Ydy bod yn gaeth i gamblo'n anoddach i fenywod yn ystod mislif?

Abbie Harvey
Disgrifiad o’r llun,

Mae Abbie Harvey yn dweud bod ei hawydd i gamblo'n waeth yn ystod cyfnod ei mislif

  • Cyhoeddwyd

Roedd menyw o dde Cymru mor gaeth i gamblo, doedd hi ddim yn gallu gyrru am fwy nag 20 munud heb stopio i wneud bet - ac fe deimlodd yr awydd yn gwaethygu cyn ac yn ystod ei mislif.

"Er mwyn dod dros teimlo'n emosiynol, byddwn i'n gamblo fel ffordd o ymdopi," meddai Abbie Harvey o'r Barri, a gollodd fwy na £20,000 yn ystod ei brwydr â chaethiwed a barodd am ddegawd.

Nid Abbie yw'r unig un sydd wedi profi hyn.

Dywedodd Kiki Marriott, sydd hefyd wedi bod yn gaeth i gamblo yn y gorffennol, ei bod hi'n gweld cynnydd yn ei hawydd i gamblo yn ystod yr wythnos cyn ei mislif.

Mae'r ddwy wedi cael triniaeth yng nghanolfan adsefydlu Parkland Place ym Mae Colwyn, ble mae staff clinigol yn credu bod y cylch mislif yn gallu effeithio ar dueddiadau gamblo.

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Birmingham bellach yn gweithio gydag elusen Gordon Moody i weld a oes cysylltiad rhwng amrywiadau hormonaidd - sy'n cael eu hachosi gan y mislif, ofyliadau, menopos a rhoi genedigaeth - â chaethiwed i gamblo.

Yn ôl yr elusen, mae nifer y menywod sy'n gamblo yn y DU - a'r nifer sy'n gaeth i gamblo - ar ei uchaf erioed.

Rhybudd: Mae'r erthygl hon yn cyfeirio at hunanladdiad.

Mi fyddai Abbie, 34, yn gamblo'n bennaf ar ei ffôn gan chwarae slotiau ar-lein.

"Y cynllwynio, y celwyddau, fe gymerodd e dros fy mywyd," meddai.

"Byddwn i'n gamblo am bedwar o'r gloch y bore, am ddau o'r gloch y prynhawn.

"Byddwn i'n deffro yng nghanol y nos a'r cyfan o'n i eisiau ei wneud oedd gamblo ar-lein.

"Byddwn i'n gyrru adref o dŷ fy chwaer, sydd tua 20 munud i ffwrdd, ac allwn i ddim hyd yn oed aros 20 munud cyn stopio a chwarae slotiau ar-lein."

Kiki Marriott
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Kiki Marriott ei bod wedi sylweddoli newid yn ei hymddygiad wrth gamblo yn ystod ei mislif

Fel Abbie, mi fyddai Kiki yn gamblo ar ei ffôn hefyd, ond yn aml am 24 awr - tan ei bod yn rhedeg allan o arian.

Dywedodd y fenyw 40 oed bod ei chaethiwed i gamblo wedi gwneud iddi deimlo fel lladd ei hun.

"Doedd dim ots gen i os oeddwn i'n byw neu'n marw," meddai.

"O'n i arfer gweddïo i gael marw a meddwl doeddwn i methu aros i hyn ddod i ben."

Esboniodd y byddai'n "gwneud unrhyw beth oedd angen ei wneud" er mwyn ei galluogi i barhau i gamblo.

"O'n i'n mynd heb siopa bwyd, doedd gen i ddim petrol, yr unig reswm pam oedd gen i drydan a Wi-Fi oedd oherwydd bod eu hangen arna i er mwyn gamblo," meddai.

'O'n i just methu gwneud e'

Ychwanegodd Kiki ei bod wedi sylweddoli bod ei hawydd i gamblo yn gwaethygu yn ystod yr wythnos cyn ei mislif.

Dywedodd ei bod yn fwy tebygol o ymddwyn yn fyrbwyll yn ystod y cyfnod hwnnw, "a dyna pryd y byddwn i'n gwneud penderfyniadau hyd yn oed yn waeth".

"Fi'n credu bod yna gysylltiad mawr rhwng gwneud penderfyniadau gwael ac ymddwyn yn fyrbwyll â'r cyfnod cyn eich cylch mislif," ychwanegodd.

Dywedodd mai ei phwynt isaf oedd ar ôl iddi ddwyn swm sylweddol o arian o gyfrif banc ei chyn-bartner er mwyn cael mwy o arian i gamblo.

Aeth ymlaen i ddweud ei bod wedi "ysgrifennu llythyrau at yrrwr y trên, at y teithwyr, i ymddiheuro am y trawma o'n i ar fin eu hachosi drwy ddod â fy mywyd i ben yn yr orsaf drenau," meddai.

Ond yn lle hynny, fe ffoniodd Kiki linell gymorth GamCare, sy'n cynnig cymorth am ddim i unrhyw un sy'n cael eu heffeithio gan gamblo.

"O'n i'n gwybod y byddai fy marwolaeth wedi achosi mwy o drawma i bobl eraill ac o'n i just methu gwneud e," meddai.

Canolfan adsefydlu Parkland Place
Disgrifiad o’r llun,

Mae canolfan adsefydlu Parkland Place ym Mae Colwyn yn canolbwyntio ar gaethiwed i gamblo, alcohol a chyffuriau

Mae'r BBC wedi cael mynediad at Parkland Place, y ganolfan adsefydlu ym Mae Colwyn yn y gogledd ble gafodd Abbie a Kiki driniaeth.

