Colleen Ramsey: 'Beth mae Cymru a'r Eidal yn golygu i fi'

Colleen RamseyFfynhonnell y llun, S4C
GanAngharad Rhys
Yn gohebu oBBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

"Mae'r Eidalwyr mor falch o'u bwyd nhw a'u hunaniaeth nhw, mae wedi gwneud i fi rili werthfawrogi Cymru a bod iaith ein hun gyda ni."

Wedi byw yn Yr Eidal am ddwy flynedd a hanner a chwympo mewn cariad gyda'r wlad a'r bwyd, mi ddechreuodd y cyflwynydd Colleen Ramsey deimlo'n wahanol am Gymru a'i mamiaith.

Meddai mewn cyfweliad gyda Cymru Fyw: "Ar ôl byw yn Llundain a'r Eidal lle mae pobl ddim yn rili gwybod ble mae Cymru, yn meddwl bod Cymru'n rhan o Loegr ac hefyd ddim yn gwybod am yr iaith, mae'n neud i ti eisiau chwifio'n baner ni a siarad dy iaith di mwy.

"Dyna beth oedd wedi neud i fi eisiau neud y gyfres gyntaf Bywyd a Bwyd - ar ôl gweld y ffordd maen nhw'n gwerthfawrogi bwyd nhw a iaith nhw yn yr Eidal, o'n i'n meddwl, 'wel mae gyda ni bwyd a iaith cŵl hefyd'."

Ac mae ei hangerdd am y ddwy wlad yn amlwg mewn cyfres deithio newydd ar S4C, Ciao! Colleen ag Owain lle mae hi a'r cyflwynydd tywydd Owain Wyn Evans ar grwydr o amgylch Yr Eidal gan gael blas ar fwyd, ffasiwn a phensaernïaeth y wlad.

Colleen ac OwainFfynhonnell y llun, S4C

Perthynas gyda'r Eidal

Meddai Colleen, sy' wedi byw yno pan oedd ei gŵr Aaron Ramsey yn chwarae pêl-droed i Juventus: "Y prif gymeriad yw'r Eidal.

"Mae dipyn bach fel ail gartref nawr – ni wedi cwrdd â phobl hyfryd a neud ffrindiau allan fan 'na.

"Mae gen i berthynas dda efo'r Eidal a dwi wedi cwympo mewn cariad gyda'r lle yn enwedig pan yn byw yn Turin."

Mae Colleen yn arbennig o angerddol am y ffordd o fyw yno gyda'r pwyslais ar fod tu allan: "Maen nhw'n cael cyflymder bywyd yn iawn.

"Maen nhw'n credu bod amseroedd prydiau bwyd teuluol yn bwysig sy'n rhywbeth dwi'n rili hoffi. Maen nhw'n caru ei gilydd ac os ti'n neud ffrindiau draw fan 'na maen nhw'n ffrindiau ffyddlon."

Cariad am fwyd Eidalaidd

Hoff beth Colleen am yr Eidal yw'r bwyd: "Dwi'n credu fod e wedi agor fy llygaid i fyw bywyd mwy iachus â mwy o fwydydd cyflawn achos does dim rybish yn yr Eidal.

"Does dim creision lliw oren a phethe fel 'na – mae popeth yn real a syml. Ac mae rili wedi neud i fi werthfawrogi cynhwysion a llysiau ffres a bwyd sy' wedi neud o scratch.

"Maen nhw mor falch o'u bwyd nhw yno ac mae 'na ymladd ymhlith ei gilydd dros le yw'r lle i gael yr olive oil neu'r pizza gorau.

"Mae wedi newid y ffordd dwi'n meddwl am goginio a pharatoi bwyd o scratch."

Fel canlyniad mae bwyd Eidalaidd yn cael ei fwynhau sawl gwaith yr wythnos yng nghartref y teulu Ramsey: "Mae'r bechgyn wedi tyfu fyny fan 'na ac maen nhw dal yn caru risotto a pasta – ni'n cael bwyd Eidalaidd mwyafrif yr wythnos."

Colleen ac Owain yn edmygu'r cynnyrch ffresFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Colleen ac Owain yn edmygu'r cynnyrch ffres

Ac mae lawer gwell gan Colleen siopa am fwyd nag am ddillad neu gemwaith, fel mae'n sôn yn y gyfres lle mae ei hangerdd am farchnadoedd bwyd ffres Yr Eidal yn amlwg: "O'n i'n arfer meddwl bod hwnna'n rhywbeth da amdana fi, bod fi ddim yn licio gwario arian ar fagiau, pyrsys, gemwaith – mae'n well gen i gael parmesan sy' wedi heneiddio am 18 mis.

"Ond o leiaf mae bagiau yn para am amser hir. Ar ôl fi fwyta parmesan mae wedi mynd felly mae ddim yn beth da.

"Dwi yn caru bwyd mwy na unrhyw beth arall – dyna beth dwi'n gwario arian arno."

Hoff atgofion

Roedd nifer o draddodiadau'r teulu yn Yr Eidal yn canolbwyntio ar y bwyd yno, meddai: "Bob dydd Gwener fel rheol o'n ni'n mynd lawr i'r sgwâr yn Turin ac oedd e mor hardd a hyfryd.

"Roedd e'n draddodiad bach i gael pizza ffres o'r lle ffantastig 'ma.

"Mae'r bobl yn rili gyfeillgar, maen nhw ddim yn gallu neud digon i ti. Ac maen nhw'n rili dda gyda plant hefyd.

"I gŵr fi, beth sy'n arbennig am Yr Eidal yw bod nhw'n gwerthfawrogi ansawdd da am bopeth – dillad o ansawdd da a bwyd o ansawdd da ac maen nhw'n cymryd pethau o ddifri mewn ffordd da. Ni wedi cymryd hwnna gyda ni."

Un peth arall maen nhw wedi dod adref gyda nhw yw gwin o'r ardal Piedmont: "O'n ni wedi cwympo mewn cariad gyda'r gwin coch yma o'r enw barolo. Ni dal yn yfed e nawr, ni wedi dod a'r gwin gyda ni."

Yn y gyfres mae'r camerâu yn dilyn Colleen ac Owain wrth iddynt fynd ar grwydr o amgylch dinasoedd gan gynnwys Lucca a Bologna. Mae'r ddau yn cael hwyl wrth goginio a fynd i farchnadoedd a siopau lleol gyda Colleen yn arwain y sgwrs yn Eidaleg.

Meddai Colleen: "Sardinia yw fy hoff lle achos mae'r bwyd a'r môr yn ffab ac mae'n hyfryd. Ond dwi ddim yn meddwl fod lle gwael yn Yr Eidal."

Hiraeth

Erbyn hyn mae'r teulu yn ôl yng Nghymru yn byw ar ôl cyfnod ym Mecsico lle'r oedd Aaron Ramsey yn chwarae i'r Pumas UNAM. Mae Colleen yn falch i fod yn ôl yn ei mamwlad ar ôl i gi y teulu, Halo, fynd ar goll gan beri gofid mawr iddynt.

Er gwaethaf cynnig gwobr ariannol am newyddion amdano, nid yw'r teulu yn gwybod beth sy' wedi digwydd iddo.

Meddai: "Ni fod i fod ym Mecsico nawr, mae wedi bod yn whirlwind ond dwi yn hapus i fod yn ôl gyda'r teulu. Maen nhw'n byw deg munud i ffwrdd, fy chwaer a mam a dad – mae rhywbeth rili neis am wario amser 'da nhw, jest popio mewn a chael paned gyda Mam."

Mae hi'n teimlo hiraeth am Yr Eidal o hyd, meddai: "Pan o'n ni'n byw 'na oedd e wedi neud i fi werthfawrogi byw yng Nghymru mwy achos mae'n gyfarwydd a ti'n gallu siarad iaith dy hun.

"Dwi yn colli lot o bethau am yr Eidal ond dwi hefyd yn hapus i fod yn Nghymru nawr."

Newid gyrfa

Mae bywyd wedi newid ers iddi gyflwyno ei chyfres cyntaf yn 2022 ac mae hi'n wyneb cyfarwydd i gynulleidfa S4C erbyn hyn.

Ond meddai: "Dwi ddim yn meddwl mod i'n gyfarwydd – dwi'n mynd gyda'r flow. Dwi ddim yn gwybod beth dwi'n neud ond mae pobl yn licio fe so dwi'n hapus."

Cyngor i unrhyw un sy'n teithio i'r Eidal

Cerddwch o gwmpas a ffeindio llefydd i fwyta - llefydd sy'n dipyn bach o gyfrinach fel y siopau sy'n neud balsamic vinegar. Dyna'r bwyd gorau – y bwyty rustic a bwyd 'nonna'.

Ewch i'r parciau lleol achos mae vibes rili da yn enwedig ar y penwythnos – mae bob oedran yn mynd yno.

Gwyliwch Ciao! Colleen ag Owain ar S4C am 9:00 ar 2 Chwefror neu mae'r gyfres ar gael ar S4C Clic, dolen allanol a BBC iPlayer.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb