Roger Speed, tad cyn-gapten tîm pêl-droed Cymru, Gary, wedi marw

Roger SpeedFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae Roger Speed, tad cyn-gapten tîm pêl-droed Cymru, Gary, wedi marw.

Wrth gyhoeddi'r newyddion, dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru fod Roger Speed yn "gefnogwr anhygoel o bêl-droed Cymru".

Ychwanegodd y datganiad: "Mae ei fab, Gary, yn agos at galon y byd pêl-droed yng Nghymru, a bydd cefnogaeth ac angerdd Roger tuag at y gêm yn cael eu cofio am byth.

"Mae ein meddyliau gyda'i deulu a'i ffrindiau yn ystod y cyfnod anodd hwn."

Fe wnaeth Clwb Pêl-droed Cei Connah hefyd roi teyrnged iddo gan ddweud: "Gyda thristwch mawr y mae'r clwb yn deall am farwolaeth Roger Speed, a oedd yn noddwr anrhydeddus i'r clwb, ac yn gefnogwr ers amser maith."

Rhieni Gary Speed gyda Chris Coleman cyn gêm goffa ryngwladol Gary Speed rhwng Cymru a Costa Rica, Chwefror 2012 yng NghaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Rhieni Gary Speed gyda Chris Coleman cyn gêm goffa ryngwladol Gary Speed rhwng Cymru a Costa Rica yn Chwefror 2012

Cafodd Gary Speed ei eni yn Mancot, Sir y Fflint, a bu'n cynrychioli nifer o glybiau yn cynnwys Leeds, Newcastle ac Everton yn ystod ei yrfa.

Enillodd 85 o gapiau dros Gymru a bu'n gapten ar ei wlad.

Ar ôl ymddeol o chwarae gemau rhyngwladol trodd yn hyfforddwr, gyda chyfnodau'n hyfforddi Bolton a Sheffield United tra ei fod yn dal i chwarae i'r clybiau.

Yn 2010 cafodd swydd prif hyfforddwr ei wlad, ac mae'n cael ei gofio am osod y seiliau ar gyfer un o gyfnodau mwyaf llewyrchus Cymru erioed.

Bu farw Gary Speed yn 42 oed yn Nhachwedd 2011.

Straeon perthnasol