'Braint fawr' bod yn glust i wrando mewn cyfnod tywyll

MargaretFfynhonnell y llun, Margaret
  • Cyhoeddwyd

Mae Margaret o Abertawe yn un o'r dros 600 o bobl sydd yn gwirfoddoli gyda'r Samariaid yng Nghymru.

Mae hi wedi bod yn gwneud hyn ers dros ugain mlynedd, meddai, ac mae hi'n fraint i allu helpu eraill drwy fod yn glust i wrando ar ochr arall y ffôn.

Hwyl yr ŵyl?

Mae cyfnod y Nadolig, y flwyddyn newydd a mis Ionawr yn gallu bod yn gyfnod anodd i nifer, ac mae Margaret yn sicr yn gweld hynny yn y nifer o alwadau ffôn sydd yn cyrraedd canolfannau'r Samariaid yr adeg yma o'r flwyddyn.

"Mae'n gyfnod eithaf hir, ondyw e, a mae pawb wedi cael rhyw fath o syniad bod pawb arall yn mwynhau ond nhw, ond nonsens llwyr yw hynny wrth gwrs. Chi'n gallu teimlo'n hynod isel yn enwedig os y'ch chi wedi colli rhywun, a'r teimlad y'f fi'n ei alw 'y gadair wag'."

Yn ôl Margaret, mae cael sgwrs yn gallu gwneud byd o wahaniaeth; dros baned gyda ffrind, neu gyda dieithryn ar y ffôn.

SamariaidFfynhonnell y llun, Tom Morris
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r gwirfoddolwyr allan yn y gymuned

Dysgodd Margaret am y gwasanaeth pan oedd hi'n blentyn, ond rhyw ugain mlynedd yn ôl y penderfynodd wirfoddoli, a heddiw mae hi'n tua pedair awr yr wythnos o'i hamser i helpu eraill. Ar ben hynny, mae hi hefyd yn codi arian ac yn mynd allan i siarad yn y gymuned.

Mae'n brofiad hynod werthfawr iddi, meddai.

"Alla i ddweud bod fi wedi elwa mwy o wirfoddoli nac efallai dwi wedi rhoi nôl. Fi'n berson gwell fi'n credu, achos 'dy chi'n trosglwyddo'r sgiliau chi'n dysgu i'ch bywyd bob dydd.

"Yn bennaf, wrth gwrs, yw dysgu sut i wrando, achos 'y ni gyd yn credu bod ni'n gwrando'n dda ond dydyn ni ddim. Chi'n gwrando ar jôc er mwyn gwneud jôc gwell... Ond fi wedi dysgu i wrando yn well."

Cynnig clust i wrando

Dyna yw rôl y gwirfoddolwyr sy'n ateb y ffôn – gwrando – ac mae cael clust i wrando yn help mawr i'r bobl sy'n cysylltu, sy'n cael y cyfle i fwrw eu bol.

"Beth ni ddim yn gwneud yw cynghori neb, achos shwt ydych chi'n gallu rhoi cyngor i rywun oni bai bod chi yn eu sgidiau nhw? Os oes rhywun yn gofyn, gallwn ni roi rhestr o fudiadau eraill all eu helpu, neu efallai bod ni'n trafod opsiynau gyda nhw.

"A beth sy'n helpu yw'r ffaith eu bod nhw'n siarad â dieithryn, a bod ni am ddweud dim wrth neb; dydyn ni ddim yn gwybod pwy ydyn nhw, felly wrth bwy fydden ni'n dweud?!"

Ac er nad ydy Margaret byth yn gwybod gyda phwy mae hi'n siarad, ac unwaith mae'r ffôn yn ôl yn y crud, annhebygol y bydd hi byth yn siarad gyda nhw eto – mae hi'n gwybod i sicrwydd fod beth mae hi'n ei wneud yn helpu pobl, fel un dyn y daeth ar ei draws tra'r oedd hi a chriw o'i chyd-wirfoddolwyr yn Abertawe, yn cynnig cysur i bobl ar noson allan.

"Fi'n cofio'r dyn mawr 'ma yn dod lan ata i – roedd pawb yn meddwl ei fod e am ymosod arna i, ond ddim o gwbl; rhoddodd e'r cwtsh mwya' hyfryd i fi.

"Roedd e'n sibrwd yn fy nghlust i 'diolch, diolch, diolch'. Teimlais i ei law yn fy mhoced i, a phan aeth e, sylwais i fod y mhoced yn llawn arian.

"Roedd e'n amlwg wedi bod yn siarad â rhywun o'r gwasanaeth o'r blaen. Mae 'na ambell i brofiad fel yna yn aros gyda fi am byth."

Digwyddiad trafodFfynhonnell y llun, Samariaid
Disgrifiad o’r llun,

Mae sgyrsiau gyda grwpiau yn cael eu cynnal hefyd

Ac wrth gwrs, mae'r ffaith ei bod yn gallu cynnig gwasanaeth Cymraeg yn bwysig iawn iddi.

"Mae'n bwysig cael siarad yn dy famiaith, ondyw e."

Pwysigrwydd sgwrs

Ond beth sy'n digwydd pan fo Margaret yn cael diwrnod gwael ei hun? Mae hi'n gwybod o brofiad fod cael sgwrs yn gwneud byd o les.

"Yn aml ga i achwyn wrth un o fy nghyd-wirfoddolwyr, achos does yna ddim byd gwell na siarad. Cyn cychwyn ar y gwaith, ni'n cael gwared ar ein problemau ein hunain. Ac yn aml ar ddiwedd shifft, dwi'n sylweddoli bod gen i ddim problem mewn gwirionedd, o'i gymharu â rhai pobl sy'n diodde'n ofnadwy."

Mae Margaret yn teimlo yn lwcus iawn i fod yn gwneud y swydd yma, ac yn cael y cyfle i helpu eraill. Achos mae pawb angen gallu rhannu eu pryderon weithiau, meddai.

"Ambell waith, mae'r bobl yn dweud 'tho chi, 'dyna'r tro cynta' i fi siarad am hyn erioed', ac mae hynny'n fraint fawr. Ni'n gwybod fod siarad am bethau yn helpu i ddelio gyda'r broblem. Mae ei ddweud e mas yn helpu pobl i ddod i afael 'da fe.

"Mae'n shwt fraint, mae rhaid i fi ddweud. Mae'n fraint achos efallai, fory nesa', fi fydd y person ar y ffôn. Pwy a ŵyr beth fydd yn digwydd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Hefyd o ddiddordeb