Sicrhau gwell dyfodol i gamlas Mynwy ac Aberhonddu wedi pryderon

Bydd camlas hynafol Mynwy ac Aberhonddu yn cael ei diogelu
- Cyhoeddwyd
Mae dyfodol camlas hanesyddol Mynwy a Brycheiniog yn fwy diogel, diolch i hwb ariannol.
Ddydd Gwener cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cyfrannu hyd at £400,000 bob blwyddyn am y pum mlynedd nesaf i gynnal y gamlas.
Yn ogystal bydd yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd yn cyfrannu hyd at £100,000 bob blwyddyn ac mae trafodaethau'n parhau gyda phartneriaid eraill i sicrhau cyfraniadau pellach yn y tymor hir.
Ym mis Mawrth eleni, ar ôl tywydd sych anarferol, roedd yna ofnau y gallai'r gamlas 225 oed ddechrau sychu o fewn dyddiau, gan beryglu'r mil o swyddi sy'n dibynnu ar y gamlas.

Bydd £2.5m yn cael ei wario dros y 5 mlynedd nesaf i sicrhau bod y cyflenwad dŵr i'r gamlas yn parhau
Bydd yr arian newydd yn cefnogi cytundeb cyflenwi dŵr hanfodol rhwng Glandŵr Cymru sy'n rhedeg y gamlas, yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd yng Nghymru, a Dŵr Cymru ac felly yn diogelu busnesau, cymunedau a bywyd gwyllt sy'n dibynnu ar y gamlas.
"Mae camlas Mynwy a Brycheiniog yn rhan werthfawr o dreftadaeth Cymru ac yn ased economaidd hanfodol i'n cymunedau," meddai'r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd, Huw Irranca-Davies.
"Ond mae newid yn yr hinsawdd a phatrymau tywydd mwy amrywiol wedi dwysáu'r anhawster o gynnal cyflenwadau dŵr digonol."
"Byddwn bob amser yn ceisio gwarchod treftadaeth ddiwylliannol Cymru wrth gefnogi swyddi a thwristiaeth ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'r holl bartneriaid i ddod o hyd i atebion cynaliadwy."

Mae'r gamlas yn 'rhan werthfawr o dreftadaeth Cymru' yn ôl y dirprwy brif weinidog, Huw Irranca-Davies
Dywedodd Sally Curtis, sydd berchen ar gwmni Road House Narrowboats yng Ngilwern, ger Y Fenni, gyda'i gŵr Nigel ers 15 mlynedd, fod y cyllid yn "rhyddhad mawr".
"Mae'r flwyddyn yma wedi bod yn heriol, ac yn emosiynol iawn ar adegau, ac mae hyn yn golygu bod ein dyfodol yn ddiogel – ac nid yn unig ein dyfodol ni, ond hefyd busnesau eraill sy'n dibynnu ar y gamlas," ychwanegodd.
"Mae na gymaint o bobl sy'n dibynnu ar y twristiaid sy'n dod i'r gamlas. Mae hyn yn newyddion gwych."
Dywedodd Sally fod y pryderon am y gamlas o bosibl yn sychu, yn gynharach eleni, wedi arwain at ofnau y gallai eu busnes fod yn dirwyn i ben.
"Gallai pymtheg mlynedd o waith caled ac o fuddsoddiad fod wedi cael ei golli'n llwyr."

Dywedodd Sally Curtis fod y buddsoddiad yn achubiaeth ar ôl blwyddyn anodd
Yn ôl Georgina Wood, rheolwr gweithrediadau rhanbarthol yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd yng Nghymru – yr elusen sy'n helpu i gynnal y gamlas – gallai cynnal a chadw, a diogelwch fod yn broblem heb y buddsoddiad a'r cyllid parhaus.
"Byddai'r gamlas yr haf yma wedi sychu'n bendant ac yna byddai problemau sylweddol wrth ei chynnal," meddai hi.
Dywedodd y gallai hyn fod wedi arwain at giatiau pren y clwydi'n sychu ac yn cracio, yn ogystal â phroblemau gyda'r rhaeadrau a'r llifddorau.

Mi fydd gwaith cynnal a chadw yn digwydd ar y gamlas
Mae camlas hanesyddol Mynwy ac Aberhonddu yn cyfrannu dros £30m i economi Cymru ac yn cefnogi mwy na 1,000 o swyddi.
Mae cyhoeddiad ddydd Gwener yn dilyn cytundeb tymor byr a gafodd ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2025 - roedd disgwyl i hwnnw ddod i ben ym mis Mawrth 2026.
Mae'r gamlas 35 milltir (56km) yn troelli drwy barc cenedlaethol Bannau Brycheiniog a thirwedd ddiwydiannol Blaenafon, sy'n safle treftadaeth y byd, gan ddenu tua 3 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn.
Mae'r gamlas yn bwysig
Dywedodd Ben Cottam, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Glandŵr Cymru: "225 mlynedd wedi i'r llwyth cyntaf o lo deithio i fyny'r gamlas hon i Aberhonddu, mae camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu yn parhau i fod mor hanfodol ag erioed i bobl yn ne Cymru.
"Fel yr elusen sy'n cynnal y ddyfrffordd hanesyddol hon, rydym yn gyfarwydd iawn ag effaith y newid yn yr hinsawdd a'r anhawster y mae ansicrwydd diweddar wedi'i olygu i bawb sy'n caru'r gamlas hon.
"Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru a'r dirprwy brif weinidog am helpu i ddod â llawer mwy o wydnwch i'r gamlas a sefydlu rhwydwaith o bartneriaid i sicrhau ei bod yn parhau i fod yn bwysig i fywyd yng Nghymru."
Ofnau y gallai camlas 225 oed ddechrau sychu o fewn dyddiau
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2025
Cyfoeth Naturiol Cymru i gau caffis a 200 swydd i arbed £12m
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2024
Milltir o Gamlas Abertawe ar fin ailagor
- Cyhoeddwyd30 Rhagfyr 2019
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.