Rhybudd o 'risg sylweddol' wrth gadw tomenni Ffos-y-Fran

- Cyhoeddwyd
Mae pryderon am ddiogelwch tair tomen fawr sydd yn debygol o gael eu gadael uwchben Merthyr Tudful yn dilyn cau safle glo brig dadleuol Ffos-y-Fran.
Yn ôl adroddiad a gafodd ei gomisiynu gan y cyngor lleol mae yna "risg sylweddol" y gallai'r tomenni ansefydlogi.
Mae e-byst sydd wedi dod i law BBC Cymru yn dangos hefyd bod Llywodraeth Cymru yn ystyried camu i mewn er mwyn gwneud y penderfyniad olaf ar y cais cynllunio.
Mae cwmni Merthyr (South Wales) Ltd. yn amddiffyn y tomenni gan ddweud eu bod wedi'u hadeiladu'n ofalus yn unol â rheoliadau ac maen nhw'n dweud bod eu cymharu â hen domenni glo yn "anghywir ac yn gamarweiniol".

Symudodd Chris ac Alyson Austin i'w cartref yng nghysgod y safle glo brig lai na degawd cyn iddo agor
Ddwy flynedd ers i'r cloddio ddod i ben yn Ffos-y-Fran, mae'r ansicrwydd ynglŷn a dyfodol y safle yn parhau.
Wrth dderbyn caniatâd cynllunio yn 2005, roedd safle glo brig mwya'r DU yn cael ei ystyried yn "gynllun adfer tir".
Roedd hynny'n golygu bod yn rhaid defnyddio peth o'r elw - a wnaed o werthu 11m o dunelli o lo dros gyfnod o 15 mlynedd - i adfer y safle yn gaeau gwyrdd ar gyfer y gymuned.
Mae Chris Austin sy'n byw gerllaw yn poeni na fydd hynny'n digwydd ac mai'r hyn fydd ar ôl fydd "twll peryglus wedi'i amgylchynu â ffens, tomenni peryglus ac ardaloedd na allwn ni fel y cyhoedd fynd iddynt".
Roedd y datblygwr presennol - MSW - wedi cythruddo rhai yn lleol drwy barhau i gloddio a gwerthu glo am dros flwyddyn wedi i'w caniatâd cynllunio ddod i ben.
Ers hynny maen nhw wedi cyflwyno cais i newid y cynllun adfer tir - gan honni bod "diffyg cyllid" yn eu hatal rhag cwblhau'r hyn a gafodd ei gytuno yn wreiddiol.

Mae'r tomenni, OB1, OB2 ac OB3, yn cynnwys tua 37 miliwn o fedrau ciwbig o wastraff
Dan y cynllun gwreiddiol, roedd tair tomen fawr oedd wedi ffurfio dros y blynyddoedd i fod i gael eu defnyddio i ail-lenwi'r twll 175 metr o ddyfnder lle bu'r cloddio'n digwydd.
Mae'r tomenni yn cynnwys 37 miliwn o fetrau ciwbig o ddeunydd gafodd ei dynnu o'r tir tra bod y safle glo brig yn weithredol.
Bellach mae'r cwmni yn bwriadu lleihau uchder un o'r tomenni a gadael y ddwy arall.
Maen nhw yn eu disgrifio nhw fel rhai "sefydlog hirdymor".
Byddai'r prif wagle - y twll mawr - yn dod yn "lyn naturiol".
Mae'r cais cynllunio yn cael ei ystyried gan Gyngor Merthyr Tudful a gomisiynodd adroddiad daearegol gan gwmni peirianyddol WSP.
Mae'r ddogfen yn dod i'r casgliad bod y tomenni wedi'u hadeiladu fel "cloddweithiau dros dro".
Ar ben hynny, o weld cynlluniau'r datblygwr does na ddim modd bod yn hyderus y bydd y tomenni a'r llethrau yn parhau yn sefydlog na chwaith "yn peri risg parhaol i drigolion Merthyr".
Dyw effaith newid hinsawdd "ddim yn ymdangos fel petai wedi'i ystyried" tra'i fod yn cael ei "ddisytyru heb unrhyw dystiolaeth i gefnogi hynny" mewn rhai achosion, rhybuddia'r ymgynghorwyr.
Maen nhw'n nodi bod un o'r tomenni - OB1 - sy'n codi oddeutu 170m uwch y brif ffordd yn ymyl Ffos-y-Fran - eisoes wedi profi tirlithriad yn 2022.
Mae'r adroddiad hefyd yn cyfeirio at "hanes diweddar o nifer o domenni yn methu ar draws de Cymru o ganlyniad i achosion o law sylweddol".
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'n ddiweddar eu bod yn sefydlu awdurdod newydd i gadw golwg ar hen domenni - bydd pencadlys yr awdurdod ym Merthyr Tudful.
Dywed Haf Elgar, Cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear yng Nghymru, nad yw hi'n dderbyniol o gwbl i domenni glo Ffos-y-Fran ddod yn "gyfrifoldeb cyhoeddus".
"Byddai'r corff newydd yn gorfod monitro a sicrhau eu bod nhw'n ddiogel," meddai.
Mae cynllun newydd y cwmni yn "warthus", ychwanegodd.
"Ry'm ni, y cyngor ac awdurdodau fel Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gorfod gwthio'r cwmni am ragor o wybodaeth a cheisio deall beth sy'n digwydd.
"Mae'r wybodaeth sydd wedi dod nôl yn dangos na fyddai'r cynllun yn ddiogel, ni fyddai'n adfer y tir ac ni fyddai er lles y gymuned leol."
Cyngor i 800,000 o gartrefi a busnesau am hen domenni glo
- Cyhoeddwyd3 Hydref 2025
Cynlluniau adfer safle Ffos-y-Fran yn 'bradychu' pobl leol
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2025
Torri biliau gyda dŵr o hen byllau glo?
- Cyhoeddwyd11 Medi 2024
Mewn llythyr at y cyngor, mae ymgynghorwyr ar ran datblygwyr MSW yn dweud bod ganddyn nhw "bryderon difrifol" am yr adroddiad.
Maen nhw wedi ymateb drwy gomisiynu eu hymchwil eu hunain gan gwmni daearegol a glofaol James Associates - ymchwil sy'n gwrth-ddweud casgliadau WSP ynglŷn â sefydlogrwydd y tomenni.
Mae'r adroddiad ar ran y cwmni yn dweud bod y tomenni wedi cael eu hadeiladu yn unol â chynllun oedd wedi'i gymeradwyo ac yn cydymffurfio â rheoliadau, a'u bod wedi'u monitro gan arbenigwr.
Doedd hi ddim yn deg cymharu tirlithriadau diweddar â thomenni hen byllau glo yn ne Cymru, ychwanegodd yr adroddiad.
Yn gyffredinol roedd y tomenni rheini wedi'u lleoli ar lethrau serth yn y cymoedd, tra bod tomenni Ffos-y-Fran ar dir mwy gwastad.
Nodwyd bod yna wahaniaethau hefyd o ran sut roedden nhw wedi'u ffurfio a bod y systemau draenio yn wahanol.
Mae'r cwmni hefyd yn dadlau bod eu cynllun adfer newydd yn fwy cynaliadwy - yn lleihau allyriadau carbon a llygredd aer.
Mae hefyd yn gadael "tirwedd sy'n fwy diddorol a bioamrywiol".
Faint fyddai'r gwaith adfer yn ei gostio?
Roedd amcangyfrifon o ran cost yn amrywio o £50m i £175m.
"Mae cyfrifon cyhoeddus diweddara'r cwmni... (Mawrth 2025) yn cynnwys swm gwerth £91.2 miliwn ar gyfer ateb gofynion y cynllun adfer gwreiddiol," meddai'r cyngor yn eu llythyr.
Ond nawr "mae'n ymddangos bod y cwmni yn ddibynnol ar gronfa o £15m a sefydlwyd ar cyd â'r cyngor fel cronfa wrth gefn, petai'r cwmni'n mynd i'r wal.
Mae ymgynghorwyr y safle yn dweud bod costau manwl "yn cael eu paratoi ar hyn o bryd".

Mae Delyth Jewell yn galw ar y llwyodraeth i ymyrryd yn y broses cynllunio.
Yn gynharach eleni fe ddisgrifiodd pwyllgor amgylchedd y Senedd hanes Ffos-y-Fran fel achos o "gamreolaeth epig" oedd bellach yn bygwth gadael "craith barhaol" uwchben Merthyr.
Mae ymgyrchwyr wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio'u pwerau i gymryd rheolaeth o'r cais cynllunio presennol er mwyn sicrhau mai gweinidog sy'n cael y gair olaf.
Mae e-byst sydd wedi dod i law BBC Cymru yn dilyn cyfres o geisiadau rhyddid gwybodaeth yn datgelu bod gweinidogion yn ystyried gwneud hynny.
"Ry'n ni mewn rhyw fath o sefyllfa lle mae pawb yn aros i bobl eraill i ymateb ac mae hynny mor rhwystredig," meddai Delyth Jewell, llefarydd Plaid Cymru ar newid hinsawdd.
"Roedd y prosiect yma i fod i wneud y safle yn well ac yn fwy saff ar gyfer trigolion lleol - yn lle hynny maen nhw wedi cael eu gadael â tipiau glo newydd a rhyw void sy'n llenwi â dwr.
"Bellach mae 'na fwy o stormydd, mwy o law trwm, ac mae'r tir yn mynd i gael ei ansefydlogi lot yn fwy - 'dyn ni methu fforddio cymryd risg fel hyn.
"Mae'n hollol afresymol a mae'n rhaid i'r llywodraeth ymateb," meddai.
'Anghywir a chamarweiniol'
Mewn datganiad, dywedodd Merthyr (South Wales) Ltd ei bod hi'n "anghywir ac yn gamarweiniol" i ddisgrifio'r tomenni ar y safle fel tomenni glo.
Roedd tomenni'r safle yn "strwythurau a oedd wedi'u hadeiladu i bwrpas yn unol â rheoliadau mwyngloddio modern.
"Mae awgrymu y gallen nhw'n achosi'r un fath o risgiau [â thomenni glo hanesyddol] yn creu ofnau diangen ac yn camarwain y cyhoedd.
"Mae Merthyr (South Wales) Ltd yn parhau i fod yn gwbl ymroddedig i gydweithio â'r awdurdod cynllunio ac mae gennym bob hyder y bydd y cais yn cael ei drin mewn modd cyfreithiol, di-duedd a fydd yn seiliedig ar ffeithiau, cofnodion ac argymhellion sydd wedi'u gwirio yn broffesiynol."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Merthyr Tudful bod y datblygwr wedi cytuno i ddarparu gwybodaeth bellach er mwyn ymateb i bryderon am sefydlogrwydd y tomenni.
"Bydd ymgynghoriad pellach wedyn yn cael ei gynnal er mwyn adolygu unrhyw wybodaeth newydd," ychwanegodd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio'n agos gyda'r cyngor a phartneriaid eraill "er mwyn sicrhau y canlyniad gorau posib ar gyfer pobl leol".
Fe gadarnhaodd llefarydd eu bod yn ystyried yr alwad i gymryd rheolaeth am y cais cynllunio ac y byddai penderfyniad "maes o law".