Gwaharddiad Cymru ar fagiau siopa untro wedi'i ohirio

- Cyhoeddwyd
Mae cynllun i wahardd bagiau plastig untro a thybiau tecawê polystyren yng Nghymru eleni wedi'i ohirio.
Roedd Llywodraeth Cymru eisiau ymestyn y rheolau presennol ar blastigau yn y gwanwyn, ond maen nhw'n dweud nad yw'n "hyfyw" cael caniatâd gan Lywodraeth y DU mewn pryd.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn dal i ymrwymo i'r gwaharddiad, ond nid ydyn nhw wedi rhoi dyddiad.
Mae rheolau sy'n gwahardd platiau plastig untro, cyllyll a ffyrc, cymysgwyr diodydd, ffyn balŵn ac eitemau eraill eisoes mewn grym.
Mae cyfraith a gyflwynwyd yn ystod prif weinidogaeth Boris Johnson yn golygu bod angen i weinidogion yn San Steffan gytuno gyda Llywodraeth Cymru cyn gwahardd cynhyrchion.
Mae Deddf Marchnad Fewnol y DU (UKIMA) yn golygu y dylai nwyddau y gellir eu gwerthu mewn un genedl yn y DU allu cael eu gwerthu mewn un arall, hyd yn oed os yw cyfraith a basiwyd gan Senedd Cymru yn gwahardd hynny rhag digwydd.
Gall llywodraethau datganoledig ofyn am roi "eithriad", a all ymestyn i ardaloedd eraill o'r DU, ac mae'r rhan fwyaf o waharddiad plastig untro Cymru mewn grym oherwydd caniatâd a roddwyd i lywodraeth yr Alban yn 2022.
Aeth cyfraith plastigau Llywodraeth Cymru, a basiwyd gan y Senedd yn 2022, ymhellach na rhannau eraill o'r DU.
Mae'n cynnwys bagiau plastig untro, caeadau polystyren ar gyfer cwpanau tecawê a chynwysyddion bwyd cyflym, a chynhyrchion wedi'u gwneud o blastig ocso-ddiraddadwy.
Ond ni chafodd y tair eitem eu cynnwys yn y rhestr o eithriadau.
Mae UKIMA yn parhau mewn grym o dan Lywodraeth y DU Syr Keir Starmer.
Cynlluniau i wahardd bagiau siopa plastig untro
- Cyhoeddwyd20 Medi 2022
'Rhaid symleiddio' ailgylchu plastig
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2021
Pecyn cig newydd i 'arbed tunelli o wastraff plastig'
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2021
Bedair blynedd yn ôl, roedd Llywodraeth Cymru wedi mynnu bod ei gwaharddiad ar blastigau yn "gwbl orfodadwy" ac nad yw'r UKIMA "yn gallu ac nad yw'n torri ar draws" pwerau'r Senedd.
Ond mewn cyhoeddiad brynhawn Mercher, cyfeiriodd Llywodraeth Cymru at yr un gyfraith fel y rheswm pam na allent fwrw ymlaen.
Dywedodd datganiad i'r wasg gan y Gweinidog Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, fod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ddefnyddio proses o'r enw fframweithiau cyffredin fel "y mecanwaith allweddol i gytuno ar gydweithrediad polisi a rheoli gwahaniaeth".
"Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio ar y cyd drwy'r brosesau fframwaith cyffredin i gytuno ar waharddiad y UKIMA sydd ei angen ar gyfer y ddeddfwriaeth hon.
"Mae hyn yn golygu nad yw bellach yn hyfyw cytuno ar waharddiad o dan yr UKIMA, a deddfu yn ei gylch, mewn pryd i weithredu'r 'gwaharddiadau cam 2' sy'n weddill yn nhymor hwn y Senedd.
"Rydyn ni eisoes wedi dechrau gweithio gyda llywodraethau eraill y DU yn y fframweithiau cyffredin ar gynnig ar gyfer gwaharddiad yr UKIMA.
"Rydyn ni'n parhau i fod wedi ymrwymo i wahardd caeadau polystyren ar gyfer cwpanau neu gynhwysyddion bwyd tecawê, bagiau siopa plastig untro neu gynhyrchion wedi'u gwneud o blastig ocso-ddiraddiadwy, ac yn gweithio tuag at wneud hyn gyn gynted ag y bo modd."