Gwrthdrawiad rhwng bws a char yn Rhondda Cynon Taf

Bu bws a char mewn gwrthdrawiad yn Rhondda Cynon Taf ddydd Mawrth
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu De Cymru'n dweud bod swyddogion wedi ymateb i wrthdrawiad rhwng bws a char ar Heol Ynysybwl ger Pontypridd.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 13:38 brynhawn Mawrth ac fe gafodd ffordd y B4273 ei chau i'r ddau gyfeiriad - o Cefn Close i Cefn Lane.
Dywedodd y gwasanaeth tân ac achub eu bod nhw, yn ogystal â gwasanaeth ambiwlans ac ambiwlans awyr, yn bresennol yno hefyd.
Does dim gwybodaeth ar hyn o bryd ynglŷn ag unrhyw anafiadau.
Mae cwmni Stagecoach yn cadarnhau bod un o'u bysiau wedi bod yn rhan o'r digwyddiad ac am bwysleisio mai eu prif flaenoriaeth ydy "diogelwch teithwyr, gyrwyr, a defnyddwyr ffyrdd eraill".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.