Bachgen, 11, yn cael record byd am ddatblygu gemau fideo

Max
Disgrifiad o’r llun,

Mae Max yn datblygu gemau ers ei fod yn saith oed

  • Cyhoeddwyd

Mae bachgen 11 oed bellach yn dal Record Byd Guinness, ar ôl iddo ddangos ei dalent am ddatblygu gemau fideo.

Treuliodd Max o Benarth, Bro Morgannwg, bedair awr yn datblygu gêm gyda phum lefel unigryw yn ystod ei ymgais i dorri'r record ym mis Mai.

Ar ôl chwe mis o aros, derbyniodd e-bost o'r diwedd yn cadarnhau ei fod wedi mynd i'r llyfrau fel y datblygwr gemau fideo gwrywaidd ieuengaf erioed.

Dywedodd Max fod cyflawni'r record yn "anhygoel" a'i fod yn gobeithio y byddai'n gam tuag at ddod yn ddylunydd gemau fideo llawn amser yn y dyfodol.

MaxFfynhonnell y llun, Makerspace Penarth/Cyngor Bro Morgannwg
Disgrifiad o’r llun,

Defnyddiodd Max y Makerspace lleol, ardal sy'n cynnig mynediad at amrywiaeth o wahanol offer a chyfarpar, i ddatblygu'r gêm

Dywedodd ei dad, Trevor Baker, fod Max wedi caru codio ers iddo roi cynnig arni am y tro cyntaf yn saith oed.

Ers hynny mae wedi mynd ymlaen i gyhoeddi nifer o'i gemau ei hun, wnaeth arwain iddo anelu am y record byd.

"Gwelodd bod record ar gyfer y datblygwr benywaidd, ond nid un ar gyfer gwryw," meddai Trevor, sy'n 42.

"Felly fe wnaeth e lunio cais ac maen nhw [Recordiau Byd Guinness] yn anfon yr hyn sydd ei angen atoch chi."

Cymerodd hi bedair awr i ddatblygu'r gêm fideo i gyd ac mi gafodd Max ei arsylwi gan arbenigwyr i sicrhau nad oedd yn derbyn unrhyw gefnogaeth.

Dywedodd Max ei fod "wir wir yn hapus" o fod yn cael ei gydnabod am y gwaith caled y mae wedi'i gyflawni.

"Dwi'n hoffi codio achos beth bynnag y gallwch chi freuddwydio amdano, gallwch chi ei roi mewn iaith gôd a'i wneud yn wir," meddai.

'Syniadau trwy'r amser'

Mae Max eisiau i hyn ddod yn yrfa llawn amser, gan fod ganddo "syniadau trwy'r amser" ar gyfer gemau cyfrifiadurol newydd.

"Mae'n wych gallu eu gwneud yn wir," ychwanegodd.

Eisoes, mae Max wedi ymchwilio i gwmnïau datblygu gemau lleol ac wedi cysylltu i gael gwybodaeth am ymuno â'r diwydiant.

"Dyna ei nod mewn bywyd. Dod yn ddatblygwr gemau fideo," meddai ei dad.

Osian Taubman-EdwardsFfynhonnell y llun, Osian Taubman-Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Osian Taubman-Edwards syrthio mewn cariad gyda datblygu gemau fideo

Dechreuodd Osian Taubman-Edwards, o'r Wyddgrug, ddatblygu gemau fideo ar Roblox pan oedd yn 14 oed, ar ôl dod yn "hollol obsessed" gyda'r broses greadigol.

Mae wedi mynd ymlaen i greu rhai o'r gemau sy'n cael eu gwylio fwyaf ar y platfform, gan gynnwys Barry's Prison Run, sydd wedi cael pedwar biliwn o ymweliadau.

Fel Max, mae wedi dysgu ei hun - rhywbeth na ellir ei gyflawni ond os oes gennych chi'r "angerdd", yn ôl Osian.

"Syrthiais i mewn cariad gydag e," meddai.

"Dwi ddim yn meddwl ei fod o reidrwydd yn rhywbeth y gall unrhyw un ei wneud, y galon sydd ei hangen i'w wneud."

'Technoleg yn ein helpu'

Dywedodd Osian fod cyflwyno cyfarwyddiadau ar Youtube wedi chwyldroi'r ffordd y mae pobl yn gallu dysgu codio a rhaglennu.

"[Yn y gorffennol], roedd yn rhaid i chi fynd i'r brifysgol i astudio rhaglennu neu astudiaethau cyfryngau.

"Rŵan, dwi'n gallu gwylio fideo YouTube sylfaenol ar sut i'w wneud o, a dwi'n gallu dysgu o hynny."

Ychwanegodd Osian nad oedd o reidrwydd yn golygu bod pobl yn mynd yn glyfrach, ond bod "technoleg yn ein helpu i gyrraedd lle mae angen i ni gyrraedd yn gyflymach".

Dywedodd y cynghorydd lleol, Rhiannon Birch, fod taith Max "yn dangos yn union beth mae ein Makerspaces wedi'i gynllunio i ysbrydoli".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig