Ffion Dafis eisiau 'gwthio ffiniau' yn broffesiynol ac yn bersonol

Ffion DafisFfynhonnell y llun, Theatr Bara Caws
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ffion Dafis yn credu bod byd y theatr mewn lle da, a hynny'n bennaf oherwydd y talent sydd yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd

Wrth nesáu at flwyddyn newydd, mae'n gyfle i ddechrau pennod newydd - a hynny'n sicr yn wir i'r cyflwynydd, awdur ac actor Ffion Dafis, wrth iddi baratoi i gychwyn ar ei gwaith fel cyfarwyddwr artistig newydd Cwmni Theatr Bara Caws.

Gan olynu Betsan Llwyd, mae hi'n dweud bod cael cynnig y swydd yn "gymaint o fraint", a'i bod eisiau gosod ei stamp ei hun tra'n sicrhau bod y cwmni'n parhau i deithio a gwthio ffiniau.

"Mae Bara Caws yn gwmni dwi wedi dilyn ers o'n i'n hogan ifanc iawn," meddai.

"O'n i'n ifanc iawn iawn pan weles i un o'r cynyrchiadau cynta' oedda' nhw'n gwneud, sef 'Swmba' ac o'n i ddim i fod i'w gweld hi.

"O'dd hi'n 18 oed a dwi'n meddwl 'mod i tua 15 ar y pryd a nes i sneakio mewn i gefn Canolfan Penrhosgarnedd ym Mangor!"

'Ffeindio ffyrdd newydd'

Ychwanegodd: "Bob tro ti'n mynd i rywbeth Bara Caws, mae'r lle yn llawn dop achos mae o'n ddigwyddiad yn y llefydd bach cymunedol 'ma.

"Dwi, heb os, eisiau gwneud yn siŵr mai teithio sy'n dal i fod yn graidd y cwmni.

"Mae'n heriol, yn amlwg, achos mae'r sector theatr yn mynd drwy doriadau enbyd fel bob dim yn y celfyddydau. Ond mae hynny'n wir ers degawdau.

"Ond lle'r theatr - yn enwedig y theatr yng Nghymru - ydy ffeindio ffyrdd newydd. Mae'n rhaid meddwl y tu allan i'r bocs.

"Mae eisiau bod yn gynhwysol, mae eisiau bod yn amrywiol, ac yn sicr eisiau adlewyrchu be' sy'n digwydd yn y gymdeithas Gymreig 'da ni'n byw o'i mewn."

Ffion Dafis
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Ffion Dafis yn cymryd yr awenau gyda Chwmni Theatr Bara Caws ym mis Ionawr 2026

Wrth edrych tua'r dyfodol mae Ffion eisiau gweld cwmnïau fel Bara Caws yn arwain y ffordd.

"Mae theatr yn newid," meddai. "Mae pwrpas theatr wastad wedi bod yr un fath - i dd'eud stori a chreu adloniant.

"Ond dwi'n grediniol fod tamaid o theatr i fod i gael ei bwrpas - i adlewyrchu ac i arwain y naratif yma yng Nghymru.

"Dwi ddim eisiau esgymuno dim un person, achos dwi'n gw'bod o ran byw yng nghefn gwlad, be' mae Theatr Bara Caws yn meddwl i bobl.

"Dwi ddim yn mynd i fod yn gwneud petha' sy'n mynd i fod yn difrïo neb.

"Be' dwi eisiau gwneud ydy gwthio ffiniau, ond dod â phobl efo fi, a 'dwi'n meddwl bod y balans yna'n bwysig iawn."

'O fewn trwch blewyn i beidio'

Er yr heriau sy'n wynebu'r diwydiant, mae hi'n credu bod byd y theatr mewn lle da, a hynny'n bennaf oherwydd y talent sydd yng Nghymru.

"Alla' i'm d'eud pa mor falch ydw i o sefyllfa 'sgwennu yng Nghymru ar hyn o bryd.

"Oherwydd fy swydd fel cyflwynydd rhaglen gelfyddydol Radio Cymru, dwi 'di cael y fraint yn fanno hefyd o gyfweld â gymaint o 'sgwennwyr a gw'bod be' sy'n digwydd yn ddiwylliannol ac yn gelfyddydol yma yng Nghymru.

"Mae'n 'sgwennwyr ni heb eu hail a mae'r themâu sy'n dod fyny yn themâu heriol a 'dwi eisiau rhoi'r lleisiau amrywiol 'ma ar y llwyfan."

A hithau'n actor, cyflwynydd ac awdur, mae Ffion yn bwriadu rhoi'r gorau i hynny oll er mwyn canolbwyntio ar ei rôl newydd fel cyfarwyddwr artistig.

Er nad oedd yn benderfyniad hawdd, meddai, mae'n dweud ei bod hi'n bwysig i barhau i wthio ffiniau personol wrth fynd yn hŷn.

"Mae o'n cymryd ychydig o guts i'w wneud o. 'Swn i'n ddigon hawdd fod wedi d'eud 'www falle ddim'.

"Ond o'n i'n teimlo 'mod i 'di bod yn y byd celfyddydol, y byd creadigol, yma yng Nghymru ers degawdau bellach - ac wedi pigo'r sgiliau cywir, dwi'n teimlo, ar ei gyfer o.

"Ond o'n i o fewn trwch blewyn i beidio. Dwi'n falch, yn amlwg, 'mod i wedi gwneud y penderfyniad achos 'dwi 'di peidio mynd am betha' yn y gorffennol oherwydd y peth 'ma sy'n tynnu ni'n ôl fel merched - a mae o wedi gwneud ers degawdau.

"Ond, o rywle, mi ddoth, ac yn amlwg dwi wrth fy modd!"

'Diolch o waelod calon' i Betsan Llwyd

Wrth olynu Betsan Llwyd, sydd wedi bod yn gyfarwyddwr artistig Bara Caws ers 13 o flynyddoedd, mae Ffion yn dweud bod 'na ddyled fawr i'w rhagflaenydd.

"Mae'r ffordd 'da ni'n mynd i edrych ar gyfnod Betsan, mae o'n gyfnod cynhyrchiol, mae o'n gyfnod llewyrchus iawn, iawn, iawn.

"Fydd fy sioe gynta' i ddim tan gwanwyn 2027. Mae Betsan yn mynd i fod yn cyfarwyddo ambell i beth dros y flwyddyn nesa'.

"Hefyd, 'da ni'n mynd i fod yn cyd-gyfarwyddo ambell beth, a mi fydda' i'n cyfarwyddo pethau 'dwi wedi eu hetifeddu ganddi hi.

"Faswn i'n licio diolch o waelod calon am be' ma' Betsan wedi'i wneud dros y blynyddoedd. Mae hi wedi gadael y lle mewn lle da i mi."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig