Fydd 'na ddyrchafiad arall i Wrecsam?

Rob McElhenney a Ryan Reynolds yn dal tlws ar ôl ennill dyrchafiad o'r Adran Gyntaf i'r Bencampwriaeth yn 2025Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Rob McElhenney a Ryan Reynolds yn dathlu ennill dyrchafiad i'r Bencampwriaeth yn 2025

GanOwain Llyr
Chwaraeon BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mi oedd 'na ganlyniad cofiadwy arall i Wrecsam yng Nghwpan yr FA wythnos diwethaf.

Maen nhw drwodd i'r bedwaredd rownd ar ôl ennill ar giciau o'r smotyn yn erbyn Nottingham Forest - dyma'r tro cyntaf iddyn nhw guro tîm o Uwch Gynghrair Lloegr ers 1999.

Mi fydden nhw'n wynebu Ipswich ar Y Cae Ras yn y bedwaredd rownd fis nesaf.

Ond cyn hynny mae ganddyn nhw bum gêm yn y Bencampwriaeth, a chyfle gwirioneddol bellach o orffen yn y chwe safle uchaf ar ddiwedd y tymor.

Maen nhw wedi ennill tri dyrchafiad mewn tri thymor - be am eu gobeithion nhw o wneud hynny'n bedwar dyrchafiad mewn pedwar tymor?

Rhan o dabl y Bencampwriaeth ym mis Ionawr 2026Ffynhonnell y llun, BBC Sport
Disgrifiad o’r llun,

Mae pethau'n agos yn y ras am le yn y chwe safle uchaf yn Y Bencampwriaeth

Er iddyn nhw wario'n agos at £30m ar chwaraewyr newydd, mi oedd dyrchafiad arall yn edrych yn annhebygol ar ddechrau'r tymor.

Wedi'r cyfan maen nhw'n chwarae'n yr ail haen am y tro cyntaf ers 43 o flynyddoedd, ac fe gollon nhw eu dwy gêm gyntaf o'r tymor yn erbyn Southampton a West Brom.

Ond yn araf deg bach mae'r rheolwr Phil Parkinson wedi cael trefn ar ei dîm, ac wedi dod o hyd i batrwm a steil o chwarae sy'n siwtio'r Bencampwriaeth.

Mae'r chwaraewyr newydd - Dom Hyam, Issa Kabore, Callum Doyle, Liberato Cacace, Ben Sheaf, George Thomason, Josh Windass, Nathan Broadhead a Kieffer Moore - i gyd wedi cyfrannu ryw ffordd neu'i gilydd.

Ac ar ôl colli yn erbyn Abertawe cyn y Nadolig, maen nhw wedi rhoi rhediad gwych at ei gilydd ac wedi ennill pedair gêm yn olynol.

"Dwi'n meddwl fod 'na siawns da y bydd Wrecsam yn y chwe uchaf ar ddiwedd y tymor," meddai cyn-chwaraewr canol cae y clwb Waynne Phillips.

"Maen nhw wedi profi eu bod nhw'n gallu cystadlu efo'r timau eraill sy'n mynd am y chwe uchaf."

Sam Smith yn sgorio ym muddugoliaeth Wrecsam o 2-1 yn erbyn CountyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sam Smith yn sgorio'n erbyn Derby County wrth i Wrecsam ennill eu pedwaredd gêm yn olynol yn y Bencampwriaeth

Mae proffil y clwb yn anferth ers i Ryan a Rob ei brynu yn 2021.

Mae'r rhediad diweddar o ganlyniadau yn sicr wedi dal y sylw, gyda sawl asiantaeth newyddion yn Yr Unol Daleithiau yn gofyn y cwestiwn "a fydd Wrecsam yn Uwch Gynghrair Lloegr y tymor nesaf?"

Mae'r hyn sydd wedi digwydd dros y bum mlynedd ddiwethaf ar Y Cae Ras wedi bod yn stori Hollywood go iawn, ond er hynny does yna neb yn cymryd dim byd yn ganiataol y tymor yma.

"'Da ni'n cymryd un gêm ar y tro. Tydan ni ddim yn meddwl dim pellach na'r gêm nesaf," meddai'r chwaraewr canol cae 34 oed Matty James.

"Mae 'na gymaint o gemau o'r tymor ar ôl, mae pethau'n gallu newid mor sydyn.

"Ond mae 'na ddigon o brofiad yn y garfan, ac mae'n bwysig ein bod ni'n cadw ein ffocws."

Ac fe ddylai James wybod am be' mae'n siarad. Fe enillodd dyrchafiad o'r Bencampwriaeth gyda Chaerlŷr 12 mlynedd yn ôl.

Phil Parkinson yn dilyn y fuddugoliaeth yn erbyn Derby County yn 2026Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Phil Parkinson wedi bod yng ngofal Wrecsam am dros 250 o gemau

Gyda'r cyfnod trosglwyddo yn dod i ben ddechrau mis Chwefror, fe allwn ni weld Phil Parkinson yn cael arian i gryfhau ei garfan.

Mae Kieffer Moore wedi cael anafiadau'n ddiweddar - felly oes angen ymosodwr arall?

Ac os y bydd Conor Coady yn gadael gan nad yw'n chwarae'n rheolaidd efallai y bydd angen amddiffynnwr canol newydd.

"Dwi'm yn siŵr a fydd 'na chwaraewyr newydd yn dod i fewn," yn ôl Waynne Phillips.

"Un o'r rhesymau fy mod i'n dweud hynny ydi achos fod yr hogiau sydd wedi dod yn ôl o anafiadau fel Oli Rathbone a Sam Smith wedi profi eu bod nhw'n gallu chwarae ar y lefel yma.

"Dwi'n teimlo y bydd 'na chwaraewyr yn gadael y clwb, ond dwi'm yn siŵr a welwn ni rhai yn cael eu harwyddo."

Oli Rathbone yn dathlu sgorio'n erbyn Blackburn Rovers ar Barc Ewood yn 2026Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae canlyniadau oddi cartref Wrecsam wedi gwella'n ddiweddar

Mae'r bedair gêm nesaf yn erbyn timau sy'n is na Wrecsam yn y tabl - Norwich, Caerlŷr, QPR a Sheffield Wednesday.

Mi fyddai rhediad da arall o ganlyniadau yn eu codi nhw o fewn y chwe safle uchaf, ac rydyn ni i gyd yn gwybod pa mor bwysig ydi momentwm yn y byd pêl-droed.

"Mi oedd angen i'r canlyniadau i ffwrdd o'r Cae Ras wella, ac mae hynny yn sicr wedi digwydd," ychwanegodd Waynne Phillips.

"Maen nhw'n barod wedi ennill dwy gêm oddi cartref yn barod eleni yn Blackburn Rovers ac yn Derby County.

"Os y bydd hynny'n parhau maen nhw'n mynd i fod yn agos iawn at y chwe uchaf ar ddiwedd y tymor, achos does 'na ddim byd o'i le ar eu canlyniadau nhw mewn gemau cartref.

"Os y gallen nhw gyrraedd y gemau ail-gyfle yna pwy a ŵyr be all ddigwydd wedyn."

Sibrydwch hyn yn ddistaw, ond dim ond chwe phwynt i ffwrdd ydyn nhw o'r ddau safle uchaf.

Tybed a fydd angen gemau ail-gyfle arnyn nhw o gwbl?!

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.