Mae'n cael ei rhedeg gan elusen Adferiad, ac mae yna 16 o welyau yno.

Caethiwed i gamblo, alcohol a chyffuriau ydy ffocws y ganolfan, ac maen nhw'n cynnig sesiynau grŵp a chwnsela un-i-un.

Er bod y ganolfan yn agored i wahanol rywiau, dim ond 25% o'r bobl sy'n cyrraedd am driniaeth sy'n fenywod.

Cheryl Williams
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Cheryl Williams fod y tîm wedi cydnabod effaith y cylch mislif ar ymddygiadau gamblo

Dywedodd rheolwr y ganolfan, Cheryl Williams, ei bod yn cydnabod yr heriau y gallai menywod eu hwynebu wrth fynychu rhaglen chwe wythnos o hyd.

"Efallai mai nhw yw prif ofalwyr y plant," meddai.

"Mae stigma'n bodoli gan eu bod hefyd yn cael eu gweld fel housewives ac felly ddim o reidrwydd yn gallu fforddio'r amser i ddod.

"Ond mewn gwirionedd, mae'n ffracsiwn o'u bywyd o'i gymharu â'r hyn y maen nhw wedi'i golli tra'n gamblo."

Dywedodd Cheryl fod y tîm yn Parkland Place wedi cydnabod effaith y cylch mislif ar ymddygiadau gamblo hefyd.

"'Da ni wedi sylwi efo'r menywod sydd ar fin dechrau eu cylch mislif bod gamblo'n cynyddu cyn hynny," meddai.

"'Da ni'n cadw hynny mewn ystyriaeth tra eu bod nhw yma."

Rosalind Baker-Frampton
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rosalind Baker-Frampton yn dweud bod menywod yn fwy tebygol o gamblo mewn ffordd niweidiol yn ystod cyfnodau eu mislif

Mae nifer y menywod sy'n gamblo yn y DU - a'r nifer sy'n gaeth i gamblo - ar ei uchaf erioed, yn ôl elusen Gordon Moody.

Dywedodd cyfarwyddwr clinigol yr elusen, Dr Rosalind Baker-Frampton, fod menywod yn fwy tebygol i gamblo mewn ffordd niweidiol yn ystod amrywiadau hormonaidd.

"Chi'n fwy tebygol o ymddwyn mewn ffordd niweidiol o gwmpas amser ofyliad, sef pan mae wy'n cael ei ryddhau," meddai.

"Dyna'r amser chi'n fwyaf ffrwythlon.

"Rydyn ni hefyd yn gwybod bod hyn yn wir cyn mislif menyw, pan fydd yna ostyngiad mewn progesteron.

"Mae hyn yn cynnwys pethau fel: chasio colledion, gwario mwy o arian na maen nhw moyn gwario, aros yn hirach nag y bydden nhw fel arfer yn dewis aros.

"Maen nhw'n diweddu i fyny'n gwario mwy o arian ac yn gwneud dewisiadau mwy risky o amgylch gamblo."

'Wedi gwneud gwahaniaeth enfawr'

Dywedodd yr elusen y bydd eu prosiect ymchwil gyda Phrifysgol Birmingham yn cymryd tua pedair blynedd i'w chwblhau.

"Byddwn ni'n edrych ar fenywod sy'n dod i'n canolfan driniaeth yn Wolverhampton, felly bydd gan bawb sy'n dod i mewn y dewis o gymryd rhan yn yr ymchwil," meddai Dr Baker-Frampton.

Dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn Gamblo, sy'n trwyddedu ac yn rheoleiddio'r diwydiant o gamblo masnachol: "Mae bob amser diddordeb gyda ni mewn ymchwil newydd a sut y gallai hyn wella'r sylfaen dystiolaeth er mwyn ein helpu i lywio ein hymgyrch barhaus i wneud gamblo yn fwy diogel."

Bydd ymchwilwyr hefyd yn ystyried a allai meddyginiaeth sy'n rheoleiddio hormonau helpu gyda'r teimladau o gaethiwed.

"Mae gyda ni theori bod menywod sydd ar y bilsen neu sy'n cael therapi adfer hormonau yn llai tebygol o brofi'r awydd difrifol yma i gamblo gan bod eu hormonau ar lefel fwy sefydlog drwy gydol y mis," ychwanegodd Dr Baker-Frampton.

Esboniodd Kiki ei bod hi bellach yn gwybod beth sy'n sbarduno'r teimladau a'i thebygolrwydd o gamblo yn ystod adegau penodol yn ei chylch mislif, a bod ganddi strategaethau nawr i fynd i'r afael â nhw.

"Mae 'di gwneud gwahaniaeth enfawr i fi yn y ffordd rwy'n ymdrin â sefyllfaoedd yn yr wythnosau penodol hynny o fy nghylch mislif," meddai.

"Dwi'n gwybod bod angen i mi ddangos mwy o gariad i fi fy hun yn yr wythnos cyn fy mislif, dwi'n gwybod bod rhaid i mi ddefnyddio technegau'n fwy, mae'n rhaid i mi fod o gwmpas menywod eraill sy'n gwella hefyd ac mae'n rhaid i mi droi at fy ngrŵp."

Mae'n annog rhagor o ymchwil yn y maes hwn gan ei bod yn credu bod "llawer mwy o waith i'w wneud o ran y mislif a theimlo'n gaeth i rywbeth, a beth yw'r cysylltiad rhwng hynny â gwneud y penderfyniadau gwael".

Os ydy cynnwys yr erthygl wedi effeithio arnoch chi, mae cymorth ar gael ar wefan BBC Action Line.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig