Dros 70 o gyhuddiadau o droseddau rhyw honedig mewn cyn-ganolfan blant

Mae Robin Griffiths (chwith) ac Angus Riddell (dde) yn wynebu cyhuddiadau yn ymwneud â honiadau o gam-drin plant yn rhywiol yng nghyn-ganolfan asesu Coed Glas yn Y Fenni
- Cyhoeddwyd
Mae dau ddyn sydd wedi eu cyhuddo o ymosod yn rhywiol ar blant mewn canolfan yn Sir Fynwy bellach yn wynebu dros 70 o gyhuddiadau rhyngddyn nhw.
Mae swyddogion sy'n ymchwilio i honiadau mewn cyn-ganolfan blant yn Y Fenni wedi cyhuddo Angus Riddell a Robin Griffiths o 26 o droseddau pellach rhyngddyn nhw, ar ôl i'r ddau gael eu cyhuddo'n wreiddiol o 45 o droseddau.
Mae'r ddau ar fechnïaeth, ac mae disgwyl iddyn nhw ymddangos mewn llys ym mis Mawrth i wynebu'r cyhuddiadau newydd.
Mae'r ddau yn flaenorol wedi gwadu'r cyhuddiadau gwreiddiol mewn gwrandawiadau llys, ac mae disgwyl i'r achos yn eu herbyn gael ei gynnal ym mis Ionawr 2027.
Cafodd Riddell, 69, o Gwmbach, Rhondda Cynon Taf ei arestio ar 24 Chwefror, ac mae o wedi ei gyhuddo o 21 o droseddau ychwanegol, yn cynnwys treisio merch o dan 16 oed, ac ymosod yn anweddus ar fechgyn a merched o dan 14 oed, ynghyd ag ymosod, esgeuluso neu adael, gan achosi dioddefaint neu anaf.
Cafodd ei gyhuddo'n flaenorol ym mis Mehefin 2025 o 38 o droseddau.
Cafodd Griffiths, 66, o Flaenau Gwent yn wreiddiol, ond bellach yn byw yn Bideford, Dyfnaint, ei arestio ar 23 Chwefror, ac mae wedi ei gyhuddo o bum trosedd rhyw ychwanegol yn ymwneud â bechgyn o dan 14 oed.
Cafodd ei gyhuddo'n flaenorol ym mis Mehefin 2025 o saith trosedd.
'Fe wnawn ni wrando'
Mae Ymgyrch Spinney gan Heddlu Gwent wedi bod yn ymchwilio i adroddiadau gan nifer o ddynion a merched o droseddau rhyw a cham-drin corfforol pan yn blant, yn bennaf yng nghyn-ganolfan asesu Coed Glas yn Y Fenni, rhwng y 1970au a'r 1990au.
Ar y pryd awdurdod lleol Gwent oedd yn gyfrifol am y ganolfan, ac mae hi wedi cau ers 1995.
Yn gynharach yn y mis, fe wnaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron awdurdodi 6 o gyhuddiadau yn erbyn dau berson arall mewn cysylltiad â'r ymchwiliad.
Mae Lisa Gething, 59, o'r Fenni, sy'n weithiwr cymdeithasol gyda Chyngor Caerffili, yn wynebu pedwar cyhuddiad o ymosod, esgeuluso neu adael plentyn, gan achosi dioddefaint diangen neu anaf.
Mae Simon Bevan, 55, o Gaerffili, yn wynebu dau gyhuddiad o'r un drosedd.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Andrew Tuck o Heddlu Gwent:
"Rydyn ni yn cymryd unrhyw adroddiadau o gam-drin plant o ddifrif, ac rydym yn annog unrhyw un sydd wedi dioddef camdriniaeth neu sydd â phryderon am unrhyw un allai fod yn dioddef i siarad gyda'r heddlu.
"Fe wnawn ni wrando arnoch chi ac ymchwilio i bob trosedd, a sicrhau hefyd bod ganddoch chi fynediad at unrhyw gymorth neu gefnogaeth yr ydych ei angen."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.