Gweddw methu byw bywyd normal tan bod triniaeth tiwmor yr ymennydd yn newid

Bu farw Owain James, sydd yn y llun gyda'i ferch Amelia a'i wraig Ellie, yn 2024 ar ôl cael tiwmor ar yr ymennydd
- Cyhoeddwyd
Mae menyw a gollodd ei gŵr 34 oed yn dilyn tiwmor ar yr ymennydd yn dweud na allai fyw bywyd normal tan ei bod yn helpu i newid yr amodau o ran triniaethau.
Mae Ellie James, sy'n 36 oed, wedi bod yn ymgyrchu i sicrhau bod pob ysbyty yn rhewi unrhyw feinwe sy'n cael ei thynnu allan o diwmorau ar yr ymennydd.
Mae'n galw am hyn er mwyn gallu defnyddio'r meinwe mewn brechlynnau neu waith ymchwil, a nawr mae Aelodau Seneddol am drafod y mater yn y Senedd ddydd Mercher.
Dywedodd y fam i un bod ei gŵr Owain am i'w brofiad ef "newid pethau er gwell i eraill", gan fod ei fynediad at frechlyn imiwnotherapi wedi'i gyfyngu gan mai dim ond swm bach o feinwe gafodd ei gadw ar gyfer triniaethau yn y dyfodol.
Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod yn buddsoddi £13.7m er mwyn helpu i ddatblygu triniaethau newydd ar gyfer tiwmorau ar yr ymennydd.
Ymgyrch gweddw i gleifion ddewis beth sy'n digwydd i feinwe tiwmor
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2025
'Rhwystredigaeth' teulu am driniaeth canser y GIG
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2022
Fe gafodd ymgyrch James, sy'n byw yng Nghaerffili, oedd yn galw ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru i dderbyn 'Cyfraith Owain' ei wrthod y llynedd.
Cafodd y mater ei ddadlau yn y Senedd a dywedodd yr ysgrifennydd iechyd wrth ASau y gallai cyflwyno'r ddeddfwriaeth arwain at broblemau eraill.
Mi fydd AS lleol y teulu, Chris Evans, yn arwain dadl ar y pwnc yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Mercher wrth iddi obeithio y gallai'r ddeddfwriaeth gael ei derbyn ar draws y DU.
"Mae'n meddwl popeth i mi" meddai, "ond allai ddim mynd yn ôl i fyw bywyd normal heb newid hyn."

Cafodd Owain James lawdriniaeth arweiniodd at ei diwmor yn cilio ond fe ddaethon nhw o hyd i un arall naw mis yn ddiweddarach
Roedd ei gŵr yn 34 oed pan gafodd wybod bod tiwmor malaen, cam pedwar, ar ei ymennydd.
Cafodd hanner y tiwmor ei dynnu, ac fe ddywedodd meddygon mai'r gorau'r gallen nhw ei wneud i Mr James oedd rheoli gweddill y tiwmor dros dro.
Penderfynodd Mr James a'i wraig roi cynnig ar frechlyn imiwnotherapi nad oedd ar gael ar y Gwasanaeth Iechyd.
Ond roedd angen meinwe o'i diwmor ar gyfer y brechlyn a dim ond 1cm gafodd ei rhewi - er bod 7cm wedi cael ei thynnu allan.
Yn dilyn y driniaeth hon, fe giliodd y tiwmor.
Ond fe ddaethon nhw o hyd i diwmor arall naw mis yn ddiweddarach a bu farw Mr James o Gaerffili ym mis Mehefin 2024.
Dywedodd James ei bod hi'n credu, "oherwydd y ffordd nath e ymateb i'r brechlyn gafodd ei wneud gyda'r feinwe yna, os oedd mwy wedi cael ei rhewi a mwy o'r brechlyn ar gael, yna fi'n credu y byddai fe dal yma heddiw."

