'Roedda ni gyd ofn': Cofio bod yn rhan o Argyfwng Taflegrau Ciwba yn 1962

Hugh Harry Williams yn Malta, 1961, yn fuan ar ôl ymuno â'r llynges, ac ym Methel yn 2026
- Cyhoeddwyd
Am 13 diwrnod yn 1962 daeth y byd yn agosach at ryfel niwclear nag ar unrhyw adeg arall mewn hanes, ac yn rhan o'r cyfan oedd Hugh Harry Williams o Fethel.
Roedd y dyn ifanc o ardal Caernarfon wedi hwylio dros Fôr yr Iwerydd er mwyn treulio cyfnod braf yn arddangos llong newydd y llynges Brydeinig ym mhorthladdoedd yr UDA, ond fe newidiodd y cynlluniau mewn ffordd frawychus iawn.
Ychydig ddyddiau ar ôl dathlu ei ben-blwydd yn 20 oed roedd o'n hwylio mewn tywyllwch tuag at Bae Moch er mwyn chwilio am longau tanfor yr Undeb Sofietaidd rhag iddyn nhw ymosod ar yr Americanwyr.
Daeth Argyfwng Taflegrau Ciwba, pan aeth Arlywydd yr UDA John F Kennedy benben ac arweinydd yr Undeb Sofietaidd Nikita Kruschev, i gael ei gydnabod gan haneswyr fel cyfnod tyngedfennol o'r Rhyfel Oer ac un o'r cyfnodau peryclaf yn hanes y byd.
"Roedd pawb ar y llong yn ofn - hyd yn oed yr hen llongwrs," meddai Huw wrth BBC Cymru Fyw.

Huw, wedi ei gylchu, gyda gweddill adran peirianneg yr HMS Berwick
Roedd y Cymro yn un o'r ieuenga' yno, ac yntau wedi ymuno â'r llynges ddwy flynedd ynghynt pan oedd o'n 18 oed. Ar ôl hyfforddi ar yr HMS Raleigh yn Plymouth, fe aeth i Belfast gyda gweddill ei griw yn 1961 i nôl llong newydd gyda'r dechnoleg radar diweddaraf, yr HMS Berwick.
Meddai Huw: "Anti-submarine frigate oedd o - top of the range a gwanwyn 1962 roedd yn rhaid i ni gymryd rhan mewn NATO exercise o'r new Lime Jug."
Roedd 20 llong danfor yn cuddio o fewn ardal enfawr o dan wyneb Môr yr Iwerydd a'r dasg oedd eu 'dal' nhw.
Dywedodd: "Roedda ni yna, roedd 'na gychod o America yna, roedd y French yna, yr Almaenwyr a'r Iseldiroedd a'r pwrpas oedd sbotio'r submarines - a wnaeth HMS Berwick ddal 18 allan o 20. Roedd y Yanks wedi mopio."

Roedd gan HMS Berwick radar fodern ar dwr uchel yng nghanol y llong oedd yn galluogi gweld llongau tanddwr o bell
Cymaint oedden nhw wedi gwirioni, daeth gwahoddiad ar ddiwedd y gwanwyn i'r criw deithio o'r gogledd i'r de ar hyd arfordir dwyreiniol yr UDA ac ymweld â'i phorthladdoedd i ddangos y llong newydd.
Ond ar ôl tua phedwar mis, ganol Hydref, fe newidiodd pethau.
"Roedda ni yn y porthladd yn Norfolk, Virginia ac roedda ni fod i ddod adra syth o fanno, ond y peth nesa roedda ni'n hwylio i Key West," meddai Huw.
"Roedd bob dim yn gyfrinachol ond roedda ni'n gwybod bod rhywbeth yn mynd ymlaen."

Huw yn Gibralta, ar ei drip cyntaf gyda'r llynges - 18 mis ym Môr y Canoldir, cyn mynd i'r UDA yn 1962
Ar Key West, ynys fechan oddi ar arfordir Florida, mae canolfan hedfan llynges yr UDA wedi ei lleoli - lai na 100 milltir o Ciwba.
Ac yno ar 17 Hydref, fe ddathlodd Huw ei ben-blwydd yn 20 oed gyda'i wydred cyntaf o rỳm ar y llong - rhywbeth oedd yn arferiad boreol bryd hynny i longwyr oedd dros eu 20. Ond doedd neb yn awyddus am barti.
Heb i'r cyhoedd wybod, roedd Argyfwng Taflegrau Ciwba eisoes wedi dechrau.

Awyren Americanaidd yn hedfan yn agos i long nwyddau o'r Undeb Sofietaidd yn ystod yr argyfwng yn Ciwba
Ar fore'r 16 Hydref fe gafodd Arlywydd yr UDA John F Kennedy weld lluniau wedi eu tynnu gan awyren U2 o daflegrau ar ynys Ciwba. Roedd y rhain yn cadarnhau amheuon ei lywodraeth bod yr Undeb Sofietaidd yn gosod arfau niwclear ar yr ynys fyddai'n gallu cyrraedd yr UDA.
Ymateb Kruschev oedd hyn i daflegrau tebyg oedd gan yr UDA yn yr Eidal a Thwrci oedd o fewn cyrraedd Moscow.
Dros y dyddiau nesaf fe gafodd trafodaethau dwys eu cynnal yn y dirgel ynglŷn â sut i ymateb. Un opsiwn oedd ymosod ar Ciwba, gan greu risg gwirioneddol y byddai Moscow wedyn yn ymosod ar safleoedd yr UDA yn Ewrop a Thwrci.
Y penderfyniad oedd anfon llongau i'r Caribî er mwyn creu blocâd o gwmpas yr ynys ac atal unrhyw long rhag mynd ag arfau yno.

Arlywydd UDA John F Kennedy yn rhoi ei araith enwog am ei flocâd o Ciwba
Fe gyhoeddodd Kennedy y cyfan i'r byd mewn araith ar 22 Hydref, a thra'r roedd pawb yn pryderu bod y Rhyfel Oer ar fin troi'n rhyfel niwclear, roedd Huw lai na 100 milltir i ffwrdd yn Key West.
"Y rheswm oedda ni wedi mynd yna oedd Operation Lime Jug," meddai. "Roedd Kennedy ofn bod Kruschev am yrru nuclear missiles i Ciwba ar submarines, a dyna lle oedda ni'n dod fewn achos roedda nhw'n gwybod bod ganddo ni'r state of the art frigate fasa'n gallu sbotio nhw cyn yr Americans.
"Roedd petha'n flêr a roedda ni ar standby, a gafon ni ordors o action stations ac roedda ni'n barod i fynd am Ciwba.
"Pan mae'n action stations ma' nhw'n rhoi'r goleuadau i gyd i ffwrdd felly bod neb yn gallu gweld chdi a pan ti yn y porthladd maen nhw'n rhoi'r injan i ffwrdd.
"Roedda ni yn y tywyllwch a'r unig beth oedda ni'n cael i fyta oedd ship biscuits - achos tydi nhw ddim yn cwcio dim byd pan ma'n action stations - a 'mond coffi i yfad.

Protestiadau heddwch yn Llundain yn Hydref 1962
"Roedd o'n teimlo fel blwyddyn - jest yn ista yna yn disgwyl, ac yn chwarae cardiau a gwylio ffilms.
"Roedda ni fel yna am 'chydig o ddyddiau - a'r amser yn mynd yn slo iawn.
"Roedd pawb ofn, argol fawr oedd, y llongwrs hŷn hefyd, achos doedda ni ddim yn gwybod be fasa'n digwydd."
Gydag arweinwyr y byd yn erfyn am bwyll a phrotestiadau yn erbyn rhyfel, fe gafodd HMS Berwick orchymyn i fynd am Ciwba.
"Roedda ni'n darged achos ni oedd yna i sbotio nhw - ac roedda ni'n gallu gweld yn bell iawn," meddai Huw.
"Natho ni adael Key West a hwylio am ddiwrnod neu ddau a chyrraedd y Bay of Pigs tua 25 neu 26 o Hydref."

Llynges yr UDA ym Mae Guantanamo, ger Ciwba, Hydref 1962
Ond yn ffodus i Huw - a gweddill y byd - daeth Kennedy a Kruschev i gytundeb yn fuan iawn wedyn. Cytunodd yr Undeb Sofietaidd i beidio cadw'r arfau yn Ciwba ac addawodd America, yn gyfrinachol, y bydden nhw'n tynnu eu harfau nhw o Dwrci.
Gyda gwledydd y byd yn dathlu, roedd gan Huw a gweddill y criw o 248 ar ei long reswm arall i lawenhau.
Meddai: "Y peth gorau oedd, fel diolch gan y Navy, natho ni hwylio o'r Bay of Pigs i Hamilton yn Bermuda a chael wsnos cyfa' yn fana - R&R, Rest and Recuperation - ac wedyn mynd adra."
Yn fuan wedyn fe adawodd Huw'r llynges a setlo nôl yn ardal Caernarfon i fagu teulu.
Aeth yn ei flaen i weithio fel peiriannydd ym Mhwerdy Dinorwig a Saudi Arabia, cyn cael gyrfa mewn addysg - fel athro mathemateg, er bod ganddo'i le mewn hanes.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2020

- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2024

- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2024
