Gwagio cartrefi ac arestio dyn ar amheuaeth o greu ffrwydryn

Commercial StreetFfynhonnell y llun, Tasha Anne Owen
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i bobl adael eu cartrefi ar Commercial Street yn Abergwynfi am gyfnod

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 51 oed wedi cael ei arestio a phobl wedi gorfod gadael eu cartrefi ar ôl adroddiadau bod "nifer sylweddol o arfau anghyfreithlon" wedi cael eu canfod yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Cafodd swyddogion Heddlu De Cymru eu galw i gyfeiriad ar Commercial Street yn Abergwynfi tua 21:30 nos Sul.

Dywedon nhw eu bod wedi derbyn adroddiadau fod nifer sylweddol o arfau anghyfreithlon o fewn yr adeilad.

Mae dyn 51 oed o Flaengwynfi wedi cael ei arestio ar amheuaeth o geisio creu ffrwydryn gyda'r bwriad o beryglu bywyd neu eiddo. Mae'n parhau yn y ddalfa.

Dywedodd Heddlu De Cymru fod trigolion cartrefi gerllaw wedi gorfod gadael eu cartrefi ble fo hynny'n bosib fel "mesur diogelwch rhagofalus" ond eu bod bellach yn rhydd i ddychwelyd.

Fe fydd swyddogion yn parhau yn yr ardal am gyfnod i helpu'r rhai sydd angen cymorth i fynd yn ôl i'w cartrefi.

Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd, Stephen Jones: "Hoffwn ddiolch i'r holl drigolion am eu dealltwriaeth a'u hamynedd wrth i ni gynnal ein hymchwiliadau.

"Fe allai'r newyddion yma, ynghyd â phresenoldeb yr heddlu ar y stryd, fod wedi achosi rywfaint o bryder, ond ein blaenoriaeth oedd sicrhau diogelwch a lles pobl yr ardal."

Pynciau cysylltiedig