Rhybudd melyn am law trwm dros rannau o Gymru

Mae disgwyl i fand o law trwm gyrraedd de Cymru yn ystod y prynhawn
- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am law trwm i'r de a rhannau o'r canolbarth ddydd Llun.
Mae'r rhybudd mewn grym ar gyfer rhannau o bob sir yn y de, yn ogystal â rhannau o Bowys, rhwng 12:00 a 23:59.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd, fe allai'r glaw ddydd Llun arwain at lifogydd mewn mannau, yn ogystal â thrafferthion ar y ffyrdd.
Mae rhywfaint o amharu ar gyflenwadau trydan a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus hefyd yn bosib.
Mae disgwyl i rhwng 10-15mm o law ddisgyn yn eang o fewn ardal y rhybudd, gyda hyd at 30mm yn bosib ar dir uchel.

Mae'r rhybudd mewn grym ar gyfer rhannau o bob sir yn y de, yn ogystal â rhannau o Bowys
Mae'r rhybudd yn berthnasol i'r siroedd canlynol yng Nghymru:
Pen-y-bont ar Ogwr
Caerffili
Caerdydd
Sir Gaerfyrddin
Merthyr Tudful
Sir Fynwy
Castell-nedd Port Talbot
Casnewydd
Sir Benfro
Powys
Rhondda Cynon Taf
Abertawe
Torfaen
Bro Morgannwg
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.