud y gwaith," meddai.
"Ond ar yr un pryd mi oedden nhw'n dysgu ni, a fyswn i'n dweud erbyn y diwedd mai'r Gymraeg oedd brif iaith y stesion.
"Pan oeddwn i ar shifft dyna oedd yr iaith, ac oedd pawb yn deall... roeddwn wrth fy modd yna."

Roedd y gwaith o godi'r orsaf yn y 1960au yn broses peirianyddol anferth
Ond gyda'r tanwydd angenrheidiol yn prinhau, daeth ddiwedd ar 44 mlynedd o gynhyrchu trydan union 10 mlynedd yn ôl.
"Roedden nhw wedi gweithio mor galed i gadw'r fuel i fynd a newid drosodd rhwng y reactors, ond roedd pawb yn teimlo mai hwn oedd y diwedd mawr. Mi oedd o 'chydig yn drist."
'Dal yn gyflogwr pwysig'
Ond doedd diwedd cynhyrchu trydan ddim yn golygu diwedd y gwaith ar y safle, wrth ddechrau'r gwaith o ddatgomisiynu'r orsaf.
Wedi tynnu tanwydd niwclear o'r adweithyddion a'i drosglwyddo i storfa ddiogel, mae'n symud yn raddol tuag at gyfnod o "ofal a chynnal a chadw".
Yn y pen draw, ymhen sawl degawd, bydd yr holl adeiladau sy'n weddill yn cael eu dymchwel.
Ond er fod y safle yn cyflogi llawer iawn llai o bobl na'r oedd y Wylfa ar ei anterth, mae tua 260 o bobl yn gweithio yno - ffigwr y disgwylir i aros yn eithaf sefydlog am flynyddoedd eto.

Roedd Ffion Morris yn gweithio'n Y Wylfa pan oedd yn weithredol ac yn dal i chwarae rôl bwysig wrth i'r safle gael ei ddatgomisiynu
Mae Ffion Morris yn gweithio yno ers 20 mlynedd, pan oedd yn weithredol fel gorsaf niwclear a rŵan wrth i'r safle gael ei ddatgomisiynu.
Bellach yn Rheolwr Peirianneg a Chynnal a Chadw, mae'n dweud bod y gwaith sy'n mynd ymlaen yno yn gallu amrywio'n fawr ond yn pwysleisio bod y Wylfa yn dal i fod yn gyflogwr pwysig yn lleol ac yn parhau i gynnig cyfleoedd i bobl sy'n ceisio cael mynediad i'r diwydiant niwclear.
"Mae'r mission wedi newid rŵan," meddai, "o'r blaen cynhyrchu oedden ni a gwneud yn siŵr bod gymaint â phosib o drydan yn cael ei gynhyrchu.
"Rŵan 'dan ni'n gorfod gwneud yn siŵr ein bod yn rhoi'r lle yma yn ôl i'r tir naturiol oedd yma cyn i'r lle gael ei adeiladu."
Ynni niwclear yn 'drychineb'
Am ddegawdau roedd sôn am ail atomfa, Wylfa B.
Ond bum mlynedd yn ôl daeth cynllun Wylfa Newydd i ben wedi i gwmni Hitachi dynnu allan yn sgil methiant i ddod i gytundeb cyllidol.
Ers hynny mae'r economi leol wedi gweld y gwahaniaeth.
Mae ffigyrau diweddar yn dangos bod cyfradd geni'r ynys wedi dirywio'n arw wrth i bobl ifanc adael Môn, yn aml i chwilio am waith.
Gwnaeth adroddiad gan Gyngor Môn y llynedd hefyd adrodd bod gogledd yr ynys "wedi bod yn dirywio ers dau ddegawd o leiaf", gan adael poblogaeth sy'n heneiddio a lle mae'r Gymraeg yn gwanhau.
Ond chwe wythnos yn ôl daeth cyhoeddiad Llywodraeth y DU y byddai Wylfa yn gartref i dri adweithydd modiwlar bychain, y cyntaf o'u math ym Mhrydain.
Y gobaith yw y byddan nhw'n weithredol erbyn canol y 2030au.

Roedd bwriad i adeiladu atomfa newydd ger yr hen un yn Wylfa tan i gwmni Hitachi dynnu'n ôl yn 2020
Ond er bod llawer eisiau rhagor o fanylion am y cynigion, mae amheuaeth ynghylch ynni niwclear yn parhau ymhlith eraill sy'n byw ar yr ynys.
Mae Linda Rogers yn byw yn Llangoed ac yn aelod o PAWB (Pobl Atal Wylfa B) ers degawdau.
Mae hi'n benderfynol y dylai orsaf wreiddiol y Wylfa fod ymysg y genhedlaeth olaf o ynni niwclear yng Nghymru.
"Er 40 mlynedd o Wylfa 'da ni'n dal i fod yn un o'r ardaloedd tlotaf yng Nghymru," meddai.

Dydy Linda Rogers ddim eisiau gweld datblygiad niwclear arall yn dod i'r ynys
"Mae 'na ddau ddatblygiad mawr wedi bod yn ystod y 10 mlynedd hynny, sef cyflwyno ynni adnewyddadwy ar raddfa enfawr, ac yna'r trychineb llwyr i ddod ag ynni niwclear ar-lein yn Hinckley ac yn Sizewell... gorwario enfawr a chost enfawr."
Mae hi'n teimlo y dylid canolbwyntio'r buddsoddiad ar dechnolegau fel ynni'r llanw, fel cynigion Morlais oddi ar arfordir gorllewinol Ynys Môn.
"Dylen ni fod yn rhoi ein harian a'n sgiliau i mewn i ddatblygu cynaliadwy fel yna," ychwanegodd.
"Yn 2024 cynhyrchwyd 90% o drydan newydd gan ynni adnewyddadwy, felly mae'r potensial yno ac yn tyfu."
'Edrych i'r dyfodol'
Ond mae'r cynghorydd lleol, Aled Morris Jones, wedi ei argyhoeddi mai'r cynnig "calonogol" i ddatblygu SMR's ym Môn yw'r achubiaeth economaidd mae'r ardal ei angen.
A thra'n derbyn bod "rhaid clywed llais pawb", mae'n ffyddiog erbyn hyn bod y cynlluniau diweddaraf "yn wahanol" i gynlluniau blaenorol na chafwyd eu gwireddu.

Safle Wylfa fydd lleoliad y tri adweithydd modiwlar bychan [SMR] cyntaf i'w hadeiladu yn y Deyrnas Unedig, er bod lle i hyd at wyth maes o law
"Mae 10 mlynedd wedi mynd yn sydyn ond 'da ni'n edrych rŵan i'r dyfodol," meddai, gan obeithio y gall buddsoddiad o'r fath "ddenu pobl ifanc yn ôl i Fôn".
"Mae gennym ni rhywbeth i edrych ymlaen ato... rhywbeth pendant rŵan, ond mae'r atomfa bresennol dal i fod yn gymydog da hefo'r gwariant ar y safle a faint sy'n cael eu cyflogi yna.
"[Rŵan] rhaid gwneud yn sicr bod y datblygwr yn gallu dod ymlaen i ddatblygu'r safle, bod ni yn cael hyfforddiant i'n pobl ifanc, bod ni yn gwybod be ydy'r dyddiadau pendant lle mae pethau'n mynd i ddigwydd ac yn y blaen.
"'Dan ni ddim eisiau'r siomiant 'dan ni wedi'i gael o'r blaen ac mae 'na edrych ymlaen mawr at y dyfodol."

Mae Aled Morris Jones yn dweud bod gorsaf gwreiddiol y Wylfa yn dal i fod yn "gymydog da"
Wrth i Gymru nodi degawd cyfan heb gynhyrchu unrhyw drydan drwy ddulliau niwclear, mae gwaddol Wylfa yn parhau i fod yn destun dadl yn lleol ac yn genedlaethol.
Ond cytuno gydag ynni niwclear neu beidio, mae'n ymddangos bydd gan y diwydiant ran i'w chwarae eto yn nyfodol Ynys Môn.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2024

- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2025

- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2025
