Cau capel Cymraeg yn Lloegr ar ôl 150 mlynedd yn 'anodd iawn'

"Ma'n anodd iawn ond does dim opsiwn," medd Dewi Lloyd am gau'r capel
- Cyhoeddwyd
Mae blaenor olaf un o gapeli Cymraeg Lloegr wedi disgrifio'r penderfyniad o gau'r drysau am y tro olaf fel un "anodd iawn".
Wedi dros ganrif a hanner o wasanaethu, mae Capel Presbyteraidd Seion yng Nghroesoswallt wedi cynnal y gwasanaeth olaf dros gyfnod y Nadolig.
Yn ôl Dewi Lloyd, blaenor ola'r capel, dim ond oddeutu 10 o aelodau oedd yn mynychu bellach.
Y disgwyl yw y bydd yr adeilad yn cael ei drosglwyddo yn ôl i'r henaduriaeth.

Rhai o aelodau olaf Capel Presbyteraidd Seion yng Nghroesoswallt
Ar ôl symud o Lanrhaeadr-ym-Mochnant yn ifanc, mi gymrodd rhieni Dewi Lloyd ofalaeth dros y capel.
Yma briododd ei wraig Glenys yn 1958 ac yma cafodd eu plant eu bedyddio.
Mae'n dweud ei fod yn cofio'r capel yn llawn: "Pan ddaethon ni yma, roedd y gynulleidfa dros 200," meddai.
"Oedda' ni'n cael tri gwasanaeth bob dydd Sul a'r capel 'ma bron yn llawn bob nos Sul".
'Pobl ifanc yn dod yma i weithio'
Fel nifer o gapeli yng Nghymru, mae'r capel wedi ei gweld hi'n anodd denu cynulleidfa newydd wrth i'r rhai sydd yno ar hyn o bryd heneiddio.
"Beth oedd yn arfer digwydd yn y dre' oedd bod pobl ifanc yn dod i weithio yma, mi oedd gyno' ni ffrindiau o Flaenau Ffestiniog a Phwllheli ac ati," meddai Dewi.
"Ac mi oeddan nhw'n gweithio yma, ond ddim yn mynd adref ar benwythnos".
"Be' sy'n digwydd rwan ydy bod gan bobl gar ac maen nhw'n mynd adref, felly 'da ni 'di colli hynny o aelodau."

Côr y capel yn 1891
Wrth baratoi i gau'r drysau, mae nifer o'r aelodau wedi dychwelyd i hel atgofion.
Dywedodd Gwenda Roberts, sydd wedi bod yn aelod ar hyd ei hoes, ei bod yn cofio'r capel yn llawn gyda gwasanaethau ac eisteddfodau yn cael eu cynnal yno.
"Dyma 'nath fy merched ddweud... mae'r lle yma'n deulu. Mae'n drist iawn, ond dwi'n meddwl bod yr amser wedi dod i ni ddeud hwyl fawr."
Wrth edrych ar hen luniau, mae Glenys Lloyd yn dweud bod gan y capel a'r Gymraeg le pwysig yn y dre sydd dros y ffin.
"Roeddwn i'n crio cyn dod heddiw!"
Mae'n dweud bod y capel wedi galluogi i'r iaith Gymraeg ffynnu yn yr hen dref farchnad a hithau dal i'w chlywed yno hyd heddiw.
'Trist iawn'
Un arall sydd wedi mynychu'r gwasanaethau ers degawdau ydi Tom Davies: "Mae 'di bod yn graig i mi yn fy mywyd," meddai.
"Dwi 'di dysgu gymaint am y ffydd Gristnogol, ar y Sul oeddan ni'n dod i ddysgu am Gristnogaeth ac ymarfer yn yr iaith Gymraeg.
"Ond i droi at y Saesneg, every good thing comes to an end," meddai Tom Davies.
"Da' ni ddim yn gweld dyfodol i'r capel yn yr oes 'da ni'n byw ynddi. Ma'n drist iawn, ond ma' 'di dod â fi at y Beibl ac at bregethau gwych gan enwogion y ffydd."
Cau capel 'hynod hanesyddol' Llanfaches
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2025
'Gobaith o hyd' er gwaethaf cau un o gapeli Cymraeg Lloegr
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2025
Y capel sy'n noddfa i Gymry Cymraeg Birmingham
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2024
Wrth i nifer o gapeli brofi heriau tebyg dyw sefyllfa Seion ddim yn unigryw.
Ond mynnu mae'r gynulleidfa bod gan y capel hwn bwysigrwydd wrth gynnal yr iaith Gymraeg mewn tref yn Lloegr.
Er bod un capel Cymraeg arall yn y dref o hyd, dweud mae'r blaenor olaf Dewi Lloyd bod dod i delerau â'r penderfyniad yn ergyd iddo.
"Ma'n anodd iawn ond does dim opsiwn... a be' ddigwyddith nesa? Fydd o'n estate agents a 'for sale' fydd hi," meddai.
Gyda'r gwasanaeth olaf bellach wedi ei gynnal mae'r aelodau'n dweud y bydd yr adeilad yn cael ei drosglwyddo yn ôl i'r henaduriaeth ac yna mae disgwyl iddo gael ei werthu gan ddod â degawdau o draddodiad i ben.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.