Caerfyrddin: Dyn yn y llys wedi'i gyhuddo o geisio llofruddio

James McKennaFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y llu nos Fercher fod James McKenna wedi'i gyhuddo o geisio llofruddio, bod â llafn yn ei feddiant mewn man cyhoeddus, a stelcian

GanElen Davies
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 57 oed wedi ymddangos yn y llys ddydd Iau, wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio menyw mewn parc yn Sir Gaerfyrddin.

Cafodd swyddogion yr heddlu eu galw i Barc Caerfyrddin ychydig wedi 16:00 ddydd Iau 29 Ionawr wedi adroddiadau fod menyw wedi cael "anafiadau trywanu".

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod y fenyw wedi llwyddo i ddianc drwy fynedfa a galw am gymorth.

Cafodd ei chludo i'r ysbyty ac mae hi bellach wedi cael ei rhyddhau.

Cafodd y lleoliad o fewn y parc ei gau ynghyd â Heol Picton gerllaw, wrth i swyddogion yr heddlu archwilio.

Yn hwyrach ddydd Llun cadarnhaodd Heddlu Dyfed-Powys fod unigolyn wedi cael ei arestio.

Y lleoliadFfynhonnell y llun, Gruffydd Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i Barc Caerfyrddin ychydig wedi 16:00 ar ddydd Iau 29 Ionawr

Cafodd James McKenna, 57, ei gyhuddo nos Fercher o dair trosedd, sef ceisio llofruddio, bod â llafn yn ei feddiant mewn man cyhoeddus a stelcian.

Wrth ymddangos yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Iau, fe wnaeth Mr McKenna o Gaerfyrddin gadarnhau ei enw, ei ddyddiad geni a'i gyfeiriad yn unig.

Cafodd Mr McKenna ei gadw'n y ddalfa ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ar 9 Mawrth.

Ni chafodd fechnïaeth.