Apêl heddlu wedi ymosodiad angheuol yng Nghaerdydd

Fe gafodd yr heddlu eu galw wedi adroddiad am ddigwyddiad ar Stryd Pentyrch oddeutu 18:15 brynhawn Llun, 22 Rhagfyr
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd yr heddlu eu galw wedi adroddiad am ddigwyddiad ar Stryd Pentyrch oddeutu 18:15 brynhawn Llun, 22 Rhagfyr

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn o'r Mynydd Bychan yng Nghaerdydd wedi marw yn Ysbyty Athrofaol Cymru, bedwar diwrnod ar ôl ymosodiad arno.

Roedd Colm Marcus Boston yn 37 oed, a bu farw ddydd Gwener, 26 Rhagfyr yn dilyn yr ymosodiad yn ardal Cathays y ddinas.

Fe gafodd yr heddlu eu galw i Stryd Pentyrch oddeutu 18:15 ddydd Llun, 22 Rhagfyr.

Mae tri dyn a gafodd eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad - dyn 47 oed o Adamsdown, dyn 60 oed o Cathays a dyn 51 oed o Fynachdy - wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau'r heddlu'n parhau.

Dywedodd y Dirprwy Uwch Swyddog Ymchwilio, y Ditectif Ringyll Lauren Wells, o Heddlu'r De: "Mae ein cydymdeimlad diffuant gyda theulu a ffrindiau Colm wrth iddynt ddod i delerau â'u colled drasig.

"Hoffwn ddiolch i'r gymuned am y gefnogaeth i'r ymchwiliad hyd yn hyn ac annog unrhyw un sydd â gwybodaeth i ddod i siarad â ni."

Mae plismyn yn awyddus i dderbyn unrhyw luniau teledu cylch cyfyng neu dash-cam o Ffordd Maindy, Stryd Pentyrch, Ffordd Yr Eglwys Newydd a Theras Cathays rhwng 16:00 a 18:30 ddydd Llun.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig