Dynes yn pledio'n euog i werthu tocynnau Taylor Swift ffug am £3,000

Amy Rees y tu allan i Lys Ynadon Caerdydd ddydd Llun
- Cyhoeddwyd
Mae dynes wedi cyfaddef ennill bron i £3,000 drwy werthu tocynnau ffug i gyngherddau Taylor Swift.
Fe ymddangosodd Amy Rees, 38 o Nant-y-moel ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Llun wedi ei chyhuddo o dwyllo 12 o bobl.
Clywodd y llys bod y troseddau wedi digwydd rhwng Medi 2023 a Mehefin 2024 a'i bod wedi derbyn cyfanswm o dros £2,800. Y mwyaf iddi ei gymryd gan un person oedd £623.
Siaradodd Amy Rees yn y gwrandawiad ond i gadarnhau ei manylion personol ac i bledio'n euog i'r 12 cyhuddiad.
Fe chwaraeodd Taylor Swift yn Stadiwm Principality, Caerdydd ym mis Mehefin 2024 fel rhan o'r daith Eras.
Roedd galw enfawr am docynnau ar y pryd, gyda rhai yn cael eu gwerthu ar y we am filoedd o bunnau.
Cafodd ei rhyddhau ar fechnïaeth ac mae disgwyl iddi gael ei dedfrydu ar 10 Mawrth.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.