Ymgyrchwyr yn galw am 'ddadl genedlaethol' ar ffermydd gwynt

Roedd gwrthwynebwyr yn honni y byddai'r tyrbinau'n anharddu'r ardal rhwng Dyffryn Afan a Chwm Llynfi
- Cyhoeddwyd
Mae arweinwyr ymgyrch yn erbyn fferm wynt rhwng Dyffryn Afan a Chwm Llynfi yn dweud bod "angen dadl genedlaethol ar fater ffermydd gwynt".
Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi gwrthod y cynllun ar gyfer fferm wynt a thyrbeini enfawr ar fynyddoedd o amgylch pentref bach Y Bryn, tua phum milltir o Bort Talbot.
Roedd y cynllun yn cynnwys 18 o dyrbeini, ac roedd ymgyrchwyr yn dadlau y bydden nhw ymysg y talaf ar y tir mawr yn y Deyrnas Unedig - hyd at 250m o daldra.
Mae pobl sy'n byw yn y pentref a'r ardal gyfagos wedi bod yn deisebu ac yn ymgyrchu yn erbyn y datblygiad ers dros bedair blynedd.
Roedden nhw'n dadlau y byddai'n cael effaith andwyol ar fywyd gwyllt, y tirlun ac iechyd pobl leol.
Ond er gwaethaf gwrthod y cynllun hwn, mae eraill yn pwysleisio fod ffermydd gwynt ar y tir yn chwarae rôl allweddol wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd yng Nghymru.

Yn ôl ymgyrchwyr, byddai'r tyrbinau wedi bod ymysg y talaf ar y tir mawr yn y DU
Fe gafodd cynllun cwmni Coriolis ar gyfer fferm wynt Y Bryn ei wrthod ym mis Tachwedd gan arolygydd Llywodraeth Cymru, a ddywedodd y byddai'n cael effaith annerbyniol ar gymeriad y tirwedd.
Dywedodd Rhodri Williams - un o arweinwyr yr ymgyrch yn erbyn y fferm wynt - fod y penderfyniad i wrthod y cais yn rhyddhad enfawr i'r gymuned.
"Mae'r ardal yn hapus, ma' pwyse wedi codi oddi ar ein hysgwyddau ni. Ry'n ni'n gallu anadlu yn well," meddai.
"Roedd hyn yn effeithio iechyd pobl. Ry'n ni 'di bod yn ymladd ers pedair blynedd. Mae synnwyr cyffredin wedi dod trwyddo."

Mae Rhodri Williams yn galw am gynnal "sgwrs genedlaethol" am ffermydd gwynt
Er bod yr arolygydd yn cydnabod y gallai'r ardal elwa yn sylweddol yn sgil y prosiect - gan gynnwys y potensial i gwrdd â gofynion trydan dros 85,700 o dai - doedd hyn ddim yn ddigon i wneud iawn am y niwed sylweddol i'r ardal.
Wrth groesawu'r penderfyniad, mae Rhodri Williams yn dadlau bod angen edrych ar syniadau eraill ar gyfer cynhyrchu ynni gwyrdd.
"Bydde'r tyrbeini wedi dinistrio yr ardal. Doedden nhw just ddim yn addas lai na milltir o dai pobl," meddai.
"Mae yna opsiynau eraill ar gyfer ynni, fel hydro."
'Mae'n gwbl wallgof'
Mae Mr Williams yn galw am gynnal "sgwrs genedlaethol" am ffermydd gwynt.
"Ar y funud mae cymaint o gynlluniau ar y gweill ar hyd a lled Cymru - degau ar ddegau ohonyn nhw. Mae'n gwbl wallgof," meddai.
Mae Jonty Colchester, cadeirydd elusen cefn gwlad Cymru CPRW, wedi croesawu'r penderfyniad hefyd.
"Roedd y cynllun yn gwbl anaddas ar gyfer y tirwedd ac yn bygwth fforestydd, bywyd gwyllt a lles y bobl sy'n byw yn yr ardal," meddai.
"Mae'n rhaid i Gymru chwarae rhan wrth daclo yr argyfwng hinsawdd, ond mae y penderfyniad yma yn dangos fod unrhyw ddatblygiadau ynni adnewyddadwy yn gorfod cael ei leoli yn y lle cywir."
Mae'r ymgyrchwyr a'r CPRW yn dweud nad ydyn nhw'n gwrthwynebu ffermydd gwynt, ond nad oedd y lleoliad yma'n addas.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod gan "ynni gwynt ar y tir rôl bwysig i'w chwarae wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, gwella ein diogelwch ynni, a chreu Cymru fwy llewyrchus".
"Ni allwn wneud sylwadau ar benderfyniadau penodol a wneir gan weinidogion Cymru," meddai llefarydd.

Roedd cwmni Coriolis Energy wedi dadlau bod ffermydd gwynt yn bwysig er mwyn sicrhau dyfodol sero net
Wrth ymateb i'r alwad am sgwrs genedlaethol, mae'r diwydiant ynni gwynt yn dweud fod ffermydd gwynt ar y tir yn chwarae rôl allweddol wrth daclo'r argyfwng hinsawdd yng Nghymru.
Dywedodd Catryn Newton, cyfarwyddwr buddsoddi cymunedol a chyfathrebu gyda chwmni ynni Bute Energy, fod "ffermydd gwynt yn ffordd rhatach o greu ynni adnewyddadwy.
Mae tirwedd Cymru'n wych am hyn gan fod Cymru'n wyntog iawn, ac mae manteisio arno'n caniatáu i ni ddefnyddio ynni glân a chreu dyfodol amgylcheddol gwell."
'Llwyth o gamwybodaeth'
Ychwanegodd fod y diwydiant wedi gwneud ymdrech sylweddol i leihau'r effeithiau ar dirwedd, a chynyddu budd cymunedol.
"Mae llwyth o gamwybodaeth mas yna am yr effaith mae ffermydd gwynt yn cael ar gymunedau," meddai Ms Newton.
"Mae'r diwydiant ynni gwynt ac ymchwilwyr wedi datblygu ffyrdd ac yn gweithredu i amddiffyn bywyd gwyllt a lleihau effeithiau.
"Mae yna fuddion cymunedol anferth hefyd - ry'n ni'n noddi grwpiau, ry'n ni'n gweithio gyda'r sector addysg i ddatblygu sgiliau a chreu swyddi sy'n talu'n dda, ac ry'n ni'n gweithio'n galed i gadw a chynnal rhain.
"Mae'n bwysig ein bod ni'n gwneud ein rhan ni i sicrhau bod yna ddyfodol i gefn gwlad Cymru a phweru'r dyfodol yma trwy ynni adnewyddadwy."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2023

- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2023