Dywedodd James bod y dewis o rewi meinwe ymennydd ei gŵr wedi cael ei gymryd allan o'u dwylo
Aeth ymlaen i ddweud y byddai ei gŵr wrth ei fodd pe bai'r gyfraith yn newid er mwyn sicrhau bod rhaid i gleifion rhoi caniatâd ysgrifenedig cyn llawdriniaeth bod meinwe'n parhau'n eiddo cyfreithiol iddyn nhw, a bod unrhyw feinwe sy'n cael ei thynnu yn cael ei rhewi'n awtomatig.
"Mi fyddai fe mor falch o feddwl bod ei brofiad e wedi newid pethau er gwell i eraill sy'n cael eu heffeithio gan hyn" meddai.
"Pe bawn ni wedi cael ein hysbysu'n iawn mi fydden ni wedi dewis rhewi'r meinwe, ond cafodd y dewis yna ei gymryd ohonom ni."
Dywedodd rhywun arall sydd â thiwmor ar yr ymennydd ei fod e'n credu y byddai 'Cyfraith Owain' wedi bod yn "ddefnyddiol" i geisio ymestyn ei ddisgwyliad oes.
Cafodd Matt Collins, o Gaerdydd, ddiagnosis o glioblastoma – y math mwyaf ymosodol o diwmor ar yr ymennydd – ym mis Hydref 2023 ar ôl dioddef strôc a cholli'r defnydd o'i fraich chwith.

Dywedodd Matt Collins ei fod e'n credu y gallai deddfwriaeth fel Cyfraith Owain fod wedi ei helpu i ymestyn ei fywyd
Bu rhaid iddo gael llawdriniaeth chwech awr o hyd i gael gwared ar y tiwmor ond ym mis Gorffennaf fe gafodd wybod bod y tiwmor wedi dechrau tyfu eto.
Dywedodd y dyn 38 oed ei fod wedi llwyddo codi £100,000 ar gyfer triniaeth nad oedd ar gael ar y Gwasanaeth Iechyd – DcVax-L, sef brechlyn wedi'i deilwra'n benodol gan ddefnyddio celloedd o diwmor y claf ei hun.
Ond mae'n dibynnu ar sut mae tiwmor y claf yn cael ei storio ac oherwydd y ffordd y cafodd ei feinwe ef ei storio ar ôl y llawdriniaeth dim ond pedwar dôs oedd ar gael - yn hytrach na'r 10 roedden nhw'n bwriadu iddo ei gael yn wreiddiol.
"Fyddai ddim wedi curo'r canser, ond gallai fod wedi rhoi cwpl o fisoedd ychwanegol i mi," meddai Collins, a ddywedodd ei fod wedi cael rhwng 12 a 18 mis i fyw.
"Mae mor bwysig cael y meinwe wedi'i storio'n iawn, a bod pobl yn ymwybodol o'r opsiynau sydd ar gael iddyn nhw.
"Wnaeth neb ddweud wrtha i fod brechlyn ar gael."
'Ymchwil arloesol yn hanfodol'
Mae'r elusen Brain Tumour Research am weld cynnydd yng nghapasiti storio meinwe wedi'i rhewi ledled y DU.
Dywedodd eu Cyfarwyddwr Ymchwil, Polisi ac Arloesi, Dr Karen Noble: "Mae triniaethau sy'n cael eu teilwra'n bersonol ar gyfer tiwmorau'r ymennydd yn dibynnu ar gasglu gwybodaeth enetig fanwl am y tiwmor yn dilyn llawdriniaeth.
"Mae'r ffordd y mae meinwe'n cael ei storio ar ôl llawdriniaeth yn hollbwysig, oherwydd mae risg wirioneddol y bydd gwybodaeth bwerus yn cael ei cholli, gan atal treialon clinigol a thriniaethau arloesol."
Dywedodd llywodraeth Cymru nad oedd yr achos wedi'i wneud am ddeddfwriaeth newydd.
Ychwanegodd llefarydd: "Mae timau clinigol eisoes yn defnyddio'u harbenigedd i bwyso a mesur rhwng anghenion cleifion a helpu gydag ymchwil a therapïau newydd, a gallai gorfodi hynny gyda deddfwriaeth beryglu diagnosis amserol neu greu gwrthdaro lle mae swm y meinweoedd yn gyfyngedig."
"Byddwn yn parhau i weithio gyda Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan a chyrff eraill, i sicrhau bod arferion GIG Cymru o ran archifo meinweoedd a chynnig mynediad at brofion genomig yn parhau i fod er budd gorau ein cleifion."
Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Mae ymchwil arloesol yn hanfodol yn ein brwydr yn erbyn canser yr ymennydd fel ein bod yn cynnig y triniaethau mwyaf arloesol i gleifion.
"Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn buddsoddi £13.7m yng Nghonsortiwm Ymchwil Tiwmor yr Ymennydd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) ar draws y DU i gefnogi ymchwil arloesol a datblygu triniaethau tiwmor yr ymennydd newydd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.