Dyn o'r Bala yn bencampwr byd mewn her ffitrwydd yn America

Gwion EllisFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Gwion Ellis yn y DEKA Mile ddydd Sadwrn

  • Cyhoeddwyd

Mae bocsiwr o'r Bala wedi dod yn bencampwr mewn her ffitrwydd a phŵer yn yr Unol Daleithiau yn erbyn rhai o'r goreuon dros y byd.

Bu Gwion Ellis, 21, yn cystadlu yn DEKA Fit ddydd Gwener ac yn y DEKA Mile ddydd Sadwrn, fel rhan o ddigwyddiad ehangach dros dri diwrnod yn Miami, Florida, rhwng 5 a 7 Rhagfyr.

Gorffennodd yn bedwerydd ar y dydd Gwener, ond aeth gam ymhellach ac ennill y gystadleuaeth ar y dydd Sadwrn.

Yn ystod yr heriau, roedd yn rhaid iddo gwblhau cyfresi o weithgareddau ffitrwydd, cryfder ac ymladd drwy'r boen yn erbyn "bechgyn ffita'r byd".

Dywedodd ei fam, ar ôl ei fuddugoliaeth yn y DEKA Mile, ei bod "mor falch" o Gwion.

Gwion EllisFfynhonnell y llun, Nathan Evans Photography
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gwion ymhlith y 15 gorau trwy'r byd yn ei oedran er mwyn ennill lle i gystadlu yn Florida

Cystadlu yng nghategori dynion 18-24 oed oedd Gwion, a dywedodd wrth BBC Cymru Fyw cyn iddo fynd ei fod yn edrych ymlaen yn fawr a "100% ddim yn mynd yne i 'neud y rhife i fyny".

Er mwyn cymryd rhan yn y ddau ddigwyddiad, roedd yn rhaid i Gwion ennill ei le trwy system oedd yn rhoi safle iddo ar dabl y byd.

Yr unig reswm ei fod yn rhan o'r tabl hwnnw'n wreiddiol oedd "just i guro Geth i fod yn onest", meddai Gwion, yn jocian am ei frawd hŷn.

Gwion EllisFfynhonnell y llun, Nathan Evans Photography
Disgrifiad o’r llun,

Yn ystod gweithgareddau DEKA mae'n rhaid cwblhau sialensiau - gweithgareddau fel rhwyfo 500 metr neu gario pwysau - a rhedeg rhwng pob un

Mae Gethin yn ei helpu gyda'i hyfforddiant ffitrwydd ar gyfer bocsio, ac esboniodd Gwion y bu'n rhaid i'r ddau ymuno gyda chategori elît DEKA, gan nad oedd lle ar ôl yn yr un arferol.

Ond buan y cafodd Gwion yr "agoriad llygad" ei fod yn seithfed trwy'r byd yn ei grŵp oedran.

"Ma'n swnio fatha lot - bo' fi'n 'neud y ddau beth - ond y ffor' dwi'n sbïo arno fo, ma' genna' i ddau chance i fod yn world champion," meddai.

Gwion EllisFfynhonnell y llun, Nathan Evans Photography
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwion yn focsiwr brwd hefyd, ac yn aelod o Glwb Bocsio Maelor yng Nghefn-mawr ger Llangollen

"Dwi'n mynd yne i drio ennill," meddai Gwion, oedd hefyd yn cydnabod pa mor anodd fyddai hynny.

"Ma' gan pawb yr un chance, ond pan ti'n cael y chances 'ma - rhaid ti fynd amdani. Ti ond yn byw unwaith."

Yn yr her DEKA Fit ddydd Gwener, bu'n rhaid iddo redeg cyfanswm o bum cilometr, ond gyda 10 sialens i brofi ei ffitrwydd a chryfder rhwng yr holl gymalau redeg.

Y diwrnod canlynol, roedd Gwion yn gwneud y DEKA Mile. Y gwahaniaeth y tro hwn oedd mai dim ond milltir o redeg, mewn cyfanswm, oedd rhwng y gweithgareddau.

Gwion Ellis a gwrthwynebwrFfynhonnell y llun, Nathan Evans Photography
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r 'Bala Boy' wedi cael 22 gornest focsio, ac yn dal i fwynhau ymladd

Yn ôl Gwion, y rheswm ei fod yn cymryd rhan mewn digwyddiadau sy'n profi ei wydnwch yn erbyn poen corfforol, ydy i "wthio'n hun".

Eglurodd, wrth edrych yn ôl ar ei hun yn tyfu i fyny, nad oedd yn hoffi pwy oedd o.

"Rŵan dwi just eisiau 'neud fy hun yn prowd a 'neud teulu fi'n prowd," meddai.

"Weithie ma' pobl yn holi pam bo' fi'n neud ultra marathons a ballu - does 'ne'm rheswm - just i roi push i ti dy hun 'de."

Gwion EllisFfynhonnell y llun, Liam Fletcher
Disgrifiad o’r llun,

Cyn mynd am yr Unol Daleithiau ddydd Iau, dywedodd Gwion ei fod yn "edrych ymlaen, ond 'chydig yn nerfus a 'chydig yn excited"

Er ei dalent amlwg mewn cystadlaethau ffitrwydd, bocsio ydy gwir angerdd Gwion, a'r hyn mae wedi'i wneud erioed.

"Fel arfer dwi'n disgwyl cael fy hitio yn y 'ngwyneb i, ond ma'r teimlad yma yn r'wbeth hollol newydd i fi."

Dywedodd ei fod yn cydnabod mai bocsio ydy'r prif nod yn y pendraw, ond bod y ddau beth yn mynd law yn llaw ac yn helpu ei gilydd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig