Dychwelyd mainc i Fôn ar ôl ei darganfod ar draeth yn Lloegr

Roedd y fainc wedi ei gosod ym Mhorth Llechog ar Ynys Môn
- Cyhoeddwyd
Mae mainc deyrnged oedd wedi'i gosod ar Ynys Môn wedi cael ei dychwelyd i'r teulu ar ôl cael ei darganfod 80 milltir i ffwrdd yng ngogledd Lloegr ar ôl storm ddifrifol.
Roedd y fainc wedi ei gosod ym Mhorth Llechog ar Ynys Môn i goffáu Bill Batcock, a fu farw o lewcemia yn 2018.
Ond cafodd y fainc ei chwythu i'r môr yn ystod Storm Darragh ym mis Rhagfyr.
Cafodd ei darganfod 80 milltir i ffwrdd ar Draeth Drigg yn Cumbria, ac mae teulu Mr Batcock wedi bod yno yn ei chasglu, cyn ei dychwelyd i Fôn.
Yn ôl y teulu, mae ymdrech pobl yn Cumbria i'w dychwelyd i'w lleoliad gwreiddiol yn "adfer eich ffydd mewn pobl".

Cafodd y fainc ei darganfod 80 milltir i ffwrdd ar Draeth Drigg yn Cumbria
Roedd aelodau o grŵp Facebook lleol yn Cumbria wedi darganfod y fainc a chysylltu gyda merch Mr Batcock, Helen Wharton, i ddweud wrthi fod y fainc yno.
Roedd Mr Batcock, o Warrington, yn hoff iawn o arfordir a mynyddoedd Cymru, yn ôl ei ferch.
"Roedd Dad yn gymaint o anturiaethwr, i feddwl ei fod wedi mynd ar un antur arall, mae jyst yn gwneud i fi wenu," meddai Ms Wharton.

Roedd y fainc wedi dod i'r amlwg ar Draeth Drigg ger pentref Seascale
Dywedodd Ms Wharton nad oedd ganddi hi a'i theulu "unrhyw syniad" bod y fainc wedi diflannu yn ystod Storm Darragh ym mis Rhagfyr.
Dywedodd ei bod wedi cael sioc o dderbyn neges ar y cyfryngau cymdeithasol gyda llun o'r fainc wedi'i gosod rhwng twyni tywod ar Draeth Drigg ger pentref Seascale.
"Do'n i methu credu'r peth. Roedd y cyfan mor rhyfedd," meddai.
Fe wnaeth ei thad ofyn am osod y fainc ar Borth Llechog "gan ei fod eisiau edrych allan ar draws y môr, ar draws yr arfordir a'r mynyddoedd, tuag adref", meddai.

Bu farw Bill Batcock o lewcemia yn 2018
Roedd geiriau o un o'i gerddi ei hun wedi eu gosod ar blac ar y fainc, oedd yn darllen: "I mi, mae'n rhaid iddo fod y môr."
Dywedodd Ms Wharton wrth y BBC fod y neges bellach yn "eithaf eironig" o ystyried taith ryfeddol y fainc.
Mae'r ymgyrch i ddychwelyd y fainc wedi bod yn "hyfryd iawn", meddai.

Aeth y teulu i Cumbria i gasglu'r fainc yr wythnos ddiwethaf
Dywedodd Megan O'Gorman, sy'n rhedeg y grŵp Facebook lleol ei bod yn benderfynol o ddod o hyd i'r teulu.
"Meddyliais i, pwy yw'r person yma, o le mae'r fainc yma wedi teithio?" meddai.
Ychwanegodd Ms Wharton: "O feddwl am fy nhad, doedd dim byd yn ei glymu i lawr."
Fe wnaeth y teulu deithio i Cumbria ddydd Gwener i gasglu'r fainc, a'r gobaith yn y pendraw ydy ei dychwelyd i'w lleoliad gwreiddiol ar Ynys Môn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2021

- Cyhoeddwyd21 Mai 2023
