Cyngor Gwynedd am wario £1.5m ar ddiogelu gwesty glan môr

Peiriannau trwm a sgaffaldiau o amgylch y Corbett Arms yn Nhywyn ym mis Mai
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Gwynedd wedi cytuno i wario £1.5m ar gynnal a chadw hen westy glan môr yn Nhywyn.
Roedd pryderon yn lleol am ddiogelwch a chyflwr y gwesty, fu'n llety gwyliau i John Lennon ac Yoko Ono, ac ofnau y gallai'r adeilad gael ei ddymchwel.
Mae'r Corbett Arms yn Nhywyn, Meirionnydd, wedi'i restru ac yn adeilad amlwg ar stryd fawr y dref ers canol y 19eg ganrif.
Ond bellach gyda'r gwesty mewn cyflwr sy'n dirywio'n gyflym, roedd ymdrechion hyd yma i wirio'i berchnogaeth a gorfodi gwaith trwsio brys wedi methu.
Yn dilyn sawl ymdrech aflwyddiannus i ganfod y perchennog, fe wnaeth Cyngor Gwynedd gyflwyno cais i gynnal gwaith dymchwel ar y cyn-westy 50 ystafell.

Fe wnaeth John Lennon a Yoko Ono dreulio noson yn y Corbett Arms ym Mehefin 1969 gyda'u plant, Julian a Kyoko
Er gwaetha'r ymdrechion i ddiogelu'r adeilad, bu cwymp sylweddol yng nghefn y safle a tho neuadd ddawns y gwesty yn gynharach eleni.
Er mwyn gwarchod y cyhoedd fe gafodd strydoedd cyfagos eu cau er mwyn i swyddogion fonitro'r adeilad.
O ganlyniad, cafodd cais am ganiatâd adeilad rhestredig (LBC) ei wneud gan ymgynghorydd arbenigol mewn adeiladau hanesyddol i uwchraddio rhannau o'r adeilad i'w ddiogelu.
Dywedodd y Cynghorydd Craig Ab Iago fod y Corbett Arms yn "effeithio ar fywydau trigolion Gwynedd, yn enwedig y rhai yn Nhywyn".
Pwysleisiodd fod y penderfyniad yn bwysig oherwydd nad "arian y cyngor mohono, ond arian ein pobl".

Mae rhannau o gefn y Corbett Arms eisoes wedi dechrau cwympo
Dywedodd Dafydd Wyn Williams, pennaeth amgylchedd Cyngor Gwynedd, eu bod hyd yma wedi gwario £938k ar ddiogelu'r cyhoedd a monitro'r adeilad, ac roedd y swm hwn wedi'i gynnwys yn y gronfa o £1.5m.
Dywedodd: "Mae dyletswydd ar y cyngor i gadw'r cyhoedd yn ddiogel, ac i achub yr adeilad, oherwydd ei statws rhestredig... ni allwn anwybyddu hyn.
"Rydym wedi gwneud cais am ganiatâd adeilad rhestredig, fel y gallwn ddymchwel rhan o'r adeilad i'w wneud yn ddiogel, fel y gall pethau symud ymlaen, ond mae hyn yn golygu costau sylweddol hyd yma, bron i £1m.
"Ein cyfanswm cost amcangyfrifedig fydd £1.5m.
Ychwanegodd, er nad oes gan y cyngor gronfeydd arian ar gyfer hyn, fod ganddyn nhw gyfrifoldeb i "gadw'r adeilad mor ddiogel â phosib."
"Efallai na fydd ymddangosiad yr adeilad yn llawer gwell, ond bydd yn ddiogel ac yn gadarn, ac yna bydd i bwy bynnag sy'n berchen ar y safle symud ymlaen ag ef yn y dyfodol."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mai 2025
