Canfod hen ffrwydron ar draeth ger Aberystwyth

Cafodd Gwylwyr y Glannau Aberystwyth a Borth eu galw i draeth Ynys-las am 15:10 ddydd Sadwrn
- Cyhoeddwyd
Bu rhan o draeth Ynys-las ger Aberystwyth ar gau ddydd Sadwrn wrth i arbenigwyr ddelio â hen ffrwydron oedd wedi eu canfod yno.
Cafodd Gwylwyr y Glannau Aberystwyth a Borth eu galw i'r traeth am 15:10.
Wedi iddyn nhw anfon lluniau o'r hyn oedd wedi ei ganfod i ganolfannau arbenigol fe ddaeth swyddogion o'r Ganolfan Gwaredu Ffrwydron (EOD) i'r traeth i ffrwydro'r dyfeisiadau.
Roedd y cyfan ar ben erbyn 21:30.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.