Honiad AS am blant yn hunan-adnabod fel cathod yn gamwybodaeth 'anghyfrifol'

- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhuddo gwleidydd Reform o ledu camwybodaeth "anghyfrifol" ar ôl iddi ddweud bod gwleidyddion ym Mae Caerdydd yn hapus i weld plant yn hunan-adnabod fel cathod.
Gwadodd gweinidogion yr honiad a wnaed gan Laura Anne Jones, a ddywedodd wrth y Senedd yr wythnos diwethaf fod Llafur a Phlaid Cymru wedi "ystyried" y syniad, heb ddarparu tystiolaeth.
Mae Jones wedi postio'r araith ar Facebook, lle mae wedi cael ei gweld 32,000 o weithiau a'i rhannu mwy na 600. Gwrthododd Plaid Cymru ymateb.
Dywedodd yr AS mewn datganiad fod y mater wedi cael ei "godi" gyda hi gan rieni.
Gofynnodd BBC Cymru iddi am enghreifftiau lle roedd Llafur a Phlaid Cymru wedi cymeradwyo plant yn hunan-adnabod fel cathod, ond ni ddarparodd ei swyddfa unrhyw enghreifftiau.
'Camwybodaeth'
Mae honiadau bod plant yn uniaethu fel cathod mewn ysgolion wedi bodoli ers nifer o flynyddoedd. Yn 2023, gorfodwyd ysgol yng Nghymru i wadu sibrydion ar-lein ei bod yn darparu bocs gwastraff (litter tray) i ddisgyblion sy'n uniaethu fel cathod.
Ysgrifennodd Ysgol Gorllewin Mynwy ym Mhont-y-pŵl, sydd yn y rhanbarth y mae Jones yn gwasanaethu fel AS, at rieni i ddweud nad oedd yn gwneud "unrhyw ddarpariaeth ar gyfer unrhyw ddisgyblion a allai uniaethu fel anifail o unrhyw fath".
Cyfaddefodd y cyflwynydd podlediad o'r Unol Daleithiau, Joe Rogan, yn 2022 ei fod wedi tanio trafodaeth am y mater ar-lein wedi honiad a wnaeth ar ei sioe.

Mae Laura Anne Jones wedi gwrthod rhannu enghreifftiau o'i honiadau
Gwnaeth Jones - a ddaeth yn AS Reform yr haf diwethaf wedi iddi adael y Ceidwadwyr - yr honiad mewn araith yn y Senedd ddydd Mawrth diwethaf wrth iddi feirniadu dull system addysg Cymru o ymdrin â'r mater trawsryweddol.
Dywedodd: "Mae Llafur Cymru, wedi'i gymeradwyo gan Blaid Cymru, hyd yn oed wedi ystyried y syniad - gwallgofrwydd llwyr - plant yn hunan-adnabod fel cathod, gan ei drin fel rhywbeth hollol normal."
Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth BBC Cymru: "Rydym yn gwadu hyn yn bendant."
Ychwanegodd llefarydd: "Mae hyn yn honiad anghyfrifol yn seiliedig ar gamwybodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol."
Yn ei datganiad dywedodd Jones fod rhieni wedi codi'r mater gyda hi, gan ofyn am eglurder ar y mater at y dyfodol.
Gofynnwyd i'w llefarydd pa rieni oedd wedi cysylltu, ym mha ysgolion a phryd.
Dywedodd y llefarydd nad oedd yn barod i rannu manylion y rhieni, gan y byddai'n torri rheolau diogelu data.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2025

- Cyhoeddwyd10 Medi 2025

- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2025
