Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ymestyn cytundeb Noel Mooney

Cafodd Noel Mooney ei benodi yn brif weithredwr yn 2021 yn dilyn ymadawiad Jonathan Ford
- Cyhoeddwyd
Mae prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CBDC), Noel Mooney, wedi arwyddo cytundeb newydd fydd yn ei gadw yn y rôl tan 2030.
Ymunodd Mooney â'r gymdeithas yn 2021 yn dilyn cyfnodau yn gweithio gyda UEFA a Chymdeithas Bêl-droed Iwerddon.
Ers ei benodiad mae CBDC wedi cyflwyno strategaeth newydd 'Ein Cymru' ac wedi cymryd camau i foderneiddio a datblygu'r gamp yng Nghymru.
Mae newidiadau wedi bod i drefniant y JD Cymru Premier dan ei arweiniad tra bod rhai cynlluniau mwy dadleuol - fel ceisio denu Merthyr Town i'r Cymru Premier a chaniatáu timau Cymreig yr EFL i chwarae yng Nghwpan y Gynghrair - heb eu gwireddu.
Dywedodd Mr Mooney mewn datganiad fod y gymdeithas "ar daith arbennig".
"Rydyn ni eisoes wedi cyflawni cymaint mewn cyfnod cymharol fyr, ond mae mwy i'w wneud er mwyn sicrhau ein bod ni'n dod yn gymdeithas bêl-droed o'r safon uchaf posib.
"Rydyn ni'n benderfynol o wneud hynny cyn fy mod i'n pasio'r baton ymlaen i'r arweinydd nesaf."
Dywedodd llywydd CBDC Mike Jones fod Mr Mooney "wedi dod â lefel newydd o uchelgais a chydweithio i bêl-droed yng Nghymru sydd wedi ein galluogi i dyfu ar bob lefel".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2025

- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2025

- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2025
