Teyrnged i 'dad annwyl' fu farw wedi ymosodiad honedig yng Nghaerdydd

Dywedodd teulu Colm Boston fod y golled wedi eu "llorio"
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dyn 37 oed fu farw yn dilyn ymosodiad honedig yng Nghaerdydd wedi rhoi teyrnged i "dad, mab a ffrind annwyl".
Bu farw Colm Marcus Boston, o ardal Y Mynydd Bychan yn y brifddinas, ar 26 Rhagfyr yn dilyn digwyddiad ar y dydd Llun blaenorol.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ddigwyddiad ar Ffordd Pentyrch am tua 18:15 ar 22 Rhagfyr yn dilyn adroddiadau o ymosodiad.
Cafodd Mr Boston ei gludo i'r ysbyty ond bu farw o'i anafiadau bedwar diwrnod yn ddiweddarach.
Mae tri dyn wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad ac mae'r tri wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau yn parhau.
'Ffrind annwyl i nifer yng Nghaerdydd a thu hwnt'
Dywedodd teulu Mr Boston mewn datganiad ddydd Mawrth: "Mae teulu a ffrindiau Colm wedi eu llorio.
"Roedd Colm yn dad, mab, brawd, cefnder a ffrind annwyl i nifer yng Nghaerdydd a thu hwnt.
"Roedd Colm yn byw bywyd cymhleth, gyda nifer o uchafbwyntiau a chyfnodau isel, ond roedd yn caru'r bobl oedd yn rhan o'i fywyd ac roedd yn golygu llawer i nifer.
"Mae'r golled wedi cael effaith ofnadwy ar bawb oedd yn ei nabod."
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau fideo all fod o ddefnydd i'r ymchwiliad i gysylltu â nhw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2025
