Carchar a dirwy £26,000 i ffermwr o Sir Gâr am gam-drin anifeiliaid

Llys Ynadon LlanelliFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Thomas Raymond Jones ddedfryd o 18 wythnos o garchar a dirwy o dros £26,000

  • Cyhoeddwyd

Mae ffermwr o Hendy-gwyn ar Daf, Sir Gâr wedi cael ei garcharu am gyfres o droseddau yn ymwneud â cham-drin anifeiliaid.

Bydd Thomas Raymond Jones o Fferm Penygraig yn treulio 18 wythnos dan glo a bydd rhaid iddo dalu dirwy o £26,805 yn ogystal â chostau cyfreithiol eraill.

Cafwyd Jones yn euog o 17 o droseddau yn ymwneud ag anifeiliaid domestig ac amaethyddol - oedd yn cynnwys achosi, caniatáu neu fethu ag atal dioddefaint diangen.

Mewn gwrandawiad yn Llys Ynadon Llanelli cafodd Jones orchymyn anghymhwyso hefyd - sy'n ei atal rhag cadw anifeiliaid am 10 mlynedd.

Yn yr achos tridiau o hyd, cafwyd Jones yn euog o'r holl droseddau nad oedd eisoes wedi pledio'n euog iddynt.

Roedd y rhain yn ymwneud â'r modd roedd yn gofalu am wartheg a chŵn yn dilyn ymchwiliadau gan Dîm Lles Anifeiliaid Cyngor Sir Caerfyrddin a'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion.

Cafodd yr ymchwiliadau eu cynnal yn dilyn cŵyn dienw ynglŷn â charcas buwch nad oedd wedi'i waredu'n briodol.

Yn ystod eu hymweliad ym mis Chwefror 2024, daeth swyddogion o hyd i enghreifftiau o wartheg yn cael eu cadw mewn amodau byw gwael.

Roedd sawl anifail hefyd yn gloff, gyda chyflyrau croen a gyda charnau wedi gordyfu. Daeth i'r amlwg nad oedd carcasau anifeiliaid wedi'u gwaredu'n briodol chwaith.

Roedd ci oedrannus - oedd dan bwysau ac yn ddall â chataractau ymhlith problemau iechyd eraill - hefyd yn byw mewn amodau anaddas ac yn cael ei gadw mewn "lloc bach, llawn mieri a sbwriel".

Yn dilyn archwiliad milfeddygol penderfynwyd rhoi'r ci i gysgu oherwydd lefel y dioddefaint.

Rhybuddion wedi eu cyflwyno i Jones yn 2022

Yn dilyn yr ymweliad, cafodd Hysbysiad Gwella a Hysbysiad Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid eu cyflwyno a oedd yn mynnu bod Jones yn cael gwared ar garcas buwch mewn sied ac yn gwella amodau.

Ond wrth ddychwelyd naw diwrnod yn ddiweddarach, nodwyd nad oedd gwelliannau digonol wedi'u gwneud ac nad oedd unrhyw sylw milfeddygol wedi'i geisio ar gyfer yr anifeiliaid.

Roedd Jones wedi ceisio trin y gwartheg ei hun ac wedi trefnu i dorrwr carnau ymweld â'r fferm.

Mewn ymweliad pellach gan filfeddyg, cafwyd hyd i nifer o wartheg heb dagiau clust, heb eu cofrestru'n briodol neu heb eu cofrestru o gwbl.

Daeth rhagor o enghreifftiau o anifeiliaid mewn cyflwr gwael i'r amlwg hefyd.

Roedd Swyddogion Iechyd Anifeiliaid wedi ymweld â Fferm Penygraig yn flaenorol yn 2022 yn dilyn cwynion nad oedd carcasau anifeiliaid yn cael eu gwaredu'n briodol.

Cafodd hysbysiadau a rhybuddion eu cyflwyno i Jones bryd hynny i wella arferion, ond cafodd yr un math o droseddau eu cyflawni yn 2024.

Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Les Anifeiliaid:

"Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn atgoffa pawb y byddwn ni bob amser yn hyrwyddo lles anifeiliaid da ac yn dal y rhai nad ydyn nhw'n gwneud hynny yn atebol am eu gweithredoedd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.