Gwagio pump cartref ar ôl i lyncdwll ymddangos yn Rhondda Cynon Taf
Gwagio pump cartref ar ôl i lyncdwll ymddangos yn Rhondda Cynon Taf
- Cyhoeddwyd
Cafodd pump o gartrefi eu gwagio ar ôl i lyncdwll - y maen nhw'n credu sy'n deillio o hen waith fwyngloddio - ymddangos mewn tref yn Rhondda Cynon Taf ddydd Llun.
Mae lluniau'n dangos bod cerbyd glanhau strydoedd wedi cwympo i mewn i'r llyncdwll ond yn ôl y cyngor fe lwyddodd y gyrrwr ddianc heb unrhyw anafiadau.
Fe wnaeth Heddlu'r De gau Ffordd Aber-Rhondda yn ardal Porth fel rhagofal yn dilyn y digwyddiad ond mae bellach wedi ailagor.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf mai'r Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio sy'n arwain ar y mater, "gan fod posibilrwydd ei fod yn gysylltiedig â hen weithfeydd mwyngloddio".
"Mae eu peirianwyr yn asesu'r llyncdwll, ac mae'r Cyngor wrth law i gefnogi os oes angen," ychwanegodd.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio: "Os cafodd y digwyddiad hwn ei achosi gan fwyngloddio hanesyddol, byddwn yn meddwl am ateb parhaol ac yn ei gyflwyno cyn gynted â phosibl."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.