Dyn oedd ar ffo rhag yr FBI yng Nghymru i gael ei estraddodi

Llun artist o Daniel Andreas San Diego yn ystod ymddangosiad llys blaenorol
- Cyhoeddwyd
Bydd dyn a gafodd ei ganfod mewn bwthyn ger Llanrwst ar ôl bod ar ffo rhag yr FBI am dros 20 mlynedd yn cael ei yrru yn ôl i'r Unol Daleithiau.
Daw ar ôl i farnwr benderfynu bod digon o dystiolaeth i estraddodi Daniel Andreas San Diego.
Mae Mr San Diego yn cael ei amau o osod cyfres o fomiau wnaeth ffrwydro y tu allan i swyddfeydd yn California yn 2003.
Fe wnaeth mudiad sy'n ymgyrchu yn erbyn creulondeb at anifeiliaid hawlio cyfrifoldeb am yr ymgyrch.
Roedd tîm cyfreithiol Mr San Diego wedi ceisio atal yr estraddodi, gan honni na allai fyth ddisgwyl achos teg yn yr Unol Daleithiau.
Ond dywedodd y Barnwr Sam Goozée wrth Lys Ynadon Westminster ddydd Gwener ei fod y gwrthod yr honiadau hynny, gan benderfynu y byddai'n cael ei yrru yn ôl i'r Unol Daleithiau.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa.
Bydd yn rhaid i unrhyw apêl gael ei gwneud i'r ysgrifennydd cartref, a phe bai hynny'n cael ei ganiatáu byddai'n rhaid ei chyflwyno o fewn pythefnos.

Roedd Daniel Andreas San Diego yn byw yn y tŷ yma ym Maenan, Dyffryn Conwy
Cafodd Daniel Andreas San Diego, 47, ei arestio gan swyddogion o'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol ym mis Tachwedd 2024, a'i gludo o'i fyngalo diarffordd ym Maenan yn Nyffryn Conwy i garchar Belmarsh yn Llundain.
Gadawyd drysau patio ei gartref ar agor ac roedd anrheg Nadolig wedi'i lapio ar fwrdd.
Roedd y cwpl lleol a werthodd y tŷ gwerth £400,000 iddo ymysg nifer a ddywedodd wrth newyddiadurwyr fod y dyn roedden nhw'n ei adnabod fel un o Ganada yn ddyn preifat ac yn aml yn cael ei weld yn cerdded ei gŵn.
Cafodd ei ddarganfod gyda phasbort Gwyddelig yn enw Daniel Stephen Webb, ac roedd wedi gweithio fel ymgynghorydd technoleg.
Ond ychydig o wybodaeth sydd am ble yn union y bu'n byw am yr 21 mlynedd iddo fod ar ffo rhag yr FBI.

Roedd yr FBI wedi bod yn ceisio dod o hyd i Daniel Andreas San Diego ers 2003
Yn fuan ar ôl iddo gael ei arestio, daeth i'r amlwg bod Daniel Andreas San Diego ar restr o droseddwyr mwyaf perygl yr FBI.
Cafodd ei achos ei gynnwys sawl gwaith ar raglen America's Most Wanted yn yr Unol Daleithiau.
Nid oedd wedi cael ei weld ers iddo redeg i orsaf danddaearol yn San Francisco ym mis Hydref 2003.
Ar y pryd roedd yr FBI ar fin ei arestio mewn cysylltiad â'r ymosodiadau ar sawl swyddfa yn nhalaith California.

Roedd San Diego, dde uchaf, yn ymddangos ar restr Most Wanted yr FBI oedd yn cynnwys Osama Bin Laden - cyn-arweinydd al-Qaeda
Yn ystod y gwrandawiad estraddodi y llynedd, roedd tîm cyfreithiol Mr San Diego wedi honni na allai fyth ddisgwyl achos teg yn yr Unol Daleithiau oherwydd y posibilrwydd o ymyrraeth wleidyddol a chyfreithiol.
Anghytunodd yr erlynwyr, gan ddweud nad oedd yr Arlywydd Donald Trump nac unrhyw un arall mewn safle o bŵer wedi sôn am achos San Diego o gwbl, ac nad oedd unrhyw brawf na fyddai'n cael achos teg.
Pan ddiflannodd Mr San Diego, roedd yn cael ei amau o osod tri o fomiau yn cynnwys hoelion y tu allan i ar ffatrïoedd biodechnoleg.
Ni chafodd unrhyw un eu hanafu, ond mae'r FBI yn dweud mai dim ond drwy lwc oedd hynny.
Yn amlinellu'r achos yn erbyn Mr San Diego, dywedodd y Twrnai Cynorthwyol Helen Gilbert o'r Unol Daleithiau ei fod yn "ymwneud â thanio tair dyfais ffrwydrol ger dau gwmni gwahanol yn California".
"Mae gan y ddau gwmni - Chiron Corporation a Shaklee Corporation - berthynas gyda'r sefydliad ymchwil Huntingdon Life Sciences, sy'n cynnal profion ar anifeiliaid.
"Cafodd y cwmnïau eu targedu oherwydd y berthynas yma."

Cafodd Daniel Andreas San Diego ei arestio yn ardal Maenan ger Llanrwst
Flynyddoedd yn ddiweddarach, rhoddodd yr FBI Mr San Diego ar eu rhestr Most Wanted Terrorists ochr yn ochr ag Osama Bin Laden - cyn-arweinydd al-Qaeda.
Yn ystod y gwrandawiad estraddodi, dywedwyd wrth y llys fod olion bysedd Mr San Diego wedi'u canfod ymhlith rhywfaint o offer gwneud bomiau yn y car a gafodd ei adael y tu allan i'r orsaf drenau.
Fe wnaeth grŵp hawliau anifeiliaid eithafol hawlio cyfrifoldeb am y digwyddiadau ger safleoedd cwmni Chiron yn Emeryville a chwmni Shaklee yn Pleasanton.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2024

- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2024

- Cyhoeddwyd9 Medi 2025
