Cofio merched arbennig Casnewydd mewn mosaigau

- Cyhoeddwyd
Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.
Mae mosaigau yng Nghasnewydd sydd yn anrhydeddu menywod a fu farw yn gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Dyma erthygl am hanes y merched gan Irram Irshad, sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg ers dros 10 mlynedd, ac yn golofnydd i'r cylchgrawn i ddysgwyr, Lingo360, dolen allanol.
Annie Brewer (1876-1921)
Roedd yn nyrs ac wedi gwasanaethu yn Ffrainc gydol y Rhyfel. Cafodd ei hanafu yn ei phen a'i choes tra roedd yn teithio mewn ambiwlans, ond aeth yn ôl i weithio ar ôl iddi wella.
Yn 1921, daeth yn ôl i Gasnewydd i ofalu am ei mam, ond bu farw yn fuan wedyn o glefyd yr arennau yn 46 oed.
Er ei bod wedi derbyn y Croix de Guerre a'r Legion d'Honneur, mae hi wedi'i chladdu ym Mynwent Sant Gwynllyw heb fedd rhyfel. Mae plac glas ar ei chartref yng Nghasnewydd.
Caroline Maud Edwards (1887-1915)
Hi oedd y fenyw gyntaf o Gasnewydd i farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd hi'n nyrs ac ymunodd â Gwasanaeth Nyrsio Morwrol Brenhinol y Frenhines Alexandra, a gwasanaethu ar y llong Drina.
Cafodd y criw eu gwahodd i ddathlu'r Nadolig ar y llong Natal ar 30 Rhagfyr 1915. Ond roedd ffrwydrad ar y llong ac roedd wedi suddo o fewn pum munud. Er i 170 o bobl oroesi, roedd Caroline yn un o'r 400 a fu farw.

Lilian Jones (1878-1916)
Cafodd ei geni i deulu llewyrchus; roedd ei thad yn ddyn busnes ac yn gontractwr adeiladu. Yn 1914, ymunodd â'r Groes Goch yng Nghasnewydd, a symudodd i weithio mewn ysbyty milwrol ym Mryste yn 1915.
Bu farw yn 1916 mewn damwain beic, ac mae ei henw yn Llyfr Cofio Cenedlaethol Cymru.
Alice Annie Guy (1879-1916)
Cafodd ei geni yng Nghasnewydd, uwchben siop gigydd ei thad. Cafodd ei hyfforddi i fod yn nyrs yn Ysbyty Salop yn yr Amwythig.
Yn 1916, ymunodd ag Ysbytai Menywod yr Alban yn Salonika, Gwlad Groeg. Roedd Alice yn gofalu am 28 o gleifion. O fewn wythnos, roedd hi wedi marw o ddysentri.
Gan fod ei huned yn gysylltiedig â Byddin Ffrainc, cafodd ei chladdu gydag anrhydeddau milwrol Ffrainc. Mae Alice wedi'i henwi ar garreg fedd ei rhieni a'i chwaer yn Eglwys y Santes Fair, Malpas, ac mae ar Restr Anrhydedd Casnewydd.
Gertrude Winifred Allan Dyer (1880-1918)
Am 18 mlynedd, roedd yn ysgrifennyddCymdeithas Ryddfrydol Menywod Casnewydd. Roedd hi wedi cynrychioli Casnewydd mewn cyfarfodydd cenedlaethol Menywod Rhyddfrydol yn Llundain. Y nod oedd cael pleidlais i fenywod.
Yn 1917, ymunodd Gertrude â Byddin Corfflu Cynorthwyol y Menywod (WAAC) a chafodd ei hanfon i Ffrainc. Roedd ei hiechyd wedi gwaethygu a chafodd ei throsglwyddo yn ôl adref. Bu farw o fewn ychydig ddyddiau o glefyd yr arennau.
Yn ei hangladd, cafodd anrhydeddau milwrol llawn. Mae hi'n cael ei chofio yn Rhestr Anrhydedd Casnewydd a Llyfr Cofio Cenedlaethol Cymru.

Cafodd y mosaigau eu creu gan yr artist Stephanie Roberts, gyda help y gymuned
Frances Mary Dulcie Llewellyn-Jones (1894-1918)
Merch i ficer Eglwys Sant Ioan ym Maendy oedd Frances. Cafodd ei geni ym Mhen-y-bont ar Ogwr cyn i'w rhieni symud i Gasnewydd. Ymunodd â Llu Awyr Brenhinol y Merched yn 1918, lle'r oedd menywod yn gweithio fel gyrwyr a mecanyddion.
Yn 1918, roedd pandemig y ffliw Sbaenaidd wedi cyrraedd Prydain. Roedd Frances yn gweithio fel gyrrwr yn Swydd Efrog, lle cafodd y ffliw.
Bu farw dau ddiwrnod ar ôl y cadoediad. Cafodd ei chladdu mewn bedd ryfel ym Mynwent Christchurch yng Nghasnewydd.
Beatrice Olivette White (1886-1918)
Roedd tad Beatrice yn is-bostfeistr, ac roedd Beatrice yn gweithio i Swyddfa'r Post yng Nghasnewydd yn 1903. Yn 1907, gweithiodd fel telegraffydd.
Yn 1917, ymunodd Beatrice â'r WAAC a chafodd ei hanfon i Ffrainc fel signalydd-telegraffydd, yn y Somme. Ar ôl bod ar wyliau yng Nghasnewydd yn 1918, aeth yn sâl, a bu farw rai misoedd wedyn o niwmonia. Mae Beatrice wedi'i chynnwys ar Restr Anrhydedd Casnewydd.

Violet Phillips (1898-1919)
Roedd Violet yn dod o deulu cefnog. Roedd ei thad-cu yn fasnachwr glo ac yn ynad heddwch, a'i thad yn gyfrifydd. Yn 1917, roedd Violet wedi sefyll arholiad yn nosbarth Ambiwlans y GWR.
Yn ystod y Rhyfel, roedd GWR wedi gweithio gyda Brigâd Ambiwlans Sant Ioan i wasanaethu'r trenau ambiwlans. Roedd y trenau arbennig yma yn hir iawn, gyda wardiau, fferyllfeydd, ystafelloedd llawdriniaeth, ceginau a llety staff.
Bu farw Violet o niwmonia a thwbercwlosis yn ei chartref yn 1919.
Geirfa
mosaigau / mosaics
anrhydeddu / to honour
gwasanaethu / to serve
Rhyfel Byd Cyntaf / First World War
erthygl / article
colofnydd / columnist
gydol / throughout
anafu / injured
gwella / to recover
gofalu / to care (for)
clefyd yr arennau / kidney disease
claddu / to bury
bedd rhyfel / war grave
ymuno / to join
Gwasanaeth Nyrsio Morwrol Brenhinol y Frenhines Alexandra / Queen Alexandra's Royal Naval Nursing Service
gwahodd / to invite
dathlu / to celebrate
ffrwydrad / explosion
suddo / to sink
goroesi / to survive
llewyrchus / prosperous
Y Groes Goch / The Red Cross
milwrol / military
damwain / accident
cigydd / butcher's
hyfforddi / to train
Yr Amwythig / Shrewsbury
Ysbytai Menywod yr Alban / Scottish Women's Hospitals
Gwlad Groeg / Greece
cleifion / patients
dysentri / dysentery
uned / unit
cysylltiedig / associated
Byddin Ffrainc / French Army
anrhydeddau / honours
ysgrifennydd / secretary
Cymdeithas Ryddfrydol Menywod Casnewydd / Newport Women's Liberal Society
cynrychioli / to represent
cyfarfodydd / meetings
cenedlaethol / national
nod / aim
pleidlais / vote
Byddin Corfflu Cynorthwyol y Menywod / Women's Army Auxiliary Corps
iechyd / health
gwaethygu / to worsen
trosglwyddo / to transfer
angladd / funeral
Llu Awyr Brenhinol y Merched / Women's Royal Air Force
gyrwyr / drivers
mecanyddion / mechanics
cadoediad / armistice
is-bostfeistr / subpostmaster
Swyddfa'r Post / Post Office
telegraffydd / telegraphist
signalydd-telegraffydd / signaller-telegraphist
niwmonia / pneumonia
cefnog / affluent
masnachwr glo / coal merchant
ynad heddwch / justice of the peace
cyfrifydd / accountant
sefyll arholiad / to sit an exam
Brigâd Ambiwlans Sant Ioan / St John Ambulance Brigade
fferyllfeydd / pharmacies
llawdriniaeth / surgery
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd21 Awst 2025

- Cyhoeddwyd31 Mawrth 2025

- Cyhoeddwyd20 Awst 2023
