Angen 'dadl ffyrnig' am yr 'argyfyngau amgylcheddol' cyn yr etholiad

Mae Cyfeillion y Ddaear wedi cyhoeddi adroddiadau ar gyflwr yr amgylchedd ym mhob un o etholaethau newydd Senedd Cymru
- Cyhoeddwyd
O afonydd brwnt i fygythiad llifogydd, mae Cymru'n wynebu "argyfyngau amgylcheddol sy'n pentyrru," medd ymgyrchwyr.
Mae Cyfeillion y Ddaear yn rhybuddio bod yna fwlch yn datblygu rhwng awydd y cyhoedd am weithredu ar lygredd, a'r hyn y mae gwleidyddion yn ei gynnig.
Maen nhw wedi cyhoeddi cyfres o adroddiadau, sydd wedi'u rhannu â rhaglen BBC Politics Wales, yn asesu cyflwr yr amgylchedd ym mhob un o 16 etholaeth newydd y Senedd.
Daw wrth i academydd blaenllaw ragweld y bydd "dadlau ffyrnig" dros faterion gwyrdd yn ystod yr ymgyrch, wrth i'r pleidiau ddefnyddio'r maes fel ffordd o wahaniaethu rhwng ei gilydd.

Mae Kathy Oakwood wedi bod yn profi ansawdd dŵr ar ei hafon leol
Mae Kathy Oakwood yn un o nifer o wirfoddolwyr sydd wedi bod yn profi ansawdd dŵr Afon Tawe ger Clydach yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan ddiweddaru bas data cenedlaethol.
Sbardun y gwaith oedd pryderon am ollyngiadau o safle trin dŵr gwastraff sydd bellach wedi'i adnewyddu - yn ogystal â phryder am lygredd yn fwy cyffredinol mewn afonydd a'r môr.
"Mae'n anodd credu - bod yna draethau sy'n gallu bod yn no-go areas oherwydd y llygredd yma," dywedodd.
"Ry'n ni yn yr 21ain ganrif, mewn gwlad gyfoethog - ddyle hyn ddim fod yn digwydd."

Mae cyflwr afonydd Cymru wedi denu cryn sylw yn ystod y blynyddoedd diwethaf
Nid dyma yw ei hunig bryder am gyflwr byd natur.
"Beth sy'n fy nharo i yw ein bod ni ar groesffordd o ran yr amgylchedd - ry'n ni ar ddechrau beth allai fod yn newid difrifol yn yr hinsawdd," meddai, gan grybwyll achosion diweddar o lifogydd gwael yn lleol a thanau gwyllt.
Mae'n gobeithio y bydd gwleidyddion yn ymdrin â'r materion yma yn ystod yr ymgyrch etholiadol.
"Dwi yn deall gyda chostau byw yn cynyddu a bygythiadau o wahanol wledydd ar draws y byd bod 'na lot ar feddwl pobl," meddai.
"Ond os na gewn ni hyn yn gywir yna ry'n ni'n gadael gwaddol ofnadwy i genedlaethau'r dyfodol."
45,000 safle llygredig
Mae adroddiadau Cyfeillion y Ddaear yn cynnwys data o nifer o ffynonellau ac yn dangos bod:
Dros 45,000 o safleoedd tir llygredig wedi'u hadnabod yng Nghymru;
970 o ysgolion yn dioddef lefelau llygredd aer PM2.5 sy'n uwch na chanllawiau diogel Sefydliad Iechyd y Byd;
786,4440 o dai (58%) â chyfradd effeithlonrwydd ynni gwael, gan olygu bod teuluoedd yn wynebu "biliau uchel tra'n byw mewn amodau oer a thamp".
Etholiad 2026: Beth yw fy etholaeth i?
- Cyhoeddwyd7 Mai 2025
Sut mae pleidleisio mewn etholiad i'r Senedd?
- Cyhoeddwyd7 Mai 2025
Dywedodd Haf Elgar, cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear yng Nghymru bod yna dystiolaeth o "broblemau amgylcheddol dwys sy'n effeithio ar gymunedau a phobl yn ogystal â natur".
"Mae yn bryder bod newid hinsawdd heb fod mor uchel ar yr agenda wleidyddol mewn blynyddoedd diweddar a da ni wedi gweld y consensws rhyngwladol... yn gwanhau," meddai.
"Ond os da ni yn edrych ar arolygon barn mae pobl yng Nghymru eisiau i wleidyddion weithredu."
"Weithiau mae pobl yn meddwl bod yr amgylchedd yn bwnc sy'n bodoli mewn rhyw wacter - yn fyd natur a chefn gwlad - ond nid felly mae hi mewn gwirionedd," meddai.
"Mae angen taclo'r heriau yma ar y cyd â'r argyfwng costau byw a chynnig datrysiadau fydd yn gwella bywydau pobl."

Mae'r Athro Michael Woods yn disgwyl "dadlau ffyrnig" dros faterion amgylcheddol yn ystod yr ymgyrch etholiadol
Dywedodd yr Athro Michael Woods o adran ddaearyddiaeth ddynol Prifysgol Aberystwyth ei fod yn disgwyl "y gwnawn ni glywed llawer iawn yn fwy am yr amgylchedd yn ystod yr etholiad yma" nac o'r blaen.
Roedd newidiadau i gymorthdaliadau amaeth, ffermydd gwynt a pheilonau, carthffosiaeth a thrafnidiaeth yn debygol o fod yn bynciau llosg amlwg mewn etholaethau penodol, meddai.
Roedd ffraeo diweddar am gynllun Llywodraeth Lafur Cymru am daliadau amgylcheddol i ffermwyr wedi arwain at gyhuddiadau "nad oedden nhw'n deall cymunedau gwledig yn llwyr", esboniodd, a'r gwrthbleidiau - yn enwedig Reform a'r Ceidwadwyr - wedi neidio ar hynny.
Roedd Reform wedi bod yn "gwthio safbwynt mwy amheugar" ar yr ymdrech i gyrraedd targedau sero net, gan sôn am "faich rheolau amgylcheddol", meddai.
"Mae hyn efallai hefyd yn tynnu'r Ceidwadwyr yn nes at y safbwynt hynny" mewn ymdrech i gadw gafael ar eu pleidleiswyr traddodiadol.

Mae ffermydd gwynt, llygredd afon a chymorthdaliadau amaeth yn debygol o fod yn bynciau llosg
Roedd pleidiau ar y chwith - yn enwedig Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol - yn wynebu "gorfod cydbwyso bod yn ymroddedig i weithredu ar newid hinsawdd" heb elyniaethu "craidd o bleidleiswyr sy'n bodoli yng nghefn gwlad Cymru".
Mae protestio am beilonau yn y canolbarth a'r gorllewin wedi rhoi pwysau ar Blaid Cymru, sy'n ffafrio rhoi llinellau trydan dan ddaear er bod y diwydiant yn dweud fod hynny'n rhy gostus.
"Mae'n bosib y gwelwn ni bleidiau fel Llafur yn cymryd mantais o hynny," tra bod cyfle i'r Blaid Werdd gyflwyno "safbwynt mwy radical a neilltuol".
Roedd y cynnydd yn y gefnogaeth i'r Blaid Werdd yn y polau piniwn yn rheswm arall pam y byddai pynciau amgylcheddol yn denu mwy o sylw, meddai.
Roedd ymgyrchu ar gyflwr Afon Gwy wedi helpu'r Blaid Werdd ennill sedd yn San Steffan yng ngogledd sir Henffordd yn 2024, tra bod y Democratiaid Rhyddfrydol wedi rhoi pwyslais ar lanhau afonydd fel rhan o'u cynnig nhw i bleidleiswyr.
Beth yw safbwynt y pleidiau?
Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru fod y llywodraeth bresennol wedi cymryd camau "i amddiffyn dros 52,000 o dai a busnesau rhag llifogydd yn ystod tymor y Senedd hon gyda mwy o fuddsoddiad nag erioed o'r blaen" a bod "Deddf Aer Glân nodedig" wedi'i phasio hefyd.
"Os cawn ein hail-ethol, byddwn yn glanhau ein hafonydd drwy ailwampio'r system ddŵr yn llwyr, gyda chorff gwarchod dŵr newydd a Bil Dŵr Glân i Gymru," ychwanegodd y blaid.
Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Werdd fod ymchwil Cyfeillion y Ddaear yn dangos bod y llywodraeth bresennol wedi "colli rheolaeth dros ddiogelu ein hamgylchedd ar gyfer pobl a natur".
Os byddai'r blaid yn cael ei hethol, byddai'n dwyn cwmnïau dŵr i gyfrif ac yn pwyso am "berchnogaeth gyhoeddus wirioneddol i dorri'r taliadau dyled sy'n pentyrru'r punnoedd ar filiau pobl", medden nhw.
Dywedodd Reform UK Wales fod record Llafur "ar ddiogelu ein dyfrffyrdd wedi bod yn ofnadwy".
"Ac er gwaethaf llifogydd hynod ddinistriol ddiwedd y llynedd yn ne ddwyrain Cymru, ychydig iawn o arwydd yr ydym wedi'i weld bod llywodraethau ar y naill ben a'r llall o'r M4 o ddifrif ynglŷn ag atal llifogydd," ychwanegon nhw.
Dywedodd llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig na allai'r wlad fforddio "degawd arall o gerdded yn eu cwsg tuag at argyfwng".
"Bydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn rhoi blaenoriaeth i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ac, wrth wneud hynny, yn lleihau costau byw trwy greu mwy o swyddi yn yr economi werdd ac inswleiddio cartrefi i dorri biliau ynni."
Dywedodd Plaid Cymru fod "bygythiadau amgylcheddol fel llifogydd, tirlithriadau a llygredd yn dangos nad yw'r argyfyngau hinsawdd a natur yn bethau sydd ar y gorwel, ond yn effeithio ar ein ffordd o fyw yn y presennol yng Nghymru."
"Er bod rhai pleidiau'n dewis anwybyddu'r materion hyn, mae Plaid Cymru yn gwybod nad yw gohirio gweithredu brys i lywodraethau'r dyfodol yn opsiwn: mae'n rhaid i ni weithredu nawr, a gweithredu'n radical, i achub ein ffordd o fyw."
Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig: "Ers i Lafur ddod i rym yn San Steffan, mae ffigyrau Asiantaeth yr Amgylchedd yn dangos bod digwyddiadau llygredd dŵr difrifol wedi cynyddu o'i gymharu â than Llywodraeth Geidwadol y DU yn 2023".
"Ni fydd cynlluniau ar gyfer rheoleiddiwr newydd yn atal gollyngiadau carthffosiaeth, ni fyddant yn trwsio seilwaith sydd wedi torri ac ni fyddant yn atal cynnydd pellach mewn biliau dŵr."