Dyn yn honni iddo golli £13,000 ar ôl cael ei dwyllo wrth brynu car

Sevak Maljian
Disgrifiad o’r llun,

"Fydda i'n talu am bum mlynedd am rywbeth nad ydw i'n berchen arno," meddai Sevak Maljian

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wnaeth wario £13,000 ar gar oedd - heb iddo wybod - wedi'i ddwyn, yn annog eraill i fod yn wyliadwrus.

Fe wnaeth y twyllwyr honedig defnyddio math soffistigedig o ladrad i "glonio" y car.

Prynodd Sevak Maljian, 35, gerbyd Kia EV6, heb unrhyw syniad ei fod wedi'i werthu iddo gyda dogfennau adnabod cerbyd arall, yn ogystal â rhifau adnabod a'r hyn oedd yn edrych fel llyfr log DVLA V5C dilys.

"Roedd yr holl fanylion yn cyd-fynd... doedd dim rheswm i gwestiynu," meddai Mr Maljian, o Gaerdydd.

Dywedodd yr heddlu wrth Mr Maljian fod y car wedi cael ei adrodd fel un oedd wedi'i ddwyn ac mae bellach ei atafaelu.

Mae gwasanaeth Report Fraud a Heddlu Llundain bellach yn ymchwilio i'r achos.

'Doedd dim rheswm i gwestiynu'

Gall clonio ceir fod mor syml â dwyn rhifau cofrestru, ond mae'r math yma o dwyll wedi mynd yn fwy soffistigedig, gan adael prynwyr ceir ail-law yn agored i niwed.

Dywedodd Mr Maljian, sy'n ffisiotherapydd a swyddog cymorth prosiectau gyda'r gwasanaeth iechyd, iddo weld y car trydan tair oed yn cael ei hysbysebu ar Facebook ym mis Medi.

Ar ôl anfon neges at y gwerthwr, fe wnaethon nhw gytuno ar "bris deniadol" pe bai'n talu ag arian parod.

Teithiodd i Lundain a chyfarfod y gwerthwr y tu allan i orsaf Putney ar 5 Hydref, cyn gweld y car y tu allan i'r cyfeiriad oedd wedi'i restru yn ei dystysgrif cofrestru cerbyd DVLA V5C [llyfr log].

Fel rhywun sydd â diddordeb mewn ceir ac wedi prynu ceir ail-law o'r blaen roedd Mr Maljian yn credu ei fod wedi bod yn ofalus.

"Fe wnes i'r holl wiriadau sy'n cael eu hargymell gan y DVLA," meddai wrth raglen You and Yours ar BBC Radio 4.

"Yn gyntaf, dechreuais drwy wirio'r MOT, 'nes i wirio'r milltiroedd ac yna 'nes i'r Total Car Check... dangosodd gyllid clir, HPI clir, dim damweiniau.

"Roedd yr holl fanylion yn cyd-fynd, gan gynnwys y milltiroedd, y lliw a manylebau'r car."

Dangosodd y gwerthwr iddo hefyd yr hyn oedd yn ymddangos fel llyfr log dilys, ynghyd â dyfrnodau a dogfen adnabod gyfatebol.

"Doedd dim rheswm i gwestiynu," meddai.

Y carFfynhonnell y llun, Sevak Maljian
Disgrifiad o’r llun,

Prynodd Sevak Maljian y car Kia EV6 am £13,000 ym mis Hydref

Mae gan geir hefyd VIN - rhif sydd wedi'i stampio i'r ffrâm sy'n cario prif lwyth y car - ond mae posib ei ganfod hefyd ar y ffenestr flaen, ochr y dangosfwrdd neu wrth y drws.

"Fe wnes i wirio'r rhai sy'n hawdd eu cyrraedd oedd ar y ffenestr flaen ac wrth y drws ond wnes i ddim ar y siasi oherwydd nid yw fel arfer yn lle hawdd i gyrraedd," esboniodd Mr Maljian.

Tra bod y taliad mewn arian parod yn codi ychydig o bryder, roedd yn hyderus pe bai'n gwneud yr holl wiriadau na fyddai ganddo unrhyw beth i boeni amdano.

Dywedodd Mr Maljian fod y gwerthwr wedi "ennill fy hyder ym mhob ffordd" a'i fod wedi gyrru 200 milltir adref i Gaerdydd heb broblem.

Daeth y sioc ddyddiau'n ddiweddarach pan aeth â'r car i werthwr Kia lleol i holi am y botwm sy'n agor cefn y car - oedd ddim yn gweithio.

Sylweddolodd y staff fod allweddau'r car yn rhai ffug a datgelodd archwiliad pellach nad oedd y VIN ar y siasi yn cyfateb i'r un ar y ffenestr flaen a'r drws.

Cadarnhaodd yr heddlu i Mr Maljian fod y cerbyd wedi cael ei adrodd fel un oedd wedi'i ddwyn yng Nghaint, a'i atafaelu.

Cafodd Mr Maljian, oedd wedi benthyg arian i brynu'r car, ei adael heb unrhyw beth, ac mae'n dal i orfod talu £236 y mis am y benthyciad.

"Ro'n i wir mewn sioc. Dwi'n ddioddefwr. Collais fy arian… fydda i'n talu am bum mlynedd am rywbeth nad ydw i'n berchen arno."

Dywedodd ei fod yn teimlo'n rhwystredig y gallai sawl haen ddiogelwch, dogfennau DVLA, VINs cerbydau a systemau codio allweddol gael eu hosgoi.

Mae wedi cysylltu â Kia i dynnu sylw at y ffaith bod y car yn dal i fod o dan warant ac na ddylai fod wedi gallu osgoi'r system ddiogelwch ar "eitem mor werthfawr".

Dywedodd llefarydd ar ran Kia eu bod wedi eu "tristau" am yr hyn ddigwyddodd, gan roi cyngor i Mr Maljian barhau i weithio gyda'r heddlu a'r DVLA.

Dywedodd llefarydd ar ran y DVLA: "Rydym yn deall pa mor ofidus y gall troseddau cerbydau fod.

"Er mwyn helpu i leihau'r risg o dwyll, rydym yn annog prynwyr i ddilyn y canllawiau ar GOV.UK - megis gwirio manylion rhif adnabod cerbyd a chadarnhau hunaniaeth y gwerthwr.

"Dylai unrhyw un sy'n credu eu bod yn ddioddefwr twyll gysylltu â'r heddlu drwy Report Fraud ar unwaith."

Mae'r achos yn cael ei ymchwilio gan Report Fraud ar hyn o bryd - Action Fraud gynt - a Heddlu Llundain, sydd wedi derbyn cais am ymateb.

'Gwirioneddol ofnadwy'

Er nad oes ffigyrau swyddogol ar gyfer clonio ceir ledled y DU, mae sefydliad moduro yr RAC yn credu ei fod "yn gynyddol gyffredin".

Disgrifiodd Simon Williams o'r RAC achos Mr Maljian fel un "gwirioneddol ofnadwy".

"Mae troseddwyr y dyddiau hyn yn mynd i drafferthion anhygoel ac maen nhw'n dwyn ceir ac yn trechu systemau diogelwch yn hawdd iawn yn anffodus," meddai.

Ychwanegodd fod Mr Maljian wedi gwneud llawer o'r gwiriadau cywir a'i fod yn teimlo bod bodolaeth yr hyn oedd yn ymddangos fel llyfr log DVLA dilys yn arbennig o bryderus.

Anogodd brynwyr i wirio bod y gwerthwr wirioneddol yn byw yn y cyfeiriad ar lyfr llog y V5C, gwirio pob VIN, gan gynnwys y siasi, ac ystyried prynu gan werthwyr adnabyddus yn hytrach.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